Gall siaradwyr Cymraeg sy’n dioddef o or-bryder dderbyn cymorth ar-lein am ddim drwy gyfrwng eu mamiaith.

Gofod o Orbyder yw’r drydedd raglen therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) i gael ei chyfieithu i’r Gymraeg, ac mae’n rhoi’r dewis a’r rhyddid i siaradwyr Cymraeg fynegi eu teimladau, eu meddyliau a’u hemosiynau yn eu dewis iaith.

Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cynnig amryw o raglenni CBT dan arweiniad, ar reoli iechyd meddwl a lles.

“Rydyn ni’n hynod falch o lansio’r rhaglen hon yn Gymraeg,” meddai Fionnuala Clayton, rheolwr prosiect gwasanaeth CBT ar-lein Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.

“Mae darparu therapi dwyieithog yn flaenoriaeth allweddol i ni, ac mae wrth wraidd ein penderfyniadau wrth i’r gwasanaeth barhau i dyfu.

“Mae’n gallu bod yn anodd bod yn agored a rhannu eich meddyliau a’ch teimladau, ac mae’n anoddach fyth os oes rhaid i chi wneud hyn yn eich ail iaith.”

Peidio siarad Cymraeg gyda chwnselwyr yn ofidus

Mae Leah Williams, cydlynydd CBT ar-lein Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, yn un o ddeuddeg cefnogwr ar-lein cymwys sy’n monitro ac yn rhoi adborth i ddefnyddwyr SilverCloud yng Nghymru.

Dywed bod modd cymryd yn ganiataol ar adegau fod meddygon teulu yn siarad Cymraeg, ond efallai nad yw’r un cymorth ar gael yn y Gymraeg wrth drafod iechyd meddwl.

“Roedd fy ymarferwyr iechyd meddwl a’m cwnselwyr yn ddi-gymraeg a roedd hi’n anodd i mi fod yn agored a thrafod materion personol,” meddai.

“Mae methu sgwrsio yn eich iaith gyntaf yn gallu bod yn ofidus, yn enwedig wrth siarad am bwnc sydd yn barod yn emosiynol.

“Pan oeddwn i’n siarad â chwnselydd Cymraeg, roedd cysylltiad therapiwtig yno’n syth gan ein bod ni’n rhannu hunaniaeth a dealltwriaeth ddyfnach o fy mhroblemau a’m hanghenion.

“Mae’n deimlad gwerth chweil fy mod bellach yn cael cynnig hwn i SilverCloud Cymru fel aelod Cymraeg o’r tîm cymorth ar-lein.”

Ystadegau

Mae ymchwil yn awgrymu bod bron i chwarter yr oedolion yng Nghymru yn teimlo’n orbryderus drwy’r amser neu’r rhan fwyaf o’r amser, tra bod 45% o oedolion sydd â theimladau o orbryder yn cadw’n dawel.

Er bod rhywfaint o or-bryder yn chwarae rhan ddefnyddiol ac iach wrth inni ddelio â phroblemau a wynebu heriau, gall fynd yn llethol ac yn y pen draw ein gwanhau os na chaiff ei drin.

Er bod stigma yn parhau ynghylch materion iechyd meddwl sy’n ei gwneud yn anodd gofyn am gymorth, mae rhaglenni therapi ar-lein Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, gaiff eu darparu gan SilverCloud, yn ddull sy’n ceisio chwalu’r rhwystrau.

Mae’r ddarpariaeth Gymraeg newydd yn cydymffurfio ag un o agweddau Cymraeg 2050 – strategaeth Llywodraeth Cymru sy’n anelu at gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 – ac mae’n cyd-fynd â Mwy Na Geiriau, ei Fframwaith Strategol ar gyfer Hyrwyddo’r Gymraeg ym maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol.