Mae darlithydd yn Florida sydd wedi dysgu Cymraeg wedi creu rhaglen i fyfyrwyr y Gyfraith ddod i astudio a gweithio yng Nghaerdydd am chwe wythnos dros yr haf.

Bu Matthew Jones yn cydweithio’n agos ag Ysgol y Gyfraith Prifysgol Caerdydd, rhai o gwmnïau cyfreithiol y ddinas, a Llywodraeth Cymru i lunio’r rhaglen, sydd nawr ar ei hail flwyddyn.

Pwrpas y cwrs yw rhoi cyfle i’r myfyrwyr o’r Unol Daleithiau ddod i Gymru i gael profiad gwaith ac i ddysgu am y wlad, ei hanes a diwylliant, a’r iaith.

“Mae’r rhaglen yn rhoi digon o amser i fyfyrwyr fwynhau bwrlwm dinas Caerdydd, a chael blas ar y byd gwaith,” meddai Matthew Jones.

“Dw i hefyd yn ceisio cyflwyno’r Gymraeg a hanes Cymru iddyn nhw, fel bod ganddyn nhw ddealltwriaeth o’r diwylliant a threftadaeth Cymru erbyn iddyn nhw adael.”

“Baglu ar draws” y Gymraeg

Mae Matthew Jones yn gweithio gydag amryw o sefydliadau eraill yng Nghymru dros y Gymraeg.

“Dw i’n gweithio ar nifer o brosiectau yn ychwanegol i’r rhaglen yma, rhai sy’n gweithio’n fwy uniongyrchol â’r Gymraeg a phobol ifanc,” meddai.

“Dw i’n falch o’r gwaith dw i’n ei wneud gyda Llywodraeth Cymru ar raglen Seren, a dw i hefyd wedi dechrau gweithio gyda’r Urdd ar eu gwaith rhyngwladol.”

Doedd e ddim yn ymwybodol o’r Gymraeg nes iddo “faglu ar ei thraws” pan oedd yn astudio Llenyddiaeth Brydeinig.

“Gwnes i ddod ar draws gwaith Iolo Morganwg,” meddai.

“Doeddwn i erioed wedi gweld y Gymraeg o’r blaen, ac roeddwn i’n teimlo fod rhaid i mi ddysgu mwy am yr iaith er mwyn deall y llenyddiaeth gynnar yn well.

“O ymchwilio, deallais fod y Gymraeg yn iaith fyw ac yn dal i gael ei siarad yng Nghymru, a phenderfynais fod angen i mi ddysgu o leiaf ychydig bach o Gymraeg.”

O ganlyniad, daeth Matt i Brifysgol Caerdydd i astudio cwrs meistr am flwyddyn yn 2015, a bu’n cael gwersi Cymraeg yno hefyd.

Trochodd ei hun yn niwylliant Cymraeg y brifddinas, ac erbyn gadael roedd yn gallu siarad Cymraeg.

“Dw i’n dal i ddweud wrth bobol fod y Gymraeg wedi achub fy mywyd mewn rhyw ffordd,” meddai.

“Ffeindiais i gyfeiriad i fy mywyd am y tro cyntaf yn 28 mlwydd oed.”