Pan ddes yn ymwybodol o TikTok ar y cychwyn, doeddwn i ddim yn ei hoffi. Gwelais fideos byr (ar fy llinyn amser ar Instagram) oedd yn cynnwys goleuadau yn fflachio, graffeg cyflym a symudiadau ailadroddus – hynny ydi, yr union math o beth sy’n gwneud i mi deimlo’n sâl oherwydd ffotosensitifrwydd – gwaddol y trawiadau a’r triniaethau. Ac felly mi wnes i gadw draw, gan feddwl nad oedd TikTok i bobol fel fi.

Yna, wnaeth TikTok ddod yn noddwyr ar Glwb Pêl-droed Wrecsam. Wel! Ac yna daeth y crys glas golau ar gael – crys pêl-droed Wrecsam yn y lliw gorau i mi ei wisgo nawr fy mod yn welw! Ond rhaid dweud, wedi i mi brynu crys, mi wnes i fwynhau’r eironi o’i wisgo, ac arno enw platfform nad oeddwn yn medru mynd arno!

Ond yn ddiweddar, mae un neu ddau o bethau wedi digwydd sydd wedi fy annog, o’r diwedd, i greu cyfrif TikTok ac yna i archwilio sut fedraf ei ddefnyddio i hyrwyddo fy ngwaith creadigol.

Epiffani yn y llyfrgell

Ychydig fisoedd yn ôl, es draw i Lyfrgell Wrecsam ar gyfer digwyddiad i hyrwyddo’r flodeugerdd A470. Roedd y digwyddiad yn rhan o’r ‘Ŵyl Geiriau’ flynyddol leol, ac roedd yna gynulleidfa go dda i’n sesiwn ni – digon i lenwi’r seddi yn y stafell fach yng nghornel y llyfrgell ar y llawr cyntaf.

Ond tra roeddwn yn y llyfrgell, sylwais fod adran ‘cynllun agored’ y llawr yn llawn seddi – ryw bedair gwaith y cadeiriau oedd i ni! Roedd yna arwydd yn nodi’r awdur oedd yn cyflwyno ar ei ben ei hun, ond roedd pedair ohonom ni. Ac mi welais yr awdur, ac mi roedd hi’n ifanc iawn.

Holais un o’r trefnwyr, ac mi roedd yn frwdfrydig wrth ddweud wrtha i ei bod hi’n enwog iawn. Synnais, ac yna ychwanegodd, “Mae hi’n book-tokker”. Cymerodd eiliad i mi ddeall bod ‘BookTok’ yn gymuned o fewn yr app TikTok.

Waw! Felly yn sydyn, nid dim ond platfform ymhell o ’mywyd i mohono. Roedd TikTok wedi creu seren lenyddol yma yn Wrecsam oedd yn medru denu cynulleidfa sylweddol ar ei phen ei hun.

Dwni’m pam ddaeth hyn fel cymaint o syndod i mi. Rwy’n gyfarwydd â hanes Rupi Kaur yn hunangyhoeddi trwy Amazon, gan ddenu cynulleidfa trwy Instagram – pam fyddai TikTok yn wahanol?

Ac mi roeddwn erbyn hyn yn ymwybodol bod golwg360 yn rhannu fideos byr ar TikTok, ac roeddwn wedi troi fy llaw at gasglu fideos byr i’w cynnig fel rhan o ‘ngwaith fel gohebydd llawrydd. Ond y diwrnod hwnnw, daeth yn glir i mi fod TikTok yn adnodd pwysig i lenorion oedd angen hyrwyddo’u gwaith eu hunain. Pobol tu hwnt i’r sefydliad. Pobol fel fi!

Fahmidan, Goareig, a SerenSiwenna!

Tua’r un adeg, mi wnaeth tîm golygyddol Fahmidan ddechrau creu fideos i TikTok a gofyn i mi, fel un o’r ‘Readers’, i helpu. Dewisais un o’r cerddi oedd wedi’i chyhoeddi yn y cyfnodolyn a gwnes fideo ohonof fi fy hun yn ei darllen draw yn Erbistock, yn syth ar ôl recordio pennod o’r podlediad Doctoriaid Cymraeg. Ew, deinamig ynde?! Ond anfonais hi draw i’r golygydd a chafodd y fideo ei ychwanegu.

