Mae Cyngor Gwynedd eisiau clywed barn y cyhoedd am reolau sy’n ymwneud â chŵn mewn mannau cyhoeddus fel traethau a pharciau chwarae.

Mae gorchmynion rheoli cŵn wedi bod yn weithredol yng Ngwynedd ers dros ddeng mlynedd.

Maen nhw’n gosod rheolau clir i unrhyw un sy’n mynd â chi i fan gyhoeddus ac yn rhoi’r hawl i’r Cyngor gosbi’r rheini sy’n torri’r rheolau hyn.

Mae’r gorchmynion yn cynnwys:

  • peidio â chlirio neu godi baw ci;
  • gadael i gi fynd ar dir lle mae cŵn wedi’u gwahardd, er enghraifft caeau chwarae, tir ysgolion a cholegau, a rhai traethau ar adegau penodol o’r flwyddyn;
  • peidio rhoi a chadw ci ar dennyn pan fo gofyn i’r person wneud hynny gan swyddog awdurdodedig.

Mae’r gorchmynion cyfredol yn rhoi’r hawl i swyddogion Cyngor Gwynedd roi rhybudd cosb benodedig o hyd at £100 i unrhyw un sy’n mynd yn groes i’r rheolau hynny ac yn caniatáu i’w cŵn achosi niwsans i weddill cymdeithas.

Gallai hyn arwain ar erlyniad gan y llysoedd.

Mae Cyngor Gwynedd eisiau clywed barn y cyhoedd ynghylch a ydyn nhw’n fodlon i’r gorchmynion cyfredol gael eu hymestyn am y tair blynedd nesaf.

Mwyafrif yn ymddwyn mewn ffordd gyfrifol

Dywed y Cynghorydd Berwyn Parry Jones, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Stryd, eu bod nhw wedi cyflwyno’r gorchmynion sy’n ymwneud â chŵn mewn mannau cyhoeddus yng Ngwynedd am y tro cyntaf yn 2013, a’u bod nhw wedi’u diweddaru ers hynny.

“Mae’n amser i ni edrych unwaith eto ar y rheoliadau cyfredol gafodd eu diweddaru yn 2021, ac rydym yn gofyn i bobol Gwynedd ddweud eu dweud os ydyn nhw yn cefnogi bwriad y Cyngor i’w hymestyn am dair blynedd bellach.

“Mae perchnogaeth cŵn wedi cynyddu yn ddiweddar, ac mae’r mwyafrif helaeth o berchnogion yn ystyrlon o eraill ac yn ymddwyn mewn ffordd gyfrifol.

“Ond mae’r gorchmynion sydd yn eu lle yn caniatáu i’r Cyngor fynd ar ôl y nifer bychan sy’n ymddwyn mewn ffordd ddi-hid, er enghraifft yn caniatáu i’w cŵn redeg yn rhydd – a baeddu ar feysydd chwaraeon a chaeau chwarae plant.”

“Problem ddifrifol” yn Nyffryn Ogwen

Er bod y gorchmynion gan Gyngor Gwynedd yn eu lle ers degawd, dydy’r rheolau ddim bob amser wedi cael eu dilyn.

Ychydig dros flwyddyn yn ôl, roedd y “broblem yn ddifrifol” yn Nyffryn Ogwen ac wedi dirywio gymaint nes bod Beca Roberts, Cynghorydd Plaid Cymru yn Nhregarth a Mynydd Llandygai ar Gyngor Gwynedd, wedi gorfod gosod posteri baw ci a bagiau mewn mannau cyhoeddus.

Wrth siarad â golwg360 ar y pryd, dywedodd ei bod yn bwysig “pigo baw ci fyny a’i roi yn y biniau baw ci, nid gadael y bag allan ar y lôn”.

“Mae pobol yn hoffi rhoi’r bagiau ar frigau coed ac yn y blaen,” meddai.

“Mae’n rhan o barchu cymuned, mae eisiau bod yn falch o’ch cartref ac edrych ar ei ôl.

“Os ydy pobol eisiau cŵn, mae rhaid iddyn nhw feddwl yn ofalus am yr holl agwedd o edrych ar eu hôl.”

Cafodd y cynllun ganmoliaeth fawr ar y cyfryngau am y camau oedd wedi’u cymryd i geisio mynd i’r afael â’r broblem.

Diffyg cyhoeddusrwydd

Problem arall y flwyddyn diwethaf oedd nad oedd digon o gyhoeddusrwydd ynglŷn â sut i gael gafael ar y bagiau codi baw ci roedd y Cyngor yn eu darparu.

Mynnodd Sandra Salisbury Jones nad oedd yn ymwybodol o sut i gael gafael ar y bagiau.

“Dydw i heb gael mantais o’r bagiau rhad neu fagiau am ddim sydd gan y Cyngor,” meddai wrth golwg360.

“Doeddwn i ddim yn ymwybodol ohono fo.

“Dylai fod lleoliad o gwmpas, efallai, lle mae rhywun yn gallu mynd i’w ’nôl nhw.

“Efallai y dylai poster gael ei roi i wneud pobol yn ymwybodol ohono fo,” meddai.