Mae buddsoddiad o £100m wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer eglwysi Cymru.
Cafodd y buddsoddiad ei gyhoeddi gan Archesgob Cymru heddiw (Medi 7), a bydd yr Eglwys yng Nghymru yn gwario dros £100m dros y degawd nesaf i helpu ei heglwysi i wasanaethu eu cymunedau yn fwy effeithlon.
Bydd arian yn cael ei wario ar ddatblygu gweinidogaethau a chynlluniau newydd, yn ogystal â chryfhau gwaith presennol.
Yn ôl Andrew John, Archesgob Cymru, hwn yw’r buddsoddiad “mwyaf difrifol ac arwyddocaol” i’r Eglwys yng Nghymru ei wneud ers 1920.
‘Cam dewr’
“Roedd yn gam dewr o ffydd,” meddai wrth roi teyrnged i ymddiriedolwyr yr Eglwys am eu “harweinyddiaeth weledigaethol” yn ystod cyfarfod deuddydd Corff Llywodraethol yr Eglwys, sy’n dechrau heddiw.
“Mae’n seiliedig ar yr argyhoeddiad fod gan yr eglwys yr ewyllys a’r galon i dyfu ac i wneud pethau newydd.
“Ar draws yr esgobaethau, ac fel talaith, bydd yr arian newydd hwn yn adeiladu’r gallu ac yn creu momentwm: sef yn union beth ydym ei angen ac rwy’n canmol y cam eofn.
“Os byddwn yn gadael i’r cyfnod hwn fynd heibio, a’r cyfle hwn chwalu, y canlyniadau fydd Cymru sy’n gwybod llai am gariad Crist nag ar unrhyw adeg arall yn ein hanes modern.
“Os gallwn ni ymrwymo’n hunain i’r argyhoeddiad fod Duw yn ein galw ni fod yn gludwyr gobaith mewn ffordd newydd, byddwn wedi gwneud rhywbeth dwfn, hardd a pharhaol.
“Y dasg yw peidio â cheisio gwario ein hunain allan o drwbl ond buddsoddi mewn lleoedd ble mae’n calonnau ar dân gydag egni a gobaith newydd. Mae buddsoddiad fel hyn yn talu ar ei ganfed ac yn llawn potensial.”
Bydd £37m arall yn cael ei wario dros y ddeng mlynedd nesaf i roi’r eglwys ar sylfeini ariannol cadarn, yn arbennig mewn esgobaethau mwy newydd fel Trefynwy, Abertawe ac Aberhonddu, sydd heb gronfeydd hanesyddol.
Tlodi plant yn “warth”
Bu’r Archesgob yn trafod yr argyfwng costau byw hefyd yn ystod y cyfarfod yng Nghasnewydd, a dywedodd ei bod hi’n “warth” bod cynifer o blant yn byw mewn tlodi a’u teuluoedd yn gorfod dibynnu ar fanciau bwyd.
“Y realiti i lawer mwy o bobl ar draws Cymru a thu hwnt yw, oni bai y gweithredir yn bendant yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd pobl yn llwgu ac yn oer – ac yn eu miloedd,” meddai Andrew John.
“Bydd y gaeaf hwn yn annioddefol a bydd y gost i fywoliaethau, ein llesiant, yr effaith ar ddyledion mewn cartrefi, yr effaith ar drosedd a thrais domestig yn sylweddol.
“Mae’n warth bod gennym ni yn y chweched economi fwyaf yn y byd, gymaint o blant yn byw mewn tlodi cymharol a chymaint yn dibynnu ar fanciau bwyd i oroesi.
“Mae’r hyn a fwriadwyd unwaith fel gwasanaeth argyfwng erbyn hyn wedi’i wreiddio’n gadarn yng ngwead ein bywyd cenedlaethol ble mae teuluoedd, a llawer sydd mewn cyflogaeth (ond ar gyflogau isel), yn methu â goroesi heb y banc bwyd lleol.
“Mi wn fod y niferoedd dirifedi sy’n helpu mewn banciau bwyd (ac rwy’n diolch am eu gwaith o waelod calon) yn cytuno na ddylai hyn fod.”
Galw am gymorth
Galwodd yr Archesgob ar archfarchnadoedd i wneud mwy i helpu siopwyr, megis treblu eu dewis o fwydydd sylfaenol i gynnwys mwy o fwyd ffres.
Gofynnodd i bob cynulleidfa i gyfrannu 10 blwch o eitemau sylfaenol ar gyfer y rhwydwaith dosbarthu Banciau Bwyd yn ystod Adfent hefyd.
“Byddai hynny’n golygu tua 10,000 o focsys. Pe byddem yn dechrau cyn yr Adfent ac yn canolbwyntio ar hynny, byddwn yn gallu lliniaru, i rai, y gwaethaf o effeithiau’r gaeaf,” meddai.
“Bydd rhai eglwysi’n gallu gwneud llawer mwy na 10 bocs ac mae hynny’n wych. I eraill, gall 10 bocs fod yn anodd.
“Y peth pwysig yw, er mwyn eirioli am newid mewn cymdeithas, y dylem fodelu’r haelioni rydym yn credu sy’n byw yng nghalon yr efengyl.”