Mae Torsten Bell,  Aelod Seneddol Llafur Gorllewin Abertawe, yn wynebu galwadau i ymddiheuro am wrthod cefnogi cap fyddai’n rhyddhau miloedd o blant rhag byw mewn tlodi.

Fe bleidleisiodd dros y cap, sy’n cyfyngu teuluoedd i wneud cais am gymhorthdal i ddau blentyn yn unig, er iddo ysgrifennu at bapur y Guardian yn gynharach eleni yn galw am ddiddymu’r cap.

Mae’r cap dau-blentyn yn rhwystro teuluoedd sydd â mwy na dau blentyn rhag derbyn yr arian sydd ei angen arnyn nhw.

Nos Fawrth (Gorffennaf 23), fe bleidleisiodd Torsten Bell gyda’r Llywodraeth Lafur i orchfygu gwelliant gafodd ei gefnogi gan Blaid Cymru i gael gwared ar y cap dau blentyn.

Ond ym mis Ebrill eleni, roedd yn cefnogi diddymu’r cap.

‘Condemnio miloedd o blant i dlodi’

Dywed Dr Gwyn Williams mewn neges at aelodau lleol Plaid Cymru yn ei etholaeth fod yr “erthygl gan Mr Bell yn y Guardian wedi gwneud y pwynt bod y polisi wedi gwneud teuluoedd yn dlotach, ac y byddai ei ddiddymu yn codi hanner miliwn o blant drwy wledydd Prydain allan o dlodi”.

“Mynnodd Mr Bell fod rhaid i’r cap fynd, a bod y gost o’i ddiddymu’n fychan o’i gymharu â’r niwed a wnaeth,” meddai.

“Ond ymlaen â ni i 23 Gorffennaf 2024, ac wele – mae’n ymddangos bod polisïau erchyll y Torïaid yn iawn wedi’r cwbl.

“Canlyniad y bleidlais yw, diolch i’r Blaid Lafur, condemnio miloedd o blant diniwed i aros mewn tlodi.

“Dyna ddechreuad trychinebus i lywodraeth Sir Keir Starmer, a dyna rôl gywilyddus gan Aelodau Seneddol Abertawe.

“Rwy’n falch bod Aelodau Seneddol Plaid Cymru wedi sefyll yn gadarn dros ddiddymu’r cap a thros ryddhau ein plant rhag tlodi,” meddai.