Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn chwilio am gyfranwyr i astudiaeth newydd i effeithiau cysylltiadau rhyngrwyd gwael ar gymunedau gwledig.

Gan adeiladu ar astudiaeth fawr i effeithiau pandemig COVID-19 ar gartrefi a busnesau yng Ngheredigion gafodd ei chyhoeddi y llynedd, mae tîm o Ysgol Busnes Aberystwyth yn chwilio am gyfranwyr ar gyfer grwpiau ffocws yn y brifysgol ym mis Medi.

Roedd Dr Aloysius Igboekwu, Uwch Ddarlithydd mewn Cyllid yn Ysgol Fusnes Aberystwyth, yn un o awduron adroddiadau 2023, ac mae hefyd yn gyfrifol am yr astudiaeth newydd i annigonolrwydd y seilwaith digidol yng Ngheredigion.

“Roedd y materion yn ymwneud â darpariaeth rhyngrwyd, hyfedredd digidol ac argaeledd seilwaith digidol digonol yn amlwg yn yr ymatebion i’r ddau arolwg i astudiaethau COVID-19,” meddai.

“Rydym nawr yn chwilio am bobol o Geredigion i gymryd rhan mewn dau grŵp ffocws yn y Brifysgol fel y gallwn wneud astudiaeth fanylach o’r canlyniadau hyn a chael gwell dealltwriaeth o’r heriau sy’n wynebu aelwydydd a busnesau heddiw.

“Nododd y pandemig COVID-19 newid sylweddol ym mywydau pobl, gyda phobol yn dod yn llawer mwy dibynnol ar gysylltedd ar gyfer pethau fel addysg.

“Ein nod yw i’r gwaith newydd hwn lywio penderfyniadau polisi a fydd o fudd i’r rhai sy’n byw mewn cymunedau gwledig mewn byd a fydd yn fwy dibynnol ar rwydweithiau cyfathrebu digidol da ar gyfer popeth, o fasnach i addysg a darpariaeth iechyd, a chymaint mwy.”

Covid-19 a diffyg cysylltedd

Yn ôl awduron adroddiadau 2023 ar effeithiau’r pandemig COVID-19 ar aelwydydd, dywedodd bron i hanner yr ymatebwyr fod arafwch band eang, hygyrchedd digidol gwael a phroblemau cysylltedd wedi gwaethygu’r straen a’r pryder i drigolion.

Ar y pryd, dywedodd Dr Aloysius Igboekwu y “byddai darparu gwell mynediad i seilwaith digidol ledled y sir wedi bod o fudd i aelwydydd a busnesau yn ystod y pandemig”.

Mae gofyn i ddarpar gyfranogwyr sy’n dymuno cyfrannu at yr astudiaeth newydd ‘Cysylltedd Digidol mewn Ardaloedd Ymylol’ gofrestru ar gyfer y sesiynau trwy gwblhau holiadur ar-lein.

Bydd Dr Aloysius Igboekwu yn gweithio ar yr astudiaeth gyda Dr Sarah Lindop, Uwch Ddarlithydd mewn Cyllid, a Dr Maria Plotnikova, Darlithydd Economeg yn Ysgol Fusnes Aberystwyth oedd wedi cyfrannu at yr Astudiaethau yn 2023 i effeithiau COVID-19 ar fusnesau a chartrefi yng Ngheredigion.