Rhaid i Eluned Morgan “fod yn flaengar” er mwyn sicrhau bod y system i roi arian i Gymru gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn newid, medd y cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones.
Ei flaenoriaeth, pe bai’n Brif Weinidog nawr, fyddai sicrhau system gyllido deg, meddai.
Cafodd Eluned Morgan ei chadarnhau’n arweinydd Llafur Cymru ddoe (dydd Mercher, Gorffennaf 24), a’r tebygolrwydd nawr yw mai hi fydd Prif Weinidog nesaf Cymru.
Ar hyn o bryd, mae Cymru’n derbyn cyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig dan system Fformiwla Barnett.
Mae’r fformiwla yn dyrannu arian yn dibynnu ar faint sy’n cael ei wario mewn meysydd datganoledig yn Lloegr.
Mae galwadau wedi bod ers degawdau i ddiwygio’r system fel ei bod yn seiliedig ar angen.
“Fe welais i sawl achlysur lle’r oedd Gogledd Iwerddon eisiau arian, ac roedden nhw’n cael yr arian, miliynau, a doedd fformiwla Barnett ddim yn cael ei defnyddio, felly roedd Cymru’n cael dim,” meddai Carwyn Jones, fu’n Brif Weinidog ar Gymru rhwng 2009 a 2018, wrth golwg360.
“Mae’r Trysorlys yn gwneud pethau lan fel maen nhw’n mynd.”
Yn ddiweddar, mae’r mater wedi bod dan sylw, gan fod prosiect HS2 wedi cael ei ddynodi’n brosiect ‘Cymru a Lloegr’ er nad yw’r rheilffordd yn dod i Gymru.
Gan ei fod wedi’i ddynodi felly, dydy Cymru ddim yn derbyn y cyllid canlyniadol dan Fformiwla Barnett.
Rhaid newid y drefn er mwyn “cael mwy o hygrededd yn y system”, medd Carwyn Jones.
“Dyma beth sydd rhaid newid – mae’n rhaid cael mwy o hygrededd yn y system yna, er mwyn sicrhau bod y system yn fwy teg a bod pawb yn cael eu trin yn yr un ffordd.”
Er bod Carwyn Jones yn gweld diwygio’r system gyllido’n flaenoriaeth, dywed nad yw’n “erfyn am ffrae gyhoeddus” rhwng y ddwy lywodraeth.
“Does ddim rhaid cael [dadlau] rhagor, ac yn sicr mae’n un o’r manteision o gael dwy lywodraeth o’r un meddylfryd yng Nghaerdydd ac yn Llundain.”
Perthynas “rwyddach”
Dywed Carwyn Jones ei fod yn disgwyl perthynas “rwyddach” rhwng Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig yn dilyn yr etholiad.
“Mae e’n mynd i fod yn llawer rhwyddach i gydweithio ac i ddelio â thensiynau,” meddai.
“Mae tensiynau yn codi rhwng sefydliadau.
“Fel rhywun sydd wedi gweithio gyda’r Blaid Lafur yn San Steffan o’r blaen, ac fel Prif Weinidog â Llywodraeth Dorïaidd, y prif wahaniaeth yw os mae yna anghytuno, mae pethau yn cael eu setlo [efo dwy lywodraeth o’r un blaid].
“Felly, mi fydda i’n erfyn i’r berthynas wella, ac iddi fod yn gadarn ac yn gryf.”
Er hyn, dim ond unwaith roedd sôn am Gymru yn Araith y Brenin y llywodraeth newydd ddechrau’r wythnos.
Dywed Carwyn Jones nad yw’n “erfyn” clywed mwy am Gymru gan fod gymaint wedi cael ei ddatganoli.
Rhagor o ddatganoli?
Dywed Carwyn Jones ei fod o blaid datganoli pwerau yn ymwneud â throseddu a chyfiawnder, ond “ddim dros nos”.
Mae addewid gan Lywodraeth Cymru i wthio am ddatganoli pwerau dros gyfiawnder i Gymru, ond dydy Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim wedi ymrwymo i hyn.
Dywed odd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ar raglen Y Byd yn ei Le yn ystod ymgyrch yr etholiad cyffredinol na fydd Llywodraeth newydd Lafur yn cefnogi datganoli’r pwerau dros gyfiawnder a throseddu.
“I fi, fel rhywun sydd o blaid datganoli’r system gyfiawnder, ond ddim dros nos, mae hwn yn rhywbeth sydd angen blynyddoedd i adeiladu tuag ato,” meddai Carwyn Jones wedyn.
“Achos does ddim arbenigaeth gyda ni fel llywodraeth ynglŷn â chyfiawnder, mae’n rhaid i ni adeiladu tuag at hwnna.”