Croeso cynnes Cymreig.

Dyna beth y gall pobl o Gymru, Lloegr a’r tu hwnt ei ddisgwyl pan fyddan nhw’n ymweld â’r cyrchfannau rhagorol sydd gennym i’w cynnig.

Diolch i’n dinasoedd bywiog, ein tirweddau ysblennydd a’n trefi a’n pentrefi arfordirol, mae yna rywbeth i bawb yng Nghymru – ac rydyn ni am ei dangos i bawb.

Er mwyn gallu parhau i wneud hyn, mae angen inni sicrhau bod cymunedau’n cael eu cefnogi.

Ddydd Mawrth nesaf (Medi 13), fe fyddwn ni’n lansio ymgynghoriad ar ein cynnig ar gyfer ardoll ymwelwyr [treth dwristiaeth]. Dyma un o’r ffyrdd rydyn ni’n bwriadu cefnogi twristiaeth, er budd busnesau, cymunedau ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Cynaliadwyedd a thegwch

Fe fyddai cynaliadwyedd a thegwch wrth wraidd yr ardoll.

Cynaliadwyedd am fod angen cryn waith i gadw ein harfordir a’n parciau yn lân a chynnal ffyniant ein dinasoedd. Fe fydd ardoll yn helpu cymunedau i gynnal ein cyrchfannau gwych ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

A thegwch gan y dylai’r seilwaith sy’n cefnogi twristiaeth gael ei ariannu gan bawb sy’n dibynnu arno, nid gan drigolion lleol yn unig.

Ein gweledigaeth yw meithrin twristiaeth er lles Cymru. Bydd ardoll ymwelwyr yn cyfrannu at dwristiaeth gynaliadwy a theg – gyda thwf economaidd yn mynd law yn llaw â chynaliadwyedd amgylcheddol.

Pam ddim Cymru?

Ni fydd dim yn digwydd dros nos; fe fyddai creu deddfwriaeth a rhoi ardoll ar waith yn cymryd blynyddoedd.

Er bod union fanylion y cynnig yn dal i gael eu datblygu – rhywbeth y bydd yr ymgynghoriad yn ein helpu i’w wneud – rydyn ni’n rhagweld y byddai ardoll yn daladwy ar ymweliadau dros nos. Dyna sut mae’n gweithio yn gyffredinol mewn gwledydd eraill lle mae ardoll ymwelwyr ar waith. Tâl bach fyddai’r ardoll sy’n cyfrannu at dwristiaeth gynaliadwy.

Rydyn ni am i ymwelwyr wybod y gallai eu cyfraniad nhw wneud gwahaniaeth mawr o ran cefnogi eu hoff gyrchfannau. Ni fyddai tâl bach yn unigryw i Gymru. Os oes rhywun wedi bod ar wyliau i Wlad Groeg neu Ffrainc, i’r Iseldiroedd neu Seland Newydd – neu i unrhyw rai o’r 40 o wledydd a mwy sydd ag ardoll ymwelwyr o gwmpas y byd – fe fyddan nhw wedi talu tâl bach i helpu i gadw’r llefydd hynny’n llefydd atyniadol i ymweld â nhw. Efallai na fyddan nhw hyd yn oed wedi sylwi eu bod wedi’i dalu.

Ac er mai Cymru fyddai’r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno ardoll o’r fath, rydyn ni’n credu nad hi fydd yr olaf. Yn gynyddol, mae’n ymddangos mai gwledydd y Deyrnas Unedig sy’n anarferol am beidio â gofyn i dwristiaid dalu tâl bach i gefnogi’r ardaloedd maen nhw’n ymweld â nhw. Fe fydd ardoll yn rhoi Cymru ar yr un sail â chyrchfannau rhagorol eraill o amgylch y byd. Felly, pam ddim Cymru?

Mae hefyd yn bwysig cofio mai rhoi’r dewis i gynghorau gyflwyno ardoll yr ydyn ni’n ei gynnig. Mae graddfa ac effaith economaidd twristiaeth yn amrywio’n sylweddol ar draws Cymru. Fe fyddai ein cynlluniau’n rhoi’r pŵer i ardaloedd lleol benderfynu a fyddai ardoll yn briodol iddyn nhw.

Trafodaeth gyhoeddus

Deilliodd y syniad ar gyfer yr ardoll o drafodaeth gyhoeddus a galwad am syniadau ynglŷn â threthi newydd yng Nghymru. Wrth inni fwrw ymlaen â’r broses hon, fe fyddwn ni’n parhau i fod yn agored ac yn dryloyw, gan wrando ar bawb sydd am fynegi barn. Rydyn ni eisoes wedi bod yn siarad â busnesau, cynrychiolwyr o’r trydydd sector, cynghorau, cyrff diwydiant a llywodraethau tramor sydd ag ardoll ymwelwyr ar waith.

Rydyn ni am sicrhau bod pobl yn cael y cyfle i ymuno â’r lleisiau hynny i helpu i siapio’r ffordd ymlaen, a’r ymgynghoriad yr ydyn ni’n ei lansio wythnos nesaf fydd y cyfle diweddaraf i wneud hynny. Fe fydd manylion ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru ac rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed beth sydd gan bobl i’w ddweud.

Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw twristiaeth i gymaint o lefydd yng Nghymru, ac mae’n hanfodol bod gennym dwristiaeth gynaliadwy a chyfrifol sy’n gweithio i ymwelwyr a’r cymunedau maen nhw’n ymweld â nhw.

Felly, cyfrannwch at yr ymgynghoriad i gael dweud eich dweud a’n helpu ni i estyn ein croeso cynnes Cymreig am genedlaethau i ddod.

Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru

Cefin Campbell, Aelod Dynodedig Plaid Cymru

Mae’r ardoll ymwelwyr yn cael ei datblygu fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio a luniwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.