Mae hi’n “hen bryd” bod menyw’n Brif Weinidog Cymru, yn ôl Aelodau benywaidd o’r Senedd sydd wedi bod yn siarad â golwg360.
Cafodd ei chadarnhau’n arweinydd y Blaid Lafur ddoe (dydd Mercher, Gorffennaf 24), a dyma’r tro cyntaf i’r blaid yng Nghymru gael ei harwain gan fenyw.
Gobaith Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon a chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Fenywod, yw y bydd Eluned Morgan yn dod yn “lladmerydd” dros hawliau menywod.
“Dymuniadau gorau iddi yn y swydd, yn falch iawn bod yna ddynes o’r diwedd yn debygol o fod yn Brif Weinidog ar Gymru – hen bryd ar ôl 25 mlynedd o ddatganoli!” meddai wrth golwg360.
“Ond mae’n siomedig ei bod hi wedi cymryd cyhyd.”
‘Mynd am yn ôl’
Ar hyn o bryd, mae Bil fydd yn ei gwneud hi’n ofynnol i o leiaf hanner ymgeiswyr pleidiau mewn etholiad fod yn ferched yn mynd drwy’r Senedd, ac mae Siân Gwenllian yn gobeithio y bydd Eluned Morgan yn ei gefnogi.
“Dw i wirioneddol yn meddwl bod angen rhoi mecanwaith pwrpasol drwy gyfraith i wneud yn siŵr ein bod ni’n hyrwyddo cyfleoedd i ferched fod yn ymgeiswyr ac i fod yn aelodau o’r Senedd,” meddai.
“Yn anffodus, mae’r ystadegau’n dangos ein bod ni’n mynd am yn ôl. Roedd y Senedd yn dda iawn yn 2003, roedd hanner yr aelodau’n fenywod.”
Yn ystod Etholiad y Senedd yn 2021, dim ond 35% o’r ymgeiswyr oedd yn fenywod.
“Mae’n amlwg bod yna lot o rwystrau yn wynebu menywod, ac mae rhoi mecanwaith statudol yn ei le i wneud yn siŵr bod pleidiau gwleidyddol yn hyrwyddo o leiaf hanner y llefydd ar gyfer merched yn hollbwysig wrth symud ymlaen,” meddai Siân Gwenllian.
“Dw i’n meddwl bod cael cydraddoldeb yn golygu bod materion sydd o bwys i fenywod yn benodol, ond i bawb, yn cael sylw yn y Senedd. Mae tystiolaeth yn dangos hynny.”
Mae’r materion hynny’n cynnwys trais yn erbyn menywod, costau byw a gofal plant, meddai.
“Mae Eluned ei hun wedi bod yn pwysleisio iechyd merched a’r angen i gael cynllun iechyd menywod sy’n rhoi sylw penodol i faterion penodol sy’n effeithio ar ferched – rydyn ni dal i ddisgwyl am y cynllun yna, felly dw i’n gobeithio y bydd hi’n gallu defnyddio’i safle dylanwadol fel darpar Brif Weinidog i wthio hynny i gyd ymlaen.”
Ychwanega fod cael criw o ferched yn cefnogi’i gilydd yn y Senedd yn bwysig hefyd, ynghyd â chael cynrychiolaeth all ysbrydoli merched eraill i fentro i’r byd gwleidyddol.
“Os ydych chi mewn lleiafrif, mae yna deimlad weithiau dydych chi ddim yn perthyn i’r ‘clwb’, mewn ffordd,” meddai.
“Os oes gen ti griw o ferched sy’n gallu cefnogi’i gilydd i ddelio efo peth o’r gamdriniaeth yma sy’n digwydd ar-lein ac ati…
“Dw i’n gobeithio y bydd Eluned Morgan yn dod yn lladmerydd dros hawliau menywod, ac yn defnyddio’i safle hi i adlewyrchu hynny.”
‘Hen bryd’
Natasha Asghar oedd y fenyw ethnig leiafrifol gyntaf i fod yn Aelod o’r Senedd pan gafodd ei hethol i gynrychioli’r Ceidwadwyr Cymreig yn Nwyrain De Cymru yn 2021.
Mae’r posibilrwydd o gael menyw yn Brif Weinidog yn “ffantastig”, meddai, gan ddweud ei bod hi’n “hapus iawn” dros Eluned Morgan.
