Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, ydy cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Fenywod. Yma, mae hi’n edrych yn ôl dros ddarn arwyddocaol o ddeddfwriaeth fu’n destun trafodaeth yn y Senedd yr wythnos ddiwethaf…


Roedd yr wythnos ddiwethaf yn wythnos hanesyddol i’n senedd genedlaethol, ac nid am y rhesymau amlwg, efallai. Mewn dadl yn y Senedd, cytunodd yr Aelodau ar egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol), neu’r bil cwotâu rhywedd fel mae’n cael ei alw ar lafar. Bydd y mesur hwn yn ei wneud yn ofynnol i o leiaf hanner ymgeiswyr pleidiau mewn etholiad fod yn ferched. Roedd yr ymrwymiad hwn yn rhan allweddol o Gytundeb Cydweithio fy mhlaid i a Llywodraeth Cymru ac mae’n rhan bwysig o’n hymdrechion i greu Senedd fwy amrywiol, cynrychioliadol ac effeithiol.

Er y bydd ymgyrchwyr fel finnau yn gyndyn o ddathlu ar ôl clywed bod y Llywodraeth am ohirio rhoi’r bil ar waith tan etholiad 2030, mae hwn fodd bynnag yn gam sylweddol ymlaen. Rydan ni’n gwybod nad ydi cynnydd yn rhywbeth i’w gymryd yn ganiataol, ac mae taith ein senedd genedlaethol yn ein hatgoffa o’r ffaith honno. Er mai hi oedd y senedd gyntaf yn y byd i sicrhau cynrychiolaeth gyfartal rhwng dynion a merched yn 2003, mae presenoldeb merched yn y Siambr wedi lleihau’n raddol ers hynny. Mae nifer yr Aelodau benywaidd ar hyn o bryd ymhlith yr isaf ers dechrau datganoli.

Mae dwy brif egwyddor i frwydr ffeministiaid dros gwotâu rhywedd yn ein democratiaeth: yr ystadegau noeth, a phrofiadau bywyd dydd-i-ddydd merched. Roedd y ddwy elfen honno’n flaenllaw yn y ddadl yn y Senedd ddydd Mercher.

Yr wrthddadl fwyaf cyffredin i gwotâu rhywedd statudol ydi y dylai, ac y gallai cynrychiolaeth gytbwys ddigwydd yn organig. Ond mae’r dystiolaeth yn glir. Dim ond drwy roi mecanwaith statudol ar waith y byddwn yn creu Senedd sy’n wirioneddol gynrychioliadol, a thrwy hynny’n wirioneddol effeithiol fel deddfwrfa. Er enghraifft, yn etholiadau Senedd 2021, dim ond 31% o ymgeiswyr oedd yn ferched. Mae hyn er gwaetha’r ffaith fod gan bleidiau gwotâu rhywedd gwirfoddol. Mae ymchwil gan y Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod yn dangos bod gan bleidiau, ar gyfartaledd, bron i 19% yn fwy o ferched ar eu rhestrau pan fo cwotâu rhywedd statudol ar waith, o’i gymharu â phleidiau nad ydyn nhw yn gosod cwotâu rhywedd. Mae’r Grŵp Trawsbleidiol ar Fenywod, y grŵp rydw i’n Gadeirydd arno, wedi clywed cyflwyniad ar ôl cyflwyniad gan arbenigwyr rhyngwladol ar bwysigrwydd cwotâu er mwyn creu a chynnal cydraddoldeb rhywiol, a dwi’n rhoi pwyslais ar y gair cynnal, a sut mae cael cydbwysedd o ran rhywedd yn y mannau hynny lle mae penderfyniadau’n cael eu gwneud yn arwain at well penderfyniadau i’r boblogaeth gyfan, gan gynnwys y 51% yng Nghymru sy’n fenywod. Hynny yw, mae cynrychiolaeth hafal yn arwain at ddemocratiaeth fwy effeithiol i bob dinesydd.

Ond mae profiadau bywyd merched yn allweddol wrth gyflwyno’r achos dros gwotâu rhywedd statudol hefyd. Mae’n bwysig gwrando ar leisiau merched, ac hoffwn ddiolch i gyd-Aelodau yn y Senedd a drafododd rhai o’u profiadau yn y ddadl. Boed yn ystod fy nghyfnod yng ngwleidyddiaeth y brifysgol, byd gwrywaidd iawn ar y pryd, neu fy nghyfnod fel yr unig ferch ar Gabinet Cyngor Gwynedd, merched fel fi sydd â’r profiadau hynny. Ni sydd wedi dioddef o ganlyniad i fod yr unig ferch o gylch y bwrdd. Ni sy’n dioddef rhagfarn isymwybodol, a ni sy’n cael ein hanwybyddu a’n dilorni. Ni, y merched, sy’n gwybod sut mae cydbwysedd rhywedd yn cefnogi ein hymdrechion i wneud y byd yn lle mwy cyfartal i ferched y dyfodol.

Fel dwi wedi cyffwrdd arno eisoes, mae’n siomedig nad yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu i’r newid hwn ddod i rym tan 2030. Pe bai’r ewyllys wleidyddol yn bodoli yn Llundain, yng nghoridorau grym y Llywodraeth newydd, dwi’n argyhoeddedig y byddai’n bosibl cynnwys y cwotâu fel rhan o ddiwygiadau ar gyfer Etholiad 2026. Yn y Senedd, gofynnais am sicrwydd y bydd y Blaid Lafur yng Nghaerdydd ac yn Llundain yn dod o hyd i ffyrdd o gael gwared ar unrhyw rwystrau cyfreithiol posibl. Heb gwotâu, mae’r pecyn diwygio presennol yn anghyflawn, a dwi’n wirioneddol bryderus y cawn ein hunain gyda Senedd sy’n fwy ei maint, ond sydd hyd yn oed yn llai cynrychioliadol nag y bu yn y blynyddoedd diwethaf.

Bydd y sgyrsiau am yr agweddau cyfreithiol mwy dyrys yn parhau, ond rydan ni serch hynny wedi pleidleisio dros egwyddorion cyffredinol cwotâu rhywedd statudol yr wythnos diwethaf, ac mae hynny’n llwyddiant hanesyddol. Mae wedi cymryd oes o waith i rai ohonom gyrraedd y pwynt hwn, ac mae hynny’n rheswm i ddathlu.