“Polisïau eithafol asgell dde” a “syniadau boncyrs”, dyna mae’r cyn-newyddiadurwr a sylwebydd gwleidyddol Gareth Hughes yn ei ddisgwyl gan Lywodraeth Liz Truss.

Daw hyn wrth i ail ddiwrnod Liz Truss fel Prif Weinidog ddirwyn i ben.

Hyd yma mae hi wedi adrodd ei haraith gyntaf fel Prif Weinidog, lle dywedodd mai ei thair blaenoriaeth yw’r tyfu’r economi, cryfhau’r Gwasanaeth Iechyd, sy’n fater datganoledig, a mynd i’r afael â biliau ynni.

Aeth ymlaen wedyn i enwi’r cabinet mwyaf amrywiol erioed, er mae’n debyg ei fod yr un mwyaf asgell dde erioed.

A heddiw (dydd Mercher, Medi 7), fe wynebodd arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer, yn ei sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog gyntaf.

Teg dweud nad oedd ei pherfformiad yr un mwyaf ysbrydoledig mewn cof, er i feinciau cefn y Ceidwadwyr gynhyrfu wrth iddi gael y gorau o Syr Keir Starmer ar un neu ddau achlysur.

“Syniadau boncyrs”

“Dw i’n disgwyl iddi weithredu ar beth ydy ei hegwyddorion hi,” meddai Gareth Hughes wrth golwg360.

“Felly rwyt ti’n mynd i gael Llywodraeth sydd â pholisïau eithafol asgell dde, ac sydd â syniadau boncyrs.

“Os byddan nhw’n gweithredu ar yr economi fel y maen nhw’n bwriadu ei wneud mi fyddan ni mewn trafferth uffernol fel gwlad.

“Rwyt ti’n mynd i weld toriadau mawr yn y sector gyhoeddus, ac mae hi’n mynd i geisio hybu sector breifat yr economi.

“Y farchnad sy’n mynd i fod yn rheoli.

“Ac os ydy hi’