Bydd Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg yn teithio i Wlad y Basg i drafod effaith Covid ar waith Comisiynwyr Iaith.

Mewn cynhadledd ryngwladol yn ninas Bilbao, bydd comisiynwyr iaith yn dod ynghyd i ystyried sut i fynd i’r afael ag amddiffyn hawliau ieithyddol dinasyddion ledled y byd yr wythnos hon (Medi 7 ac 8).

Bydd cynhadledd Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith hefyd yn cyhoeddi mai Comisiynydd y Gymraeg fydd yn gyfrifol am gadeiryddiaeth y Gymdeithas am y blynyddoedd nesaf.

Golyga hynny mai Cymru fydd cartref y gynhadledd nesaf ymhen dwy flynedd, sydd yn “dipyn o anrhydedd”, medd Gweinith Price, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg.

‘Hyrwyddo statws Comisiynydd y Gymraeg’

Mae derbyn y gadeiryddiaeth yn arwydd o’r statws sydd gan Gymru o fewn i’r Gymdeithas, meddai Gwenith Price.

“Mae’n braf yn gyntaf gweld y gynhadledd yn dychwelyd yn dilyn y toriad anorfod yn sgil y pandemig.

“Fel ym mhob maes mae Covid-19 wedi cael effaith bellgyrhaeddol ar bolisïau iaith a bydd y gynhadledd hon yn gyfle i ni ystyried y goblygiadau a sut i fynd i’r afael â nhw.

“Dros y blynyddoedd mae’r cyfle i drafod a meithrin rôl Comisiynwyr Iaith yn ogystal â rhannu arferion effeithiol â gwledydd eraill wedi bod yn rhan greiddiol o’n gwaith ac mae’n hollbwysig fod y gwaith hwnnw yn parhau.

“Rwy’n hynod o falch mai Cymru fydd yn derbyn y gadeiryddiaeth yn dilyn y gynhadledd hon.

“Bydd yn gyfle i ni hyrwyddo ymhellach rôl a statws Comisiynydd y Gymraeg yma yng Nghymru a thu hwnt, ac edrychwn ymlaen at allu croesawu’r cynrychiolwyr rhyngwladol i Gymru ymhen dwy flynedd.”

Nod Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith yw cefnogi a hyrwyddo hawliau, cydraddoldeb ac amrywiaeth ieithyddol ledled y byd, a bydd Cymru yn arwain ar drafodaethau strategol am yr heriau sy’n wynebu comisiynwyr wrth reoleiddio a sut i fynd i’r afael ag ymchwiliadau a chwynion.

Byddan nhw hefyd yn ystyried sut mae gwledydd fel Gwlad y Basg, Canada a Fflandrys yn mynd i’r afael â’r heriau hyn, a bydd trafodaeth ehangach am effaith y pandemig ar ieithoedd swyddogol a lleiafrifol gyda’r pwyslais ar yr effaith ar y sector addysg a dewisiadau rhieni am addysg drochi.