Mae tri o bobol ifanc o’r Wladfa wedi cyrraedd Cymru, yn awyddus i ymgolli yn ein diwylliant a rhannu eu traddodiadau.

Am ddeufis dros yr haf, mae’r tri brwdfrydig – Kiara, Meleri a Santiago – yn ymweld â Chymru yng nghwmni Esyllt Nest Roberts, sy’n byw yn y Wladfa ers ugain mlynedd.

Fe fu perthynas gref rhwng Cymru a Phatagonia ers i’r ymfudwyr Cymreig cyntaf sefydlu’r Wladfa yn Chubut yn 1865.

Heddiw, nid darn o hanes yn unig yw’r cysylltiad rhwng y ddwy wlad bell, ond perthynas fyw, sy’n cael ei meithrin a’i chryfhau’n barhaus gan y ddwy gymuned.

Bu myfyrwyr o Goleg Dewi Sant, Gaerdydd ym Mhatagonia yn gynharach eleni a, thrwyddyn nhw, cafodd cefnogaeth ei sicrhau gan raglen ‘Taith’ Llywodraeth Cymru a’r gyfer y tri o Batagonia.

“Rydyn ni’n teimlo ein bod wedi gwireddu un o’r breuddwydion gorau,” meddai’r triawd wrth golwg360.

“Mae Cymru yn union fel roedden ni wedi ei dychmygu – hardd a gwyrdd”.

I’r tri, mae’r Gymraeg yn elfen unigryw sy’n clymu eu mamwlad â Chymru, ac maen nhw’n dweud eu bod nhw’n falch bod y daith yn rhoi cyfle iddyn nhw ddefnyddio’r iaith.

“Rydyn ni’n siarad Cymraeg bob dydd yma!” medden nhw.

“Mae cael siarad Cymraeg bob dydd yn rhywbeth rhyfeddol i ni, achos gallwn ddefnyddio’r iaith rydyn ni wedi hastudio’n galed dros y blynyddoedd.”

“Y pethau rydyn ni wedi ei fwynhau fwyaf yw Sesiwn Fawr Dolgellau, Sain Ffagan, Castell Harlech, Amgueddfa Lofaol Pwll Mawr a’r Ysgwrn,” medden nhw, gan awgrymu bod pob profiad wedi cynnig cysylltiad dyfnach â’u cyndeidiau.

Mae Kiara, Meleri a Santiago hefyd wedi treulio amser yn ymweld ag ysgolion ledled y wlad, ac mae’r ymweliadau hyn wedi rhoi cyfle iddyn nhw gyfnewid gwybodaeth am eu diwylliant a’u ffordd o fyw gyda disgyblion – yr elfennau cyfarwydd a dieithr.

Un o uchafbwyntiau’r daith fydd mynd i’r Eisteddfod Genedlaethol.

“Mae gennym ni Eisteddfodau yn y Wladfa, ond rydyn ni wedi clywed eu bod nhw’n hollol wahanol yma. Rydyn ni’n teimlo’n gyffrous iawn!” medden nhw.

Yn ôl Esyllt Nest Roberts, sydd wedi trefu taith y tri, roedd ymweld â Llanuwchllyn yn arwyddocaol iawn.

Mae tref y Gaiman a Llanuwchllyn wedi gefeillio’n ddiweddar, a “chawson nhw groeso anhygoel yno, yn ogystal â chael dysgu am hanes perthnasau i’r tri a ymfudodd i Batagonia”.

Trefnodd Cyngor Cymuned Llanuwchllyn gyngerdd i Kiara, Meleri a Santiago, lle cawson nhw gyfle i berfformio ochr yn ochr ag artistiaid lleol – cyfnewid diwylliannol hynod gofiadwy!

Diolch!

Mae’r pedwar yn awyddus i fynegi eu diolch i aelodau Cymdeithas Cymru Ariannin, sydd wedi helpu gyda threfniadau ymarferol y daith.

“Mae’r ddolen honno yn bwysig iawn yn y cysylltiad rhwng Cymru a’r Wladfa,” meddai Esyllt Nest Roberts.

Mae Kiara, Meleri a Santiago a’u teuluoedd yn gwerthfawrogi’r cymorth a’r croeso cynnes.

“Rydyn ni’n teimlo’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi ein helpu gyda lle i aros, lifft, a phopeth arall,” meddai’r tri.

“Maen nhw wedi gwneud i ni deimlo bod croeso yma yng Nghymru.

“Rydyn ni’n gobeithio y gall mwy o bobol ifanc o Batagonia ddod i Gymru yn y dyfodol i brofi bywyd yn y wlad hardd hon!”