Bydd Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn dychwelyd i Sain Ffagan dros y penwythnos hwn (Medi 10 ac 11).
Ynghyd â thros 80 o stondinau bwyd, diod a chrefft, bydd sawl cerddor adnabyddus yn perfformio yn yr ŵyl.
Dyma fydd y tro cyntaf i’r ŵyl gael ei chynnal yn fyw ers 2019, wedi i Covid-19 orfodi’r trefnwyr i’w chynnal yn ddigidol ers dwy flynedd.
Bydd cerddoriaeth fyw ar ddau lwyfan, a pherfformiadau gan artistiaid megis Hyll, Lily Beau, Parisa Fouladi, Hana Lili, Craven, Banshi, a Small Miracles.
Fe fydd digwyddiadau i’r teulu’n cael eu cynnal mewn amryw leoliad ar draws Sain Ffagan hefyd, o ddangosiadau coginio i sesiynau sgiliau syrcas.
‘Gwledd o gynhyrchwyr’
Dywedodd Mared Maggs, Pennaeth Digwyddiadau Amgueddfa Cymru, ei bod hi’n “bleser” gallu croesawu ymwelwyr yn ôl i fwynhau’r Ŵyl Fwyd yn fyw.
“Edrychwn ni ymlaen at ddathlu gwledd o gynhyrchwyr Cymreig a thalent amrywiol o bob cwr o Gymru.
“Gall ymwelwyr ddisgwyl bwyd arbennig, cerddoriaeth wych a digonedd o weithgareddau i’r teulu oll.”
Cynaliadwyedd bwyd
Bydd y stondinau bwyd a diod wedi’u britho o amgylch yr adeiladau hanesyddol, gyda Pizza Ffwrnes, Maggie’s African Twist, A Bit of a Pickle, a Drop Bear Beer ymysg yr opsiynau.
Bwyd Caerdydd fydd yn gyfrifol am yr ardal gweithgaredd ‘Bwyd Da’, a’r nod yw dathlu a chodi ymwybyddiaeth am uchelgais Caerdydd i fod yn un o lefydd bwyd mwyaf cynaliadwy’r Deyrnas Unedig.
Meddai Pearl Costello, Cydlynydd Llefydd Bwyd Cynaliadwy gyda Bwyd Caerdydd: “Mae ardal Bwyd Da Caerdydd yng Ngŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn ddathliad o fudiad tyfu bwyd da yn y ddinas, ac yn bwysicach, yn gyfle i bawb ddysgu mwy am beth maen nhw’n ei fwyta a gwella eu sgiliau coginio a thyfu bwyd.
“Mae Bwyd Caerdydd yn falch iawn o gydweithio ag Amgueddfa Cymru a grwpiau cymunedol ar draws y ddinas i ddangos bod Caerdydd ar ei ffordd at fod yn lleoliad bwyd mwyaf cynaliadwy’r Deyrnas Unedig.”
Bydd FareShare Cymru yn casglu a dosbarthu bwyd dros ben y stondinwyr er mwyn sicrhau nad oes yna ddim yn cael ei wastraffu.
Gall pobol ymweld â Sain Ffagan am ddim dros yr ŵyl, a bydd yr Amgueddfa ar agor tan 6yh ar y ddau ddiwrnod.