Mae’r Prif Weinidog newydd, Liz Truss, wedi addo gweithredu’r wythnos hon er mwyn mynd i’r afael â biliau ynni.

Yn ei haraith gyntaf fel Prif Weinidog, dywedodd mai ei thair blaenoriaeth yw’r tyfu’r economi, cryfhau’r Gwasanaeth Iechyd, sy’n fater datganoledig, a mynd i’r afael â biliau ynni.

Yr awgrym yw y bydd hi’n rhewi biliau ynni ar tua £2,500, tua £500 yn uwch na’r cap presennol ond £1,000 yn is na’r cap fydd yn cael ei gyflwyno ym mis Hydref.

Dydy’r cynlluniau hynny heb gael eu cadarnhau eto.

Dywedodd yn ei haraith tu allan i Rif 10 ei bod hi’n “benderfynol o gyflawni”, ac y bydd hi, drwy ganolbwyntio ar y tri mater hynny, yn “rhoi ein cenedl ar y llwybr tuag at lwyddiant hirdymor”.

“Mae hi’n fraint i mi ymgymryd â’r cyfrifoldeb hwn ar adeg mor bwysig i’n gwlad,” meddai gan roi teyrnged i’w rhagflaenydd, Boris Johnson.

“Beth sy’n gwneud ein Teyrnas Unedig yn wych yw ein cred sylfaenol mewn rhyddid, mewn mentergarwch, ac mewn chwarae teg.

“Mae ein pobol wedi dangos gwydnwch, dewrder, a phendantrwydd dro ar ôl tro.

“Rydyn ni’n wynebu effeithiau rhyngwladol difrifol sydd wedi cael eu hachosi gan ryfel Rwsia yn Wcráin a gwaddol Covid.

“Nawr yw’r amser i fynd i’r afael â’r materion sy’n dal Prydain yn ôl.”

‘Cenedl uchelgeisiol’

Ychwanegodd bod angen adeiladu tai a ffyrdd yn gyflymach, a bod angen mwy o fuddsoddiad mewn swyddi dros y Deyrnas Unedig.

“Rydyn ni angen lleihau’r baich ar deuluoedd a helpu pobol,” meddai.

“Dw i’n gwybod bod gennym ni’r hyn sydd ei angen er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hynny. Ni fydd yn hawdd, wrth gwrs, ond gallwn ei gyflawni.

“Fe wnawn ni drawsnewid Prydain yn genedl uchelgeisiol gyda swyddi â chyflogau uchel, strydoedd diogel, a lle mae gan bawb ymhob man y cyfleoedd maen nhw’n eu haeddu.

“Byddaf yn gweithredu heddiw, a phob diwrnod, i wneud hynny.

“Ar y cyd â’n cynghreiriaid, fe wnawn sefyll dros ryddid a democratiaeth dros y byd, gan gydnabod na allwn gael diogelwch gartref heb ddiogelwch dramor.”

Blaenoriaethau

Wrth fanylu ar ei thair blaenoriaeth, dywedodd Liz Truss: “Yn gyntaf, byddaf yn sicrhau bod Prydain yn gweithio eto. Mae gen i gynllun pendant i dyfu’r economi drwy dorri trethi a diwygio.

“Fe wnâi dorri trethi i wobrwyo gwaith caled a hybu twf busnesau a buddsoddiadau.

“Byddaf yn gyrru diwygiadau er mwyn sicrhau fy ngweledigaeth i gael Prydain Fawr yn gweithio, adeiladu a thyfu.

“Byddan yn gweithio i sicrhau nad ydy pobol yn wynebu biliau ynni anfforddiadwy, a byddan yn sicrhau ein bod ni’n adeiladu ysbytai, ysgolion, ffyrdd a band eang.

“Yn ail, byddaf yn gweithredu i fynd i’r afael â’r argyfwng ynni sydd wedi cael ei achosi gan ryfel Putin.

“Byddaf yn gweithredu’r wythnos hon i fynd i’r afael â biliau ynni ac i sicrhau cyflenwad ynni.

“Yn drydydd, byddaf yn sicrhau bod pobol yn gallu cael apwyntiadau meddyg a’r Gwasanaethau Iechyd Gwladol y maen nhw eu hangen.

“Drwy weithredu ar yr economi, ynni a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, byddan ni’n rhoi ein cenedl ar y llwybr tuag at lwyddiant hirdymor.

“Ni ddylem ni ofni’r heriau sy’n ein hwynebu, er cyn gryfed y storm, dw i’n gwybod bod pobol Prydain yn gryfach.

“Dw i’n hyderus y gallwn ni, gyda’n gilydd, oresgyn y storm.

“Dw i’n benderfynol o gyflawni.”

‘Yr argyfwng ynni yw blaenoriaeth Liz Truss’

Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn dweud ei bod “hi’n amlwg bod angen gweithredu ar raddfa fawr gan y llywodraeth” i fynd i’r afael â chostau ynni