Mae Canolfan Pererin Mary Jones ger y Bala yn dathlu deng mlynedd ers yr agoriad swyddogol yn 2014.

Mae’r ganolfan yn goffâd teilwng i Mary Jones, gyda nifer yn dilyn ôl ei throed 200 mlynedd yn ddiweddarach, sy’n brawf bod ei gwaddol yn parhau.

Yn 15 oed, fe gerddodd Mary Jones, merch o sir Feirionnydd, 26 milltir o Lanfihangel-y-Pennant i’r Bala i brynu Beibl.

Wrth siarad â golwg360, dywed Nerys Siddall, Rheolwraig Canolfan a Swyddog Addysg Pererin Mary Jones, fod “enw Mary Jones wedi mynd o amgylch y byd oherwydd yr ymdrech a’i hangerdd i gael Beibl Cymraeg ei hun”.

Ysbrydolodd ei hangerdd a’i hymdrech y Parchedig Thomas Charles i gychwyn y Gymdeithas Feiblaidd Brydeinig a Thramor yn 1804, ac mae hi bellach yn fyd-eang.

Mae’r gymdeithas yn gweithio tuag at yr un nod, sef cyfieithu, cynhyrchu a dosbarthu Beiblau o amgylch y byd.

Roedd y Gymdeithas yn awyddus i agor canolfan yn y Bala oherwydd y cysylltiadau cryf â Thomas Charles, ac yn awyddus i gael rhywle i adrodd hanes Mary Jones a gwreiddiau Cymdeithas y Beibl.

Beibl i bawb o bobol y byd

Mae pobol ledled y byd yn teithio i’r ganolfan i dalu teyrnged i Mary Jones – o Awstralia i America.

Mae ei thaith wedi golygu bod yna feiblau fforddiadwy mewn ieithoedd amrywiol ar gael o gwmpas y byd.

Y gobaith yw y bydd y Beibl gwreiddiol, sydd yng Nghaergrawnt ar hyn o bryd, yn dychwelyd i’r Bala ym mis Medi ar ymweliad hollbwysig.

“Mi fydd yn wych cael y Beibl gwreiddiol yn ôl i’r Bala am ychydig o ddyddiau,” meddai Nerys Siddall.

“Roedd yn drawiadol yr amrywiaeth o bobol ddaeth i weld y Beibl – rhai wedi cael eu magu gyda’r hanes ac wedi cael ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth, a rhai ddim o gefndir crefyddol oedd yn rhyfeddu at ymdrech y ferch ifanc i gael Beibl Cymraeg ei hun.

Bydd Dr Onesimus Ngundu, curadur Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt, yn ymweld â’r ysgolion lleol fel bod y plant yn cael cyfle i’w weld a chael clywed a dysgu am yr hanes.

 

Nerys Siddall, Rheolwraig a Swyddog Addysg Canolfan Pererin Mary Jones

Y Ganolfan

Yn rhan o’r dathliadau, fe lansiodd y ganolfan fis Mawrth, gan newid ei henw o Fyd Mary Jones i Ganolfan Pererin Mary Jones.

Mae’r gair ‘pererin’ yn cyfleu’r ystyr a’r hanes yn glir, ac yn dangos bod y daith wir yn ganolbwynt yno, yn ôl Nerys Siddall.

“Rydym yn annog ymwelwyr tra maen nhw yn y ganolfan i ystyried eu taith nhw a lle gall y stori fynd â nhw,” meddai.

Wrth ymweld â’r ganolfan, gall pobol ddysgu am yr hanes drwy wrando ar ffilm fer sy’n crynhoi’r stori.

Mae hefyd yn lleoliad sy’n cynnig gofod ar gyfer digwyddiadau megis encil a gweithdai, a gall grwpiau gynnal cyfarfodydd gweddi a digwyddiadau cenhadol yno hefyd.

Mae modd dysgu am hanes y Beibl yng Nghymru, gyda chyfeiriadau pwysig at William Morgan a Thomas Charles.

Mae gweithgareddau amrywiol ac ardal i blant yng Nghefn Eglwys Llanycil, yn ogystal â’r maes chwarae a’r caffi yn y ganolfan hefyd.

Rhan arall o’r prosiect yw dylunio byrddau gwybodaeth newydd fydd yn cael eu gosod ar hyd taith Mary Jones.

“Rydym yn cydweithio yn agos gydag awdur llyfr Taith Mary Jones ar y prosiect,” meddai Nerys Siddall wedyn.

“Mae’r byrddau gwybodaeth yn cynnig gwybodaeth werthfawr sy’n amlygu nodweddion unigryw gwahanol lefydd ar hyd y daith, sy’n cyd-fynd a’r llyfr Taith Mary Jones.

“Y gobaith wedyn yw tynnu sylw mwy o bobol at y daith a’u hannog i’w gwneud eu hunain i ddilyn ôl troed Mary Jones.

Digwyddiadau eraill i bwysleisio’r degawd

Ym mis Mehefin, cafodd sioe gerdd am Mary Jones, Greater than Gold, ei chynnal yn y Bala.

Roedd côr eglwysi Penllyn yn canu amryw o’r caneuon o’r fersiwn Gymraeg, sef Mwy nag Aur.

Mae’r Ganolfan wedi derbyn grant fydd yn eu galluogi nhw i gynnal dau berfformiad y dydd am wythnos gyfan o sioe Mary Jones gan gwmni Mewn Cymeriad.

Dywed Nerys Siddall ei bod yn “ffordd o ddod â’r hanes yn fyw drwy ddrama ryngweithiol, a bydd y plant yn cael cyfle i gymryd rhan hefyd.”