Mae Rhun ap Iorwerth yn dweud ei fod yn “pryderu mai mwy o’r un fath” fydd hi, ar ôl i Eluned Morgan gael ei henwi’n arweinydd newydd Llafur Cymru.
Wrth siarad â golwg360, dywed arweinydd Plaid Cymru ei fod yn “llongyfarch” yr arweinydd newydd, ond mai’r “cwestiwn, wrth gwrs, mae pobol eisiau gwybod ydi sut fath o arweinyddiaeth fydd hi”.
“Y gwir amdani ydi, dydyn ni ddim wedi cael unrhyw awgrym o beth fydda’n wahanol o ran cyfeiriad Llafur o dan Eluned Morgan.
“Fy mhryder i ydi mai mwy o’r un fath fyddwn ni yn ei weld.”
Ychwanega y bydd y llywodraeth yn “blaenoriaethu rhoi trefn ar y blaid yn fewnol a dadwneud y rhwygiadau dros y misoedd diwethaf”.
Galw am etholiad
Mae Plaid Cymru eisoes wedi galw am etholiad yn y Senedd, ac mae Rhun ap Iorwerth wedi ailadrodd yr alwad honno wrth siarad â golwg360, a hynny am resymau’n ymwneud â “democratiaeth”.
“Nid dymuno cael etholiad arall ydi hyn,” meddai.
“Ond mae’n amlwg mai’r peth iawn i’w wneud yn ddemocrataidd ydi i Eluned Morgan fod yn caniatáu i bobol Cymru gael datgan eu barn nhw mewn etholiad.”
Dywed fod hyn “yn union yr un fath” â’r hyn wnaeth Llafur yn San Steffan “ar ôl i’r Ceidwadwyr fynd drwy nifer o arweinwyr”.
“Dyna ddylai ddigwydd,” meddai.
“Dydi Llafur ddim yn mynd i roi’r etholiad yna, dydyn nhw ddim ei eisiau fo, a dydi’r Ceidwadwyr ddim chwaith oherwydd eu trafferthion nhw.
“Felly, mae Llafur a’r Ceidwadwyr yn gallu gweithio efo’i gilydd i atal etholiad.”
Rhoi undod y blaid uwchlaw “problemau dwys” Cymru
Wrth drafod gweledigaeth y Llywodraeth Lafur o dan Eluned Morgan, dywed Rhun ap Iorwerth mai “undod” y Blaid Lafur, “yn hytrach na mynd i’r afael a phroblemau dwys” fydd eu blaenoriaeth.
“Ddim undod o ran Cymru fydd hyn,” meddai.
“Beth sydd gennym ni yn fan hyn ydi arweinydd Llafur Cymru sydd yn labelu ei hun fel y person undod o fewn y blaid, ac yn profi mai undod o fewn y Blaid Lafur ydi ei blaenoriaeth hi, yn hytrach na mynd i’r afael â phroblemau dwys mae Llafur wedi methu mynd i’r afael â nhw mewn llywodraeth.
“Does gennym ni ddim awgrym bod rhywbeth yn mynd i fod yn wahanol o dan ei harweinyddiaeth hi.”
Mae disgwyl y bydd Eluned Morgan yn wynebu pleidlais yn y Senedd yr wythnos nesaf i’w chadarnhau’n Brif Weinidog newydd Cymru.