Mae’n “hollbwysig” fod Eluned Morgan yn penodi “pabell eang” o weinidogion i’w Chabinet pe bai’n dod yn Brif Weinidog Cymru, yn ôl y cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones.

Fe fu’n siarad â golwg360 wrth iddi gael ei chadarnhau’n arweinydd Llafur Cymru, a’r tebygolrwydd nawr yw mai hi hefyd fydd Prif Weinidog nesaf Cymru.

Dywed Carwyn Jones mai ei brif amcan yntau, pe bai yn esgidiau Eluned Morgan, fyddai cael “pabell eang” o fewn Cabinet newydd y Llywodraeth.

“Mae’n hollbwysig pwy sydd yn mynd i mewn i’r cabinet,” meddai.

“Mae’n rhaid dangos bod yna babell eang yn y Cabinet, pobol sydd wedi bod ar y ddwy ochr i’r ddadl.

“Mae hwn yn hollbwysig – os ydych am uno, mae’n rhaid i chi uno yn y Cabinet.

“Dyna beth wnes i, sicrhau bod y bobol sydd wedi sefyll yn fy erbyn i ddim yn ryw fath o rwystr.

“Rydych chi’n defnyddio’r dalent sydd gyda chi.”

Eluned Morgan, Vaughan Gething a Jeremy Miles

Y tro hwn, mae Eluned Morgan wedi sefyll heb gystadleuaeth, a hynny gan dderbyn cefnogaeth gyhoeddus 26 o’r 30 Aelod Llafur yn y Senedd.

Ond bydd yn rhaid i’r Llywodraeth newydd uno cefnogwyr ar ddwy ochr y ras arweinyddol flaenorol rhwng Vaughan Gething a Jeremy Miles i fedru uno’r blaid.

“Yn ail, mae’n rhaid symud ymlaen i ba fath o neges rydych chi’n mo’yn ei rhoi,” meddai Carwyn Jones.

“Mae yna faniffesto yna sydd wedi cael ei weithredu dros y blynyddoedd diwethaf, ond beth arall ydych chi’n mo’yn gwneud i gyfrannu at y maniffesto yna?”

Yn ôl Carwyn Jones, mae’n rhaid i’r neges hon roi “gobaith” a “bywiogrwydd” i’r blaid.

Dywed fod rhaid dangos y ddwy elfen hyn “cyn siarad am bolisïau”.

“Mae’n rhaid i bobol wybod eich bod chi o ddifri cyn gwrando ar bolisïau,” meddai.

Eluned Morgan yn medru uno

Dywed Carwyn Jones ei fod “yn credu” y bydd Eluned Morgan yn medru uno’r blaid, yn dilyn misoedd o ansicrwydd o fewn y blaid.

“Mae Eluned a Huw fel cyd-docyn wedi cael cefnogaeth bron pob un o Aelodau’r Senedd sydd ar yr ochr Llafur,” meddai.

“Mae hyn yn dangos cryfder, a’u bod nhw’n mo’yn symud ymlaen.

“Mae [yr aelodau] eisiau Llywodraeth sydd yn gweithio drostyn nhw.”

Dywed hefyd fod gan Eluned Morgan a Huw Irranca-Davies y gallu i ymddangos yn bobol “gyffredin” er mwyn ymgysylltu â’r cyhoedd a deall eu “heriau nhw”.

Ar fater penodi Dirprwy Brif Weinidog, sydd heb fod yn gam cyffredin iawn yn y gorffennol, dywed Carwyn Jones nad yw’n credu bod hyn yn broblem.

“Rydym wedi cael dirprwyon yng Nghymru o’r blaen, wrth gwrs,” meddai.

“Ond dirprwyon o blaid arall mewn clymblaid, felly mae e’n rywbeth newydd.

“Wrth feddwl am y problemau sydd wedi bod tu fewn i’r Grŵp Llafur, bod Eluned yn rhywun sydd wedi cefnogi Vaughan, a Huw yn rhywun sydd wedi cefnogi Jeremy, mae e’n dangos undod ar draws yr aelodau.

Addewidion

O safbwynt y dyfodol agos ac adfer ffydd a hyder y cyhoedd, dywed Carwyn Jones mai’r peth mwyaf i’r Llywodraeth newydd fydd “peidio torri addewidion”.

“Mae’n rhaid i chi allu dweud wrth bobol, ‘Fe wnaethon ni’r addewidion yma, ac rydyn ni wedi cadw atyn nhw’ – mae hyn yn sylfaen i adeiladu arno fe.”

Ac yntau’n gyn-Brif Weinidog, mae Carwyn Jones yn cydymdeimlo â Vaughan Gething, fydd yn camu o’i swydd yn Brif Weinidog.

“Mi oeddwn i’n sori i weld beth ddigwyddodd gyda Vaughan,” meddai wedyn.

“Gafodd e ddim amser esmwyth o gwbl pan oedd e’n Brif Weinidog.

“Mae e’n anodd dros ben i rywun fel Vaughan. Roedd e’n mo’yn bod yn Brif Weinidog, dyw e ddim wedi gwneud amser hir, a fi’n credu bod dyfodol i Vaughan yn y Blaid Lafur, ond ddim fel Prif Weinidog.”

Ychwanega nad yw e “eisiau gweld talent Vaughan yn cael ei golli”, ac y bydd diwrnod ei ymadawiad yn “ddiwrnod isel, dw i’n deall hynny”.

“Hollbwysig” fod Eluned Morgan yn penodi Cabinet “pabell eang”

Rhys Owen

Cyn-Brif Weinidog Cymru’n ymateb i benodiad Eluned Morgan yn arweinydd Llafur Cymru