Does dim cyfiawnhad dros wario elw o brosiectau ynni ar adnewyddu Palas Buckingham, yn ôl Aelod Seneddol Plaid Cymru sy’n galw am ddatganoli Ystad y Goron i Gymru.

Daw sylwadau Llinos Medi, Aelod Seneddol Ynys Môn, ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod Ystad y Goron newydd gyhoeddi eu helw mwyaf erioed.

Daw’r elw ar ôl gwerthu’r les ar brosiectau gwynt oddi ar y lan ar wely’r môr.

“Does dim cyfiawnhad dros arllwys yr elw o brosiectau ynni adnewyddadwy allan o gymunedau arfordirol tlawd yng Nghymru a’i ddefnyddio i adnewyddu Palas Buckingham,” meddai Llinos Medi.

Cefndir

Dywed Ystad y Goron fod eu helw wedi codi gan £568.1m dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf, i fyny o £442.6m, yn bennaf o ganlyniad i ffioedd datblygwyr gwynt oddi ar y lan.

Mae disgwyl i’r Brenin Charles III gael codiad cyflog o £45m, sy’n gynnydd dros 50% i’w incwm blynyddol swyddogol.

Bydd y cynnydd sylweddol yn y coffrau’n cael ei ddefnyddio i gwblhau gwaith adnewyddu Palas Buckingham.

Yn yr Alban, lle mae’r pwerau dros Ystad y Goron wedi’u datganoli, mae’r arian yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cynghorau lleol i ariannu prosiectau cymunedol, gyda swm sylweddol yn mynd i ardaloedd difreintiedig.

Cronfa gyfoeth

Mae Llinos Medi wedi ategu galwadau Plaid Cymru o blaid sefydlu Cronfa Gyfoeth Sofran er mwyn buddsoddi mewn cymunedau yng Nghymru, yn yr un modd â gwledydd fel Norwy.

“Does dim cyfiawnhad dros arllwys yr elw o brosiectau ynni adnewyddadwy allan o gymunedau arfordirol tlawd yng Nghymru a’i ddefnyddio i adnewyddu Palas Buckingham,” meddai Llinos Medi.

“Dylai’r cyfoeth sy’n cael ei gynhyrchu drwy ein hadnoddau naturiol fod o fudd i’n pobol a’n cymunedau fel mae o yn yr Alban, ac nid yn cael ei ddargyfeirio i Lundain.

“Dw i’n falch fod Cymru’n chwarae rhan wrth arwain ar gynhyrchu gwynt oddi ar y lan, gyda Gwynt y Môr ar arfordir y gogledd yn bumed fferm wynt weithredol fwya’r byd.

“Mae’r elw o’r les ar wely’r môr yn mynd yn syth i’r Trysorlys, gyda chyfran i’r Brenin, er bod rhai o’r cymunedau arfordirol sy’n edrych allan tua’r fferm wynt yn wynebu’r tlodi gwaethaf yn y Deyrnas Unedig.

“Yn yr etholiad cyffredinol, amlinellodd Plaid Cymru gynlluniau ar gyfer Cronfa Gyfoeth Sofran fyddai’n buddsoddi elw o’r les ar wely’r môr yng nghymiunedau Cymru.

“Rŵan, efo pedwar aelod seneddol yn San Steffan, byddwn ni’n defnyddio pob dyfais seneddol sydd ar gael i ni i sicrhau bod datganoli Ystad y Goron i Gymru’n cael ei ystyried o ddifri gan Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig.

“Awgrymodd pôl gafodd ei gynnal y llynedd fod y mwyafrif helaeth o bobol yng Nghymru am i Ystad y Goron gael ei ddatganoli i Gymru, fel sydd eisoes yn digwydd yn yr Alban.

“Gallai Llafur brofi i bobol Cymru eu bod nhw’n parchu ein cenedl, a’u bod nhw o ddifrif am fuddsoddi yn ein cymunedau.”