Mae myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn plannu dros 300 o goed, un ar gyfer pob person sy’n graddio o’r Ysgol Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg yr wythnos hon.
Mae’r fenter plannu coed graddio wedi’i hysbrydoli gan ddeddf yn Ynysoedd y Ffilipinas, sy’n ei gwneud hi’n orfodol i bob myfyriwr blannu deg coeden cyn graddio.
Cymdeithas Goed Prifysgol Abertawe sy’n arwain y fenter, ac mae 309 o goed o 16 gwahanol rywogaeth wedi’u plannu ar goetir yn Townhill ger Abertawe.
Mae pob myfyriwr sy’n graddio o’r Ysgol eleni yn plannu coeden yn eu henw, a chyn hir bydd y myfyrwyr yn derbyn tystysgrif sy’n nodi union leoliad eu coeden.
Effaith sylweddol yn barod
Dywed Teifion Maddocks, Rheolwr Cynaliadwyedd Prifysgol Abertawe, fod y fenter yn “cyfrannu at iechyd ein planed a llesiant cenedlaethau’r dyfodol”.
“Beth bynnag fydd eu camau nesaf, rydym wrth ein boddau’n rhoi cyfle unigryw i’n graddedigion adael gwaddol ffisegol o’u hamser ym Mhrifysgol Abertawe, ac un sy’n ein helpu ni i fynd i’r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd,” meddai.
“Mae’n hanfodol, yn sgil yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol, ein bod ni’n cydweithio i ddatgarboneiddio allyriadau carbon presennol ac atal effeithiau amgylcheddol gan wneud iawn am nwyon tŷ gwydr presennol ac adfer byd natur ar yr un pryd.”
Mae’r Gymdeithas Goed wedi addo darparu gofal i’r coed ifainc sydd newydd eu plannu, gan gynnwys cyfnewid coed sydd ddim yn goroesi am rai newydd.