Mae’r Prif Weinidog newydd, Liz Truss, “wedi dod i lawr ar ochr y cwmnïau ynni yn lle cefnogi pobol gyffredin”, yn ôl Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon.

Deellir bod y Prif Weinidog yn bwriadu benthyg biliynau er mwyn cyfyngu ar y cynnydd ym miliau ynni aelwydydd a busnesau.

Mae disgwyl i filiau ynni gael eu capio ar £2,500 y flwyddyn, gyda manylion llawn y cynllun i gael eu cyhoeddi ddydd Iau (Medi 8).

Ar hyn o bryd, mae disgwyl i filiau nwy a thrydan aelwydydd arferol godi o £1,971 i £3,549 ym mis Hydref.

Nid yw’n glir am ba hyd y bydd cefnogaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn para, ond mae disgwyl i becyn cymorth cyffredinol y Llywodraeth ddod i gyfanswm o tua £100bn – arian maen nhw’n bwriadu ei fenthyg.

Mae cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i roi cymhorthdal biliau yn golygu na fydd disgwyl i gwsmeriaid ad-dalu’r gefnogaeth, ond trethdalwyr fydd yn talu’r benthyciad yn ôl.

“Y cwmnïau ynni yn cael beth maen nhw eisiau”

“Beth maen nhw’n mynd i’w wneud ydy gwarantu benthyciad i’r cwmnïau ynni er mwyn i rheiny gadw eu prisiau lawr, ac wedyn ein bod ni’n talu’r benthyciad yn ôl dros gyfnod o bump i ddeng mlynedd,” meddai Hywel Williams wrth golwg360.

“Felly yn y bôn, yr hyn maen nhw’n ei wneud ydy mabwysiadu cynlluniau’r cwmnïau ynni, sef eu bod nhw’n cael gwarant o bris a’n bod ni’n talu.

“Canlyniad hynny ydy y bydd prisiau ynni yn aros yn uchel am bump i ddeng mlynedd wrth i ni dalu’r benthyciad yma’n ôl.

“Dydy pobol ddim yn sylwi hynna eto, y ffaith eu bod nhw’n mynd i fod yn talu a bod y cwmnïau ynni yn cael beth maen nhw eisiau.

“Mae Lizz Truss wedi dod i lawr ar ochr y cwmnïau ynni yn lle cefnogi pobol gyffredin.

“Mae o’n rhyfeddol gweld plaid arian saff, fel yr oedden nhw’n cael eu gweld, yn dweud ei bod hi’n amhosibl benthyg arian er mwyn ariannu rhywbeth fel prosiectau cymdeithasol, ond yn barod i fenthyg hyd at £100bn i warantu incwm cwmnïau sydd eisoes yn gwneud elw enfawr.

“Maen nhw’n newid eu daliadau i siwtio nhw eu hunain, dyna ydy o yn y pendraw.

“Dyna sut mae’r Blaid Geidwadol wedi aros mewn grym ers cymaint o amser.”

Liz Truss yn addo mynd i’r afael â biliau ynni’r wythnos hon

Cryfhau’r economi a mynd i’r afael â’r argyfwng ynni ymysg blaenoriaethau’r Prif Weinidog newydd wrth iddi roi ei haraith gyntaf tu allan i Rif 10