Bydd y cynllun prydau ysgol am ddim yn cael ei ehangu i gynnwys mwy o blant cynradd yng Nghymru.

Wrth i blant fynd yn ôl i’r ysgol, mae Prif Weinidog Cymru ac Arweinydd Plaid Cymru wedi cyhoeddi bod prydau ysgol am ddim yn cael eu hehangu i fwy na 6,000 o blant oedran meithrin mewn ysgolion.

Mae’r rhan fwyaf o blant dosbarthiadau derbyn yn dechrau cael prydau ysgol am ddim yr wythnos hon.

Y nod ydy sicrhau bod y rhan fwyaf o ddisgyblion rhwng blwyddyn derbyn a blwyddyn 2 yn cael prydau am ddim erbyn dechrau tymor yr haf 2023.

Ond, dan y cynllun newydd, bydd disgyblion meithrin sy’n mynychu’r ysgol am o leiaf dwy sesiwn lawn, ar unrhyw un diwrnod o’r wythnos, yn gymwys am bryd am ddim hefyd.

Fe fydd £35m o gyllid yn cael ei roi tuag at y cynllun, a bydd yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol er mwyn ei ddefnyddio i wneud gwelliannau i gyfleusterau coginio ysgolion.

Mae hwn yn gyllid ychwanegol i’r £25m gafodd ei ddarparu i awdurdodau lleol yn 2021-22.

‘Gwneud popeth allwn ni’

Wrth gyhoeddi’r cynllun, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, na ddylai’r un plentyn fynd heb fwyd.

“Mae teuluoedd ledled Cymru o dan bwysau aruthrol o achos yr argyfwng costau byw, ac rydyn ni’n gwneud popeth allwn ni i’w cefnogi,” meddai.

“Mae ehangu prydau am ddim i bob ysgol gynradd yn un o nifer o fesurau rydyn ni’n eu cymryd i gefnogi teuluoedd drwy’r cyfnod anodd yma.

“Mae wir yn bleser gweld sut mae ein hysgolion wedi croesawu hyn, a pha mor gyflym y maen nhw a’n gwasanaethau cyhoeddus wedi gweithio gyda’i gilydd i ddechrau darparu prydau ysgol am ddim.

‘Gwahaniaeth gwirioneddol’

Mae ehangu prydau ysgol am ddim i bob plentyn cynradd yn ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio tair blynedd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Dydy hi erioed wedi bod yn bwysicach cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob plentyn cynradd o ystyried yr argyfwng costau byw, meddai Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru.

“Drwy ein Cytundeb Cydweithio, rydyn ni’n cynnig cymorth y mae ei angen yn fawr ar deuluoedd, ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn drwy fuddsoddi yn ein hysgolion i ddarparu’r prydau hyn,” meddai.

“Dros y tair blynedd nesaf, fe fyddwn ni’n cyflwyno prydau ysgol am ddim ar draws holl grwpiau blwyddyn ein hysgolion cynradd, fel na fydd angen i un plentyn fynd heb fwyd tra byddan nhw yn yr ysgol.

“Drwy weithio gyda’n gilydd, rydyn ni’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.”