“Mae hi wastad yn wych gweld menywod yn gwneud cynnydd ac yn llwyddo mewn swyddi amrywiol,” meddai wrth golwg360.
“Dw i’n dymuno’r gorau iddi.
“Dw i’n meddwl y gwneith hi job wych.
“Dydy Eluned Morgan heb gyhoeddi maniffesto na manylu ar ei blaenoriaethau eto, ond a hithau’n gyn-Weinidog Iechyd, mae rhywun yn teimlo y bydd iechyd yn uchel ar ei rhestr o flaenoriaethau.
“Mae angen uno’r blaid Lafur wedi’r misoedd cythryblus diwethaf hefyd.
“Rydyn ni nawr wedi cael tri chyn-Weinidog Iechyd yn dod yn Brif Weinidog Cymru, a dw i’n meddwl bod rhaid iddyn nhw roi lot o ffocws ar ofal iechyd yng Nghymru.
“Nid fi yw’r llefarydd dros iechyd, ond dw i’n poeni am iechyd a llesiant y bobol dw i’n eu cynrychioli a thu hwnt.
“I fi, mae poblogaeth iach yn boblogaeth hapus, ac wedyn bydd yr economi’n ffynnu.
“Rydyn ni wedi cyrraedd pwynt lle nad yw hi’n bosib defnyddio Covid fel esgus.
“Yn y tair cenedl allan o’r pedair, mae pethau’n symud yn eu blaenau – mae rhestrau aros yn fyrrach, pobol yn mynd yn ôl i’r gwaith, swyddi gwell, cyflogau gwell.
“Rydyn ni yn bell, bell ar ei hôl hi yng Nghymru.”
Natasha Asghar yw llefarydd trafnidiaeth ei phlaid, ac mae hi’n awyddus i weld y Llywodraeth nesaf yn canolbwyntio ar y seilwaith trafnidiaeth a’r economi.
“Dw i’n meddwl bod Eluned Morgan wedi bod yn wleidydd angerddol iawn am gryn amser, yn amlwg fel Aelod o’r Senedd Ewropeaidd, barwnes ac Aelod o’r Senedd,” meddai wedyn.
“Dw i’n meddwl y gwneith hi job dda, mae gen i lawer o ffydd ynddi ond gawn ni weld beth fydd yn digwydd.
“Dw i’n meddwl y bydd yn ysbrydoliaeth fawr i ferched ifanc fynd mewn i wleidyddiaeth – mae hynna’n rywbeth dw i wastad wedi bod eisiau ei wneud, cael menywod o gefndiroedd amrywiol mewn i wleidyddiaeth.
“Dw i’n meddwl y bydd e’n neis iawn gweld Prif Weinidog benywaidd yn ei lle.
“Mae’r Alban wedi cael Nicola Sturgeon, Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cael pawb o Margaret Thatcher i Theresa May.
“Mae’n hen bryd i Gymru ddal i fyny â gweddill y [Deyrnas Unedig], a dw i’n meddwl y bydd e’n gam da, ond byddwn i’n hoffi gweld pethau’n digwydd yn gyflymach, gweld y cynllun gweithredu, a gweld sut fydd y dyfodol yn edrych.”
‘Mwy o heddwch yn y Senedd’
Dywed Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ei bod hi’n “wych” gweld y Blaid Lafur yn cael arweinydd benywaidd.
“Dw i’n gwybod fod Eluned wedi gweithio’n galed, felly mae’n bwysig iawn ein bod ni’n gweld mwy o fenywod ac yn cael ryw fath o gyfartaledd, a dyna beth sy’n bwysig, felly dw i’n falch iawn,” meddai wrth golwg360.
“Fel arweinydd y wlad, dw i eisiau gweld yn union sut maen nhw am weld gwasanaethau iechyd gwell – mae pawb dw i’n siarad efo nhw wedi cael profiad annifyr, yn anffodus, gyda’r gwasanaethau iechyd.”
Mae hi hefyd am weld sut mae’r Llywodraeth yn bwriadu lleihau nifer y plant sy’n byw mewn tlodi.
“A dw i eisiau gweld mwy o fanylion ynglŷn â newid hinsawdd a sut mae Cymru am arwain y byd yn yr agenda gwyrdd,” meddai wedyn.
“Dw i’n edrych ymlaen i weld y rhaglen a’i pholisïau hi, a gawn ni weld beth sydd am ddigwydd.
“Ond dw i’n gobeithio y bydd yna fwy o heddwch yn y Senedd.”