Y Cysgod yn y Cof yw nofel gyntaf yr hanesydd poblogaidd Bob Morris o Benygroes. Mae llawer o stori’r nofel yn digwydd ym merw’r 1960au, cyfnod mae’r awdur yn ei gofio yn dda ei hun.
Yn y nofel, mae dyn o’r enw Caerwyn Williams, sydd yn ei 70au hwyr, wedi colli rhan o’i gof, ac yn gorfod ceisio datrys yr hyn a ddigwyddodd yng ngwersyll gwyliau ‘Summerlands’ 60 mlynedd ynghynt. Mae’r camp yn seiliedig ar Butlin’s Pwllheli, lle bu Bob Morris ei hun yn gweithio yn ei arddegau, rhwng 1963 – 1965, y cyfnod sydd dan sylw yn y nofel.
Dywed yr awdur, mewn cyfweliad i rifyn nesaf cylchgrawn Golwg, fod ganddo ddiddordeb yn yr hanes rydyn ni’n darllen amdano ar y naill law, a’r hanes r’yn ni wedi’i fyw a’i brofi ar y llaw arall, a lle mae’r ddau yn “cyd-gyfarfod”.
“Dyna’r sefyllfa mae Caerwyn Rowlands yn y llyfr yma yn ei wynebu, gan ei fod wedi colli ei gof am ran helaeth o’i ieuenctid,” meddai. “Mae o’n ddibynnol yn y lle cyntaf ar beth mae o wedi’i ddarllen, a hefyd ar beth mae o’n medru’i ffeindio allan drwy ei ferch a phobol eraill.”
Angen i hanes “adlewyrchu profiad a chof y gymuned”
Treuliodd Bob Morris, sydd yn 77 oed, ei yrfa ym myd addysg – yn athro uwchradd, yn creu adnoddau dysgu cyfrwng-Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, yn Swyddog Addysg i CADW yng Nghaerdydd ac yn ddarlithydd yn y Coleg Normal a Phrifysgol Cymru Bangor.
Ar ddechrau’r 1990au roedd yn aelod o’r panel a luniodd y cwricwlwm hanes gwreiddiol yn ysgolion Cymru. Mae’n falch bod y gyfundrefn addysg newydd i Gymru yn rhoi pwyslais ar brofiad y gymuned.
“Un o’r pethau roeddan ni yn ei bwysleisio yr adeg hynny oedd bod angen i hanes adlewyrchu profiad a chof y gymuned, yn ogystal â’r hyn sy’n digwydd yn rhyngwladol ac yn genedlaethol,” meddai. “Ond yn raddol, mi wasgwyd y cwricwlwm hanes fwy a mwy gan y pynciau eraill.
“Mae’r cwricwlwm newydd yn rhoi pwyslais, a hwnnw’n bwyslais da iawn, ar brofiad y gymuned a’r pwysigrwydd ar bobol i gofio’u hanes eu hunain, a hanes teuluoedd a chymunedau. Mae hynny’n allweddol bwysig.
“Bod lle i ysgolion drafod storïau o brofiad y gymuned… a mynd â phlant allan i safleoedd hanesyddol, mynd â nhw o gwmpas y dref a’r pentref i weld be ddigwyddodd yn y fan a’r fan ar adeg neu’i gilydd. Mae hwnnw’n allweddol bwysig.”
Pan oedd yn Swyddog Addysg CADW, bu Bob Morris yn hybu ymweliadau gan ysgolion a theuluoedd i safleoedd CADW, a threfnu profiadau difyr iddyn nhw yno. Mae’n cydnabod ei bod hi yn anodd heddiw i ysgolion drefnu teithiau o’r fath.
“Wrth reswm, mae cyllideb ysgolion i fynd allan wedi lleihau, ac wrth gwrs, mae gennych chi’r broblem costau byw ar hyn o bryd i deuluoedd,” meddai. “Ond mae o’n dal yn bwysig iawn bod rhywun yn dal i drio mynd i lefydd, a llefydd fel CADW, sydd am ddim i lawer o’r cyhoedd.”
Ysgolion yn “gorfod cymryd lle cof teulu”
Mae’r awdur yn dweud y byddai plant yn arfer amsugno hanes eu broydd wrth wrando ar aelodau hŷn y teulu ar yr aelwyd.
“Pan oeddwn i’n hogyn bach, o’n i’n byw efo teulu estynedig, nain a thaid, a modryb estynedig, yn byw efo ni,” meddai. “Roedd yna gymaint o bobol yn galw yn y tŷ ac i gyd yn dweud hanesion, beth oedden nhw’n ei gofio, lle o’n nhw wedi bod, ac ati. Rhywsut neu’i gilydd ro’n i’n gallu sugno’r rheina i mewn.
“Er eu bod nhw’n bethau oedd wedi digwydd ymhell cyn fy amser i ro’n i’n medru eu perchnogi nhw am fy mod i wedi eu clywed nhw gan aelodau’r teulu. Mae hynny’n beth pwysig – bod cof teulu yn ymestyn cof yr unigolyn yn ôl ymhellach na’i gyfnod o’i hun. Roedd hynna’n brofiad pwysig iawn.”
Gyda theuluoedd ar wasgar fwyfwy heddiw, gall ysgol lenwi’r bwlch rhywfaint, yn ôl Bob Morris. “Mae’r ysgol yn gorfod cymryd lle’r cof teulu os ydi plant bellach ddim yn byw yn agos at nain a thaid, a modrybedd ac ati. Mae hynna’n ffactor yn y byd sydd ohoni. Mae’r ysgol yn medru helpu i lenwi ychydig ar y bwlch.”
Bydd Bob Morris yn sgwrsio am ei nofel Y Cysgod yn y Cof (Lolfa) yn rhifyn nesaf cylchgrawn Golwg.