Mae Syr Robert Buckland wedi cael ei ailbenodi’n Ysgrifennydd Cymru yng nghabinet cyntaf Liz Truss.

Yn wreiddiol cefnogodd Syr Robert y cyn-Ganghellor Rishi Sunak yn y ras i olynu Boris Johnson, ond fe newidiodd ei feddwl yn ystod yr ymgyrch oherwydd ei fod o’r farn mai Liz Truss oedd “y person cywir i symud y wlad yn ei blaen”.

Yn enedigol o Lanelli, cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Durham, gan raddio yn y Gyfraith yn 1990 a’i alw i wasanaethu’r flwyddyn ganlynol gan fynd yn ei flaen i weithio yng Nghaerdydd, Llundain a Chanolbarth Lloegr.

Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol yn 2010.

Roedd Aelod Seneddol De Swindon yn Arglwydd Ganghellor ac yn Ysgrifennydd Cyfiawnder rhwng Gorffennaf 2019 a Medi 2021, ac yn Weinidog yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn 2019, a chyn hynny’n Gyfreithiwr Cyffredinol.

Mae’n briod ers 1997 a chanddo fe a’i wraig Sian ddau o blant, Millicent a George, ac mae’r teulu’n byw yn Wroughton yn Wiltshire.

Wrth ymateb, dywedodd Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan: “Aelod Seneddol De Swindon yn cael ei ailbenodi Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

“Prin yw hyn yn gymeradwyaeth i’r grŵp o 13 o Aelodau Seneddol Torïaidd Cymreig, gan nad yw’r un yn cael ei ystyried yn gymwys ar gyfer y swydd gan Liz Truss.”

Penodiadau eraill

Mae’r Prif Weinidog newydd wedi rhoi swyddi i sawl Aelod Seneddol oedd wedi ei chefnogi yn y ras i olynu Boris Johnson.

Ymhlith y rhain mae penodi Kwasi Kwarteng yn Ganghellor a Therese Coffey yn Ddirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd Iechyd.

Yn y cyfamser mae hi wedi dewis James Cleverly i’w holynu fel Ysgrifennydd Tramor.

Mae’r cyn-dwrnai cyffredinol Suella Braverman wedi cael ei phenodi yn Ysgrifennydd Cartref, sy’n golygu nad oes yr un o’r swyddfeydd gwladol mawr yn cael eu dal gan ddynion gwyn am y tro cyntaf.

Jacob Rees-Mogg yw’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.

Mae Kemi Badenoch wedi cael ei phenodi yn Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol.

Brandon Lewis sydd wedi cael ei ddewis i gymryd lle Dominic Raab fel Ysgrifennydd Cyfiawnder.

Mae Kit Malthouse, un o gynghreiriaid cŵn Mr Johnson, wedi cael ei wneud yn Ysgrifennydd Addysg.

Cafodd Simon Clarke, a chwaraeodd ran allweddol yn ymgyrch Truss, ei ddyrchafu i fod yn weinidog yn y Trysorlys dros Godi’r Gwastad, yn Ysgrifennydd Tai a Chymunedau, tra bod Chloe Smith wedi cael ei phenodi yn Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau.

Mae Penny Mordaunt wedi cael ei phenodi yn Arweinydd Tŷ’r Cyffredin.

Mae Jake Berry yn dychwelyd i’r Llywodraeth wedi absenoldeb o ddwy flynedd fel gweinidog heb bortffolio.

Bydd Ben Wallace yn parhau yn rôl yr Ysgrifennydd Amddiffyn, a bydd y cyn-weinidog trafnidiaeth Wendy Morton yn mynychu’r Cabinet fel prif chwip.

Liz Truss yn addo mynd i’r afael â biliau ynni’r wythnos hon

Cryfhau’r economi a mynd i’r afael â’r argyfwng ynni ymysg blaenoriaethau’r Prif Weinidog newydd wrth iddi roi ei haraith gyntaf tu allan i Rif 10