Mae’r Senedd wedi cael ei hadalw yn ystod gwyliau’r haf er mwyn enwebu Prif Weinidog newydd.

Cafodd Eluned Morgan ei chadarnhau’n arweinydd newydd y Blaid Lafur ddoe (dydd Mercher, Gorffennaf 24), ac mae’n debyg mai hi fydd y Prif Weinidog nesaf.

Bydd y Senedd yn cwrdd ddydd Mawrth, Awst 6.

Dim ond Eluned Morgan oedd wedi cyflwyno’i henw i arwain Llafur Cymru, ac mae hi’n debygol o ddod yn Brif Weinidog, gyda Huw Irranca-Davies yn Ddirprwy Brif Weinidog.

Cyhoeddodd Vaughan Gething yr wythnos ddiwethaf ei fod yn rhoi’r gorau i’w rôl yn Brif Weinidog ac arweinydd Llafur, a heddiw mae e wedi ysgrifennu at Elin Jones, Llywydd y Senedd, yn gofyn am adalw’r Senedd.

Mae’n bosib adalw’r Senedd yn ystod y toriad, gyda chaniatâd y Llywydd, i drafod materion o arwyddocâd cenedlaethol.

Dyma’r tro cyntaf i hynny ddigwydd er mwyn enwebu Prif Weinidog newydd, ond mae’r drefn wedi cael ei defnyddio i drafod yr ymateb i Covid, Brexit a dyfodol y diwydiant dur cyn heddiw.

“Cefais gais gan y Prif Weinidog i adalw’r Senedd er mwyn i Aelodau enwebu’r person nesaf i gymryd rôl Prif Weinidog Cymru,” meddai Elin Jones.

“Rwyf wedi derbyn y cais ac rwyf wedi ysgrifennu at Aelodau o’r Senedd i’w hysbysu am yr adalw.”

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Cyn y cyfarfod, bydd yn rhaid i Vaughan Gething gyflwyno’i ymddiswyddiad yn swyddogol i’r Brenin.

Unwaith fydd y Brenin yn ei dderbyn, bydd y Llywydd yn hysbysu’r Senedd a bydd modd enwebu Prif Weinidog newydd ar Awst 6.

Yn y cyfarfod, bydd y Llywydd yn gofyn i Aelodau’r Senedd am enwebiadau, a gall unrhyw Aelod o’r Senedd enwebu unrhyw Aelod arall i fod yn Brif Weinidog.

Os mai un Aelod yn unig fydd yn cael eu cyflwyno, yna bydd y person hwnnw’n dod yn “enwebai”. Os bydd mwy nag un, yna bydd holl Aelodau’r Senedd, oni bai am y Llywydd a’r Dirprwy Lywydd, yn pleidleisio.

Ar ôl i’r Senedd ddewis Prif Weinidog newydd, bydd y Llywydd yn ysgrifennu at y Brenin yn argymell bod yr enwebai yn dod yn Brif Weinidog.

Wedi i’r Brenin benodi’r Prif Weinidog newydd, bydd yn dewis Aelodau o’r Senedd i fod yn weinidogion yn y Cabinet.

‘Sefydlogrwydd mawr ei angen’

Dywed Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, ei fod yn “ddiolchgar” bod Vaughan Gething wedi gwrando ar alwadau ei blaid ac wedi adalw’r Senedd “er mwyn rhoi sefydlogrwydd mawr ei angen i Gymru”.

“O ystyried y trafferthion sydd wedi wynebu’r Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd, byddech chi wedi meddwl y bydden nhw wedi dod â’r penderfyniad yn ei flaen drwy adalw’r Senedd yn gynt i roi sefydlogrwydd i Gymru,” meddai.

“O ystyried bod cwestiynau am gyflawniadau Eluned Morgan fel Gweinidog Iechyd, byddech chi hefyd wedi meddwl y byddai hi eisiau dechrau’n syth drwy gael ei hethol yn Brif Weinidog gan y Senedd.”