Mae ambell ymadrodd yn boen! ‘Yeah whatever’, er enghraifft. Mae ‘Fi ddim’ a ‘Fi gen’ yn enghreifftiau ychwanegol. Yr ymadrodd ‘No problem’ sy’n boen i mi. Yr ymateb arferol i ‘Thank you’ oedd ‘You’re welcome’. Erbyn hyn, cafodd ‘You’re welcome’ ei wthio o’r neilltu gan ‘No problem’. Er bod ‘Croeso’ yn dal ei dir fel ymateb i ‘Diolch yn fawr’, yn raddol mae ‘Dim problem’, a’i frawd bach ‘Dim probs’, yn fwy a mwy amlwg yn ein siarad dyddiol.
Dychmygwch: aethoch allan am bryd o fwyd, a’r cyfan yn hyfryd. Dyma chithau’n talu gyda diolch. Mae’r sawl fu’n gweini’r bwyd yn ymateb gan ddweud ‘No problem’. (neu fel ces i ychydig ddyddiau ‘nol, ‘No problem buddy’!) Beth ddywed yr ymateb hwnnw? Oni ddywed y ‘No problem’ fod perchenogion y bwyty, y cogyddion a’r gweinwyr, bob un, yn falch iawn, nid am eich bod wedi dod y noson honno ac wedi mwynhau, ond eich bod wedi llwyddo i beidio â bod yn ormod o drafferth iddyn nhw! Dim problem!
Beth am ddod â’r ymadrodd ‘Dim problem’ at ein perthynas â Duw. Pam? Onid hanfod ein perthynas â Duw yw ‘Diolch’?
Diolch byth, a chanmil diolch, diolch tra bo ynof chwyth, am fod gwrthrych i’w addoli a thestun cân i bara byth…
(Ann Griffiths, 1776-1805; CFf 446)
Sut mae Duw yn ymateb i ddiolch pobol, tybed? ‘Â chroeso’, neu ‘Dim problem’? Cawn gan Dduw fendithion di-ben-draw; bendithion a ddaw er gwaethaf ein gwendid a’n gwendidau i gyd. O’r herwydd, buasai ‘Dim problem’ yn gywirach ymateb o lawer gan Dduw i’n diolch ni nag ‘Â chroeso’. Mae ‘Â chroeso’ yn awgrymu ein bod ni’n haeddu’r pethau hyn! Wna hynny mo’r tro; felly – am wn i – ‘Dim problem’ yw ymateb Duw i’n diolch ni. Crisiala ‘Dim problem’ ymateb oesol Duw i’w bobol. Caiff bendithion eu hestyn yn drwch i ni; nawr, fel erioed, cymerwch yw neges Duw i’w bobol. Cymerwch… Carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab (Ioan 3:16a). Cymerwch… Cymerwch hyn oll. Dim problem.
Nid yw ‘No problem’ cynddrwg ymateb i ddiolch wedi’r cyfan!
Rhown ddiolch i Dduw; ‘dim ond diolch yw fy lle’
(William Williams, 1717-91; CFf 713)
Oherwydd ein natur ni, ac oherwydd ei natur Ef, dim ond un ymateb all fod gan Dduw i’r diolch hwnnw: ‘Dim probs’.