Dim ond Eluned Morgan oedd wedi cyflwyno’i henw i arwain Llafur Cymru cyn 12 o’r gloch heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 24).
Mae hynny’n golygu mai hi yw arweinydd nesa’r blaid, a’i bod hi’n debygol iawn mai hi hefyd fydd Prif Weinidog nesaf Cymru.
Bydd hi’n yn sefyll ar ‘docyn’ efo Huw Irranca-Davies fel Dirprwy Brif Weinidog – rhywbeth sydd ddim wedi’i ymgorffori yn y Cyfansoddiad ond sy’n dacteg i geisio uno plaid sydd wedi bod yn rhanedig yn gyhoeddus dros yr wythnosau diwethaf.
Pe bai’n cael ei chymeradwyo gan y Senedd, hi fydd y fenyw gyntaf i arwain Cymru.
Y camau nesaf
Mae’r Blaid Lafur bellach wedi cadarnhau eu harweinydd newydd.
Y consensws ydy y bydd Vaughan Gething, y Prif Weinidog presennol, yn adalw’r Senedd yr wythnos nesaf i gadarnhau’r Prif Weinidog newydd.
Er mwyn cael ei henwi’n Brif Weinidog, bydd angen i Eluned Morgan sicrhau cefnogaeth o leiaf un aelod arall o’r Senedd, a’r disgwyl yw y bydd hi’n derbyn cefnogaeth gan fwyafrif helaeth o Aelodau’r Senedd.
Y tebygolrwydd, felly, yw y bydd hi’n cael ei chadarnhau’n Brif Weinidog ddydd Mercher nesaf (Gorffennaf 31).
Yn ôl Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur Brydeinig, mae penodiad Eluned Morgan yn “newyddion gwych”.
“Mae Eluned yn dod â chyfoeth o brofiad a record o gyflawni gyda hi, ac fel y ddynes gyntaf i arwain Llafur Cymru mae hi eisoes yn creu hanes,” meddai.
‘Adfer ffydd yng ngwleidyddiaeth Cymru’
Yn dilyn y cyhoeddiad, mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru’n galw ar Eluned Morgan i “adfer ffydd yng ngwleidyddiaeth Cymru”.
Wrth ei llongyfarch, mae’r arweinydd Jane Dodds wedi dweud ei bod hi wrth ei bodd o weld dynes arall “yn arwain y ffordd” yn y byd gwleidyddol yng Nghymru.
Ond mae hi’n galw arni i adfer ffydd y cyhoedd yn dilyn sawl helynt yn ddiweddar.
Dywed y blaid y byddan nhw’n pwyso ar Lywodraeth Lafur Cymru i sicrhau mynediad hawdd at wasanaethau gofal iechyd ac ymestyn y cynnig o ran gofal plant, ac y byddan nhw’n tynnu sylw at faterion sy’n effeithio ar gymunedau gwledig.
“Rhaid i Lafur Cymru sylweddoli na allan nhw gymryd etholwyr Cymru’n ganiataol bellach, a bod rhaid ennill ffydd,” meddai Jane Dodds.
“Byddaf yn gwthio Llywodraeth newydd Cymru i sicrhau y gall pawb gael mynediad at feddyg, meddyg teulu neu ddeintydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol pryd bynnag a lle bynnag y bydd eu hangen arnyn nhw.
“Byddaf hefyd yn brwydro i ehangu’r cynnig o ran gofal plant Cymru i gefnogi rhieni sy’n gweithio, yn mynd i’r afael â thlodi plant, ac yn mynd i’r afael hefyd â phryderon cymunedau gwledig.
“Fel Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, byddwn ni hefyd yn parhai alw am derfyn o £10,000 ar gyfraniadau gwleidyddol unigol, sy’n gam cyntaf pwysig tuag at lanhau ein gwleidyddiaeth.”
‘Coroni Barwnes’
Wrth gyfeirio at yr arweinydd newydd a’i dirprwy Huw Irranca-Davies, dywed Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ei bod hi’n “Farwnes sydd wedi casglu’r goron yn y coroniad, gyda Prince Charming yn ddirprwy iddi”.
“Mae Eluned Morgan wedi llywyddu dros y rhestrau aros gwaethaf ar gofnodion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, felly rhaid gofyn y cwestiwn, ai dyma’r gorau sydd gan Lafur i’w gynnig?” meddai.
“Os yw ei diffyg cyflawniadau o ran Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru’n cael ei ailadrodd ar draws economi a system addysg Cymru, yna bydd Cymru’n llawer gwaeth ei byd yn y dyfodol.
“All etholiad y Senedd yn 2026 ddim dod yn ddigon cyflym i roi’r newid mae mawr ei angen ar Gymru er mwyn datgloi’r gobaith a’r cyfleoedd fydd yn adeiladu Cymru newydd a chryfach.”
‘Anhrefn wrth galon y blaid’
Wrth longyfarch Eluned Morgan, dywed Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, fod “y ffaith mai hi ydi’r trydydd arweinydd mewn tri mis yn siarad cyfrolau am yr anhrefn wrth galon y blaid sy’n llywodraethu”.
“Mae Cymru angen i’w Phrif Weinidog lwyddo, ond er mwyn i hynny ddigwydd, rhaid i ddewisiadau fod yn wahanol a chanlyniadau fod yn well,” meddai.
“Gwaddol uniongyrchol amser Eluned Morgan mewn llywodraeth hyd yma yw’r amseroedd aros hiraf ar gofnod, ac anallu i fynd i’r afael â’r heriau sylweddol sy’n wynebu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
“Mae pobol yn ysu am arweinyddiaeth sy’n fwy uchelgeisiol, cymwys ac effeithiol.
“Dylai Eluned Morgan alw etholiad ond wnaiff hi ddim, felly tra bod Llafur yn parhau i ddadlau ymysg ei gilydd, mae Plaid Cymru yn canolbwyntio ar gynnig dewis amgen y gall pobol ym mhob cwr o’n gwlad uno y tu ôl iddo.”
‘Llywodraeth flinedig’
Mae Anthony Slaughter, arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, wedi croesawu’r penodiad, “ar ôl misoedd o anhrefn a ffraeo mewnol wrth galon Llywodraeth Cymru”.
“Mae’r cyhoedd yn haeddu llywodraeth sy’n canolbwyntio ar ddatrys y problemau enfawr rydyn ni’n eu hwynebu,” meddai.
“Ar ôl 25 mlynedd mewn grym, mae’r Blaid Lafur yn flinedig a dydyn nhw ddim bellach yn ddigon da i’r swydd honno.
“Mae angen llywodraeth ar Gymru fydd yn gwarchod ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac nid yn rheoli ei ddirywiad.
“Mae angen llywodraeth ar Gymru fydd yn gwrthsefyll llywodraethau San Steffan sy’n pentyrru grym, yn Goch ac yn Las.
“Mae angen i Wyrddion gael eu hethol ar bob lefel yng Nghymru er mwyn dod ag egni a syniadau dewr, ac i sefyll i fyny yn erbyn fuddiannau personol.
“Rydyn ni’n canolbwyntio’n fanwl ar sicrhau y bydd hynny’n digwydd yn 2026 a thu hwnt.”