Mae angen hybiau bancio yng ngorllewin Cymru, meddai Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.
Cyhoeddodd The Banking Hub Company heddiw (Medi 6) bod 13 hwb bancio cymunedol newydd am gael eu sefydlu dros y Deyrnas Unedig.
Does yr un o’r rheiny am fod yng Nghymru, ac mae Cefin Campbell wedi mynegi ei siom ynghylch y penderfyniad.
Bydd pedwar ohonyn nhw yn yr Alban, un yng Ngogledd Iwerddon ac wyth yn Lloegr. Fe fydd cyfanswm o 25 hwb dros y Deyrnas Unedig wedi’r datblygiad hwn, a dim ond un o’r rheiny yng Nghymru – yn y Trallwng.
Mae hwb bancio yn wasanaeth sy’n cael ei rannu rhwng nifer o fanciau, gan weithredu mewn ffordd debyg i gangen banc arferol.
Mae posib i gwsmeriaid o bron unrhyw fanc godi arian parod, gwneud taliadau biliau a chynnal trafodion rheolaidd yno.
‘Colli cyfle’
Yn ôl Cefin Campbell, mae cymunedau a threfi gorllewin Cymru wedi “colli cyfle” heddiw.
“Mae’n siom na chafodd unrhyw hybiau bancio pellach eu dyrannu i drefi a chymunedau yng ngorllewin Cymru fel rhan o’r broses hon,” meddai.
“Mewn siroedd fel Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, rydym bellach wedi hen arfer â gweld banciau yn cefnu ar ein cymunedau – gan yn aml fod yn hoelen yn arch ein stryd fawr, ac achosi gryn rwystredigaeth ac anghyfleustra i fusnesau lleol a chwsmeriaid.
“Tra rwy’n cydnabod bod dulliau bancio yn newid, mae nifer fawr o drigolion yn parhau’n ddibynnol ar arian parod, tra bod eraill yn hoff o’r sicrwydd o fedru manteisio ar fancio wyneb i wyneb.
“Does dim un banc ar ôl mewn trefi megis Castell Newydd Emlyn, Llanymddyfri ac Abergwaun, ac rwy’n teimlo bod ein cymunedau wedi colli cyfle dro hyn i elwa o’r gwasanaeth bancio hyn.”
‘Siom’
Rhwng 2012 a 2021, gostyngodd nifer canghennau banciau a chymdeithasau adeiladu Cymru 36%, yn ôl ymchwil yr ONS.
Yn ôl ymchwil pellach gan Which!, etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr sydd wedi gweld y golled fwyaf yn y Deyrnas Unedig dros y ddegawd ddiwethaf, gan golli 13 o’i 15 cangen leol.
“Mae’n parhau’n siom mae dim ond un hwb sydd wedi ei glustnodi i Gymru hyd yma – tra bod sawl un eisoes ar droed yn yr Alban,” ychwanegodd Cefin Campbell.
“Byddaf yn codi’r mater hon gyda The Banking Hub Company, gan bwysleisio’r angen am fath wasanaeth – ac rwy’n fawr obeithiol gall cymunedau gorllewin Cymru elwa o’r cynllun yma yn y dyfodol agos.”