Mae ymchwil yn awgrymu bod gan bron i hanner plant Cymru anghenion dysgu ychwanegol.
Mae’r astudiaeth wedi’i chwblhau gan brifysgolion Abertawe a Bryste, sydd wedi llunio dogfen briffio polisi sy’n galw am adolygiad manwl o brosesau sy’n cael eu defnyddio i adnabod anghenion a’r gefnogaeth sydd ar gael i bob plentyn yn y wlad.
Cafodd yr astudiaeth ei hariannu gan Sefydliad Nuffield, ac fe ddaeth i’r casgliad fod gan 47.9% o’r plant gafodd eu geni yn 2002-03 ryw fath o anghenion dysgu ychwanegol ar ryw adeg yn yr ysgol, gan effeithio ar eu haddysg ym mhob Cyfnod Allweddol.
Yn ôl Dr Cathryn Knight, sy’n Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg Addysg ym Mhrifysgol Bryste, mae’r ymchwil yn gwrthbrofi’r hyn oedd yn cael ei gredu o’r blaen, sef mai mwyafrif o blant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
“Daeth ffactorau allweddol sy’n cynyddu’r tebygolrwydd o adnabod anghenion dysgu ychwanegol i’r amlwg, gan bwysleisio’r angen am adnabod amgylchfyd y plentyn a deall eu sefyllfaoedd unigol er mwyn cefnogi eu hanghenion dysgu mewn modd effeithiol,” meddai.
Data
Fe wnaeth ymchwilwyr ym mhrifysgolion Abertawe a Bryste astudio data gan fwy na 200,000 o blant yng Nghymru gafodd eu geni rhwng 2002 a 2009, a hynny er mwyn deall eu hanghenion dysgu ychwanegol a’u heffaith ar yr hyn maen nhw wedi’i gyflawni’n academaidd.
Gorau po gynted mae anghenion yn cael eu hadnabod, medd yr ymchwilwyr, gan eu bod nhw’n llai tebygol o gyrraedd eu potensial llawn yr hiraf maen nhw mewn addysg heb gefnogaeth ar gyfer eu hanghenion.
“Mae ein hymchwil yn awgrymu nad oedd yr hen drefn anghenion addysgol arbennig yng Nghymru’n gallu cefnogi myfyrwyr yn effeithiol i leihau effeithiau negyddol anghenion addysgol arbennig ar eu graddau,” meddai Dr Cathryn Knight.
“Mae hyn yn tanlinellu’r effaith sylweddol gaiff anghenion addysgol arbennig ar gyflawniadau academaidd.
“Er mwyn gwella lefelau cyrhaeddiad academaidd yng Nghymru, mae’n hanfodol blaenoriaethu cefnogaeth effeithiol i’r garfan fawr iawn hon o ddysgwyr.”
Casgliadau eraill
Daeth yr astudiaeth i’r casgliad hefyd fod:
- dysgwyr sy’n cael prydau ysgol am ddim drwy gydol eu haddysg bedair gwaith yn fwy tebygol o gael diagnosis o anghenion dysgu ychwanegol na phlant eraill
- plant gafodd eu geni mewn cymunedau difreintiedig dros bedair gwaith yn fwy tebygol o gael diagnosis o anghenion dysgu ychwanegol na phlant eraill
- bechgyn 5.5 gwaith yn fwy tebygol o fod ag anghenion dysgu ychwanegol na merched
- plant â lefelau presenoldeb uchel yn yr ysgol yn llai tebygol o fod ag anghenion dysgu ychwanegol
- plant gafodd eu geni yn yr haf dair gwaith yn fwy tebygol o fod ag anghenion dysgu ychwanegol na phlant gafodd eu geni yn yr hydref
‘Pryderon’
“Mae hyn yn codi pryderon ynghylch effeithiolrwydd prosesau adnabod anghenion addysgol arbennig, yn enwedig o ystyried y niferoedd annisgwyl o uchel o ddysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol,” meddai Dr Cathryn Knight.
“Mae’n awgrymu problem bosib, sef gor-adnabod neu dan-adnabod rhai plant.”
Prif argymhelliad yr adroddiad yw blaenoriaethu mentrau addysg cynhwysol sy’n cydnabod ac yn cefnogi pob plentyn.
Dywed yr ymchwilwyr fod effaith sylweddol anghenion addysgol arbennig ar raddau plant yn codi cwestiynau ynghylch sut mae modd cefnogi plant ag anghenion ychwanegol fel eu bod nhw’n dangos cynnydd o ran eu haddysg. Yn hynny o beth, maen nhw’n argymell ystyried arferion asesu mwy cynhwysol.
Mae’r adroddiad hefyd yn galw am adolygu’n fanwl y dulliau presennol o adnabod anghenion dysgu, gan ganolbwyntio ar sicrhau cywirdeb, tegwch a chynhwysiant.
“Hefyd, mae angen tystiolaeth fwy hirdymor arnom yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig, er mwyn datblygu dealltwriaeth lawnach ynghylch yr heriau,” meddai Dr Cathryn Knight.
“Mae hyn yn cynnwys problemau systemaidd o ran sut mae anghenion dysgu’n cael eu hadnabod, a’u heffaith wedyn ar gyrhaeddiad.”