Nid y Ceidwadwyr yw prif wrthblaid Cyngor Caerdydd bellach.

Mae Emma Reid-Jones, cynghorydd Llysfaen a Thornhill, a Peter Littlechild, cynghorydd Pontprennau a Hen Laneirwg, wedi penderfynu ymddiswyddo o’r Grŵp Ceidwadol.

Bydd y ddau yn parhau i fod yn aelodau ac yn gynghorwyr Ceidwadol.

Mae lle i gredu bod dau aelod arall o’r blaid Geidwadol hefyd yn ystyried gadael.

Mewn datganiad ar y cyd, dywed y Cynghorydd Reid-Jones a’r Cynghorydd Littlechild eu bod nhw wedi “dod mewn i wleidyddiaeth i weithredu mewn modd gonest a thryloyw a gweithio’n galed er budd y wardiau yr ydym yn eu cynrychioli ac i fod yn eiriol dros y rhai sy’n teimlo nad oes ganddynt lais”.

“Rydym yn ymroddedig i’n gwerthoedd teuluol Cristnogol a Cheidwadol, ac felly mae angen i ni wneud yr hyn sy’n iawn ac nid yr hyn sy’n hawdd,” medden nhw.

“Er ein bod yn parhau i fod yn aelodau Ceidwadol ymroddedig, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i ymddiswyddo o’n chwip Ceidwadol yng Nghyngor Caerdydd.”

Heriau 

Dywed y Cynghorydd Joel Williams, un aelod o Grŵp y Ceidwadwyr ar Gyngor Caerdydd, ei fod e wedi bod yn ymwybodol o heriau o fewn y Grŵp ers dipyn.

Mae Williams, sydd hefyd yn gadeirydd Ffederasiwn Ceidwadwyr Gogledd a Gorllewin Caerdydd, yn annog y blaid mewn datganiad i fod yn “ddigyfaddawd” yn eu hagweddau tuag at egwyddorion a pholisïau.

“Mae’n siom fod Emma Reid-Jones a Peter Littlechild wedi dewis gadael y Grŵp Ceidwadol,” meddai llefarydd ar ran y Grŵp Ceidwadol.

“Daw’r penderfyniad hwn er gwaethaf ymdrechion niferus gan arweinydd ein Grŵp i gysylltu â nhw a mynd i’r afael ag unrhyw bryderon all fod ganddyn nhw.

“Mae’r Grŵp Ceidwadol bob amser wedi gwerthfawrogi cyfathrebu agored a chydweithio.

“Rydym yn diolch i’r cynghorwyr am eu gwasanaeth i’r Grŵp.”

Bellach, fe fydd naw cynghorydd yn y Grŵp Ceidwadol ar Gyngor Caerdydd.

Mae deg aelod o Grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol yn eistedd ar y Cyngor, a bydd hynny’n eu gwneud yn brif wrthblaid i’r Grŵp Llafur.

Ymrwymiad

Mewn datganiad, dywed y Cynghorydd Joel Williams fod y Cynghorydd Emma Reid-Jones a’r Cynghorydd Peter Littlechild yn ddau o gynghorwyr mwyaf ymroddedig ac ymroddedig Caerdydd.

“Ni fyddai eu penderfyniad i adael y Grŵp Ceidwadol ar Gyngor Caerdydd wedi bod yn benderfyniad hawdd iddyn nhw ei wneud,” meddai.

“Rwyf wedi bod yn ymwybodol o heriau o fewn y Grŵp Ceidwadol ers tro ac yn gwerthfawrogi ymdrechion Emma a Peter i ddatrys anawsterau.

“Rhaid i’r Grŵp sicrhau ein bod yn ddigyfaddawd o Geidwadol o ran ein hegwyddorion a’n hymagwedd at bolisi, gan gynnig dewis amgen i Lafur.

“Mae Emma a Peter, ill dau, yn cadw eu haelodaeth o’r blaid.”

Arweinydd presennol y Grŵp Ceidwadol ar Gyngor Caerdydd yw’r Cynghorydd John Lancaster, ddaeth i’r rôl ar ôl i’r Cynghorydd Adrian Robson ymddiswyddo y llynedd.

Mae Adrian Robson yn parhau i wasanaethu fel cynghorydd ward Ceidwadol ar gyfer Rhiwbeina.

Gofynnodd y wefan newyddion Nation.cymru i’r ddau gynghorydd pam eu bod nhw’n ystyried nad yw’r Blaid Geidwadol bellach yn cyd-fynd â’u gwerthoedd, ac atebodd y Cynghorydd Peter Littlechild gan nodi nad ydyn nhw’n barod i ddweud rhagor am y mater ar hyn o bryd.