Ond roeddwn mo’yn gwylio’r fideo, ac mi wnaeth Anthony dweud wrthyf fod un o’r ‘Readers’ eraill wedi dewis un o fy ngherddi i ac wedi gwneud fideo hyfryd ohoni. Wel, roedd rhaid mynd ar Tik Tok i weld hynny, on’d oedd?

Roeddwn braidd yn amheus, ond cedwais draw o fideos pobol eraill – jyst rhag ofn! Mi roedd y broses o greu cyfrif yn wrth-reddfol, a bron i mi roi’r ffidil yn y to sawl gwaith. Ond llwyddais i greu fy nghyfrif ‘SerenSiwenna’, ac es draw i gyfrif Fahmidan.

Hyfryd oedd gweld y dehongliad o ‘ngherdd ‘The pili pala paradox’, oedd wedi’i gosod hefo cerddoriaeth biano hyfryd, a thudalen flaen yn dweud ‘This poem was meant to find you’, dros lun o ddŵr a thonnau – neu gymylau (dw i’n mwynhau synfyfyrio ar hyn bob tro dw i’n dod draw i sbio arno!).

Serendipedd a chael fy swyno gan botensial y platfform

Difyr iawn yw cyhoeddi chapbook o farddoniaeth a cheisio’i hyrwyddo eich hun. Ac erbyn hyn, rwy’n deall taw trwy gymysgedd o farchnata traddodiadol a serendipedd mae ennyn cynulleidfa i rywbeth mor niche â fy llyfr A Goareig Patchwork quilt.

Yn ddiweddar, wnes i gwrdd â rhywun am y tro cyntaf a chael sgwrs am bob math o bethau, gan gynnwys gwydr a chrochenwaith y môr. Mi wnaeth yntau Google-o fi wedyn i geisio cysylltu ar fater penodol, ac un o’r dolenni cyntaf ddaeth fyny oedd Siop Cwlwm a’r linc i fy llyfr barddoniaeth.

Digwydd bod, mi roedd fy ffrind newydd wedi bod wrthi’n dysgu mwy am farddoniaeth drwy bodlediad barddoniaeth y digrifwr Frank Skinner, felly prynodd gopi o fy llyfr! A dyna ni wedyn yn cael sgwrs am y podlediad ac am fardd o’r enw Fernando Pessoa – ac es i ati i brynu copi o’i lyfr I have more souls than one’, ac rwy’ am wrando ar bodlediadau Frank Skinner ar Spotify.

Fues i wedyn yn synfyfyrio, a daeth fy meddyliau yn ôl at y digwyddiad yn Llyfrgell Wrecsam. Mewn cyd-destun traddodiadol iawn, gan gynnwys digwyddiad ar gyfer blodeugerdd wedi’i chyhoeddi gan gyhoeddwr traddodiadol, roedd yna le hefyd i BookTokker – a mwy o le a chadeiriau nag oedden ni eu hangen.

A dyma fynd ati, felly, i geisio dysgu mwy amdano. Des i ddeall fod fideos yn medru bod hyd at ddeg munud, ond maen nhw fel arfer yn llai na thair munud. Cefais top tips gan fy nith i ddefnyddio hashnodau a cherddoriaeth sy’n trendio.

Doedd dim awydd gen i wneud fideo newydd, felly gwnes i test hefo dim ond llun o fy chapbook newydd Goareig, a rhoddais gerddoriaeth iddo – ‘Calon Lân’ gan un o’r corau meibion oedd ar gael trwy’r platfform. Dewisais y gerddoriaeth yma oherwydd bod yna ddwy gerdd yn y gyfrol am drawsieithu ‘Calon Lân’.

Felly fideo digon di-gyffro, ond y bore wedyn roedd dros 1,000 o bobol wedi ei weld, ac erbyn hyn, ddiwrnod yn ddiweddarach, mae 1,845 wedi ei weld, a sawl un wedi sbïo ar fy mhroffil hefyd.

A dyma fi wedi fy argyhoeddi, felly. Rwy’ am fynd ati i geisio creu cynnwys TikTok-aidd, a’i ddefnyddio i ddenu mwy o bobol at fy chapbooks sydd, serch hyn oll, yn rhai traddodiadol, copi caled, sydd yn y llyfrgelloedd ac ar gael mewn rhai o’r siopau llyfrau.

Ymlaen â fi hefo ‘hybrid-gyhoeddi’, gan gynnwys bod yn TikTokydd!