Mae cynlluniau i droi capel o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn llety gwyliau ar Ynys Môn wedi cael eu gwrthod am y trydydd tro, wrth i ffrae tros ail gartrefi barhau.

Mae cynllunwyr yr ynys wedi gwrthod cais i droi hen gapel gwag Jerusalem yn Llangoed yn dair fflat wyliau – er gwaethaf rhybuddion y gallai’r mater fod yn destun apêl.

Roedd y cais wedi cael ei gyflwyno i Gyngor Ynys Môn gan y cwmni Baby Bird Development Ltd o Fanceinion, sy’n cael ei redeg gan Loretta ac Anthony Hodari.

Roedd cynlluniau i droi’r captel yn bedair fflat wyliau eisoes wedi cael eu gwrthod gan y pwyllgor fis Tachwedd 2022.

Cafodd cais oedd wedi’i ddiwygio i leihau nifer y fflatiau i dair ei wrthod hefyd ym mis Mehefin.

Cafodd y mater ei gyfeirio’n ôl at y pwyllgor gan Gary Pritchard, Alun Roberts a Carwyn Jones, cynghorwyr ward Seiriol.

Pryderon

Ymhlith y pryderon gafodd eu crybwyll roedd diffyg parcio, yr effaith ar ddiogelwch ffyrdd, a gorddarpariaeth o lety gwyliau yn yr ardal.

Roedd cynghorwyr wedi mynegi pryderon fod y trothwy ar gyfer nifer y llety gwyliau yn ardal (15%) wedi cael ei dorri, ac nad oedd wedi cynnwys nifer yr AirBnBs.

Dywedodd y swyddog cynllunio Rhys Jones mai “canllaw yn unig” yw’r trothwy o 15%, a bod y ffigwr ar gyfer Llangoed “ychydig bach yn uwch”.

“Rhaid i ni gofio bod y Cyngor wedi colli nifer o apeliadau, efo’r arolygwyr yn nodi nad oedd y Cyngor wedi darparu unrhyw dystiolaeth y byddai cynnydd bach dros 15% yn arwain yn uniongyrchol at unrhyw effaith andwyol,” meddai.

“Allwn ni ddim dweud yn rhesymegol y byddai cynnydd o 0.36% yn cael effaith andwyol ar ein cymunedau heb dystiolaeth.”

Ffigurau

Roedd y data diweddaraf wedi dangos bod 681 o unedau yn ardal Llangoed erbyn hyn, a bod 70 ohonyn nhw’n ail gartrefi a 35 yn unedau hunanarlwyo.

Er bod y ffigwr yn “hyblyg”, o ganlyniad i dai yn cael eu gwerthu a’u hadeiladu, dywedodd Rhys Jones mai’r ffigwr presennol yw 15.42%, gan ychwanegu y byddai’r tair uned yn codi’r ffigwr i 15.86%, sy’n gynnydd bach o 0.44%.

“Er bod y trothwy yn uwch, heb unrhyw dystiolaeth gadarn y byddai hyn yn achosi niwed, byddwn i’n disgwyl colli apêl ar y pwynt yma,” meddai.

“Rhaid i ni hefyd ystyried bod yr adeilad presennol yn fawr ac yn amlwg yn y pentref, mae’n wag ac yn debygol o fynd yn hyll os na chaiff ei ddatblygu.

“Gallai fynd yn hyll ac yn broblematig o ystyried ei faint a’i leoliad.

“Yr argymhelliad o hyd yw ei gymeradwyo.”

Fe wnaeth y Cynghorydd Jeff Evans gytuno a chynnig cymeradwyo, ond doedd dim eiliwr.

Gwrthwynebu’r argymhelliad

Aeth y pwyllgor yn erbyn yr argymhelliad, gyda’r Cynghorydd John Ifan Jones yn cynnig gwrthod y cais, wedi’i eilio gan Robin Williams – roedd y bleidlais un yn brin o fod yn unfrydol.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Roberts fod y cais wedi bod yn “eithriadol o ddadleuol”.

“Mae o wedi esgor ar lawer o drafod yn lleol, a gwrthwynebiad chwyrn gan drigolion lleol a phob aelod o’r cyngor cymuned,” meddai.

“Mae gwrthwynebiad anferth o ganlyniad i ddiffyg parcio ger y safle.

“Mae unrhyw un sy’n byw yn y pentref neu sydd, fel fi, yn gyrru drwodd yn hollol ymwybodol o’r diffyg parcio a’r anhawster wrth yrru drwodd…

“Dydy 15.36% ddim yn swnio’n gynnydd mawr ar ben y 15%, ond unwaith rydych chi’n gosod cynsail, os ydych chi’n mynd dros y trothwy, gallwch barhau i wneud hynny’n raddol… Mae’r ffigwr glywson ni heddiw hyd yn oed yn uwch.

“Ym Miwmares, dw i wedi gweld effaith agor y llifddorau, a dw i wedi gweld y diffyg disgyblion yn yr ysgol. Mae hynny’n mynd law yn llaw efo’r math yma o ddatblygiad.”

‘Hollol anaddas’

Fe wnaeth Gary Pritchard hefyd ddisgrifio’r cais fel un “hollol anaddas”, gan ddweud ei fod yn teimlo y gallai arwain at broblemau parcio a thraffig.

“Dw i’n ymbil arnoch chi i ystyried y ffigwr 15% yma; pe baen ni’n gadael i beth fynd dros y trothwy, buan y bydd yn mynd yn 20% a mwy, a byddwn ni’n wynebu sefyllfa fel Trearddur, lle mae’n 40%,” meddai Robin Williams.

“Dydy problem llety gwyliau ddim yn unigryw i Ynys Môn, Cymru na’r Deyrnas Unedig.

“Rydyn ni’n clywed yn y newyddion am bobol yn protestio ym Mallorca, o ganlyniad i gynifer o ail gartrefi.

“Mae pobol yng Nghernyw yn taro’n ôl.

“Dw i’n derbyn mai canllaw ydi 15%, ond fel dywedais i fis diwethaf, ydyn ni’n dweud mai digon yw digon?

“Os ydych chi’n chwilio am AirBnBs, mae yna 110 ohonyn nhw yn y gornel fach honno ar Ynys Môn; yn sicr, fydd rhai o’r unedau hynny ddim ar y gofrestr.

“Os oes rhaid i fi fynd i apêl i ddweud hyn wrth yr arolygwr, mi wna i, ac mi wna i ddweud wrtho fy mod i wedi diflasu gweld tai yn cael eu defnyddio fel ail gartrefi ac unedau gwyliau.

“Efallai y gallai’r datblygwr droi’r capel yn dri neu bedwar cartref fforddiadwy i bobol leol gael byw ynddyn nhw – ond na, yr elw yna mae pobol yn chwilio amdano fo, on’d e?

“Rhaid i ni roi ein cymunedau uwchlaw datblygwyr sy’n dod ger ein bron efo datblygiadau ail gartrefi dro ar ôl tro.

“Dyna ydyn nhw – unedau gwyliau i bobol gyfoethog o Fanceinion neu Birmingham neu le bynnag.

“Fedrwn ni ddim parhau efo’r sefyllfa hon fel ag y mae, neu fyddwn ni wedi lladd ein cymunedau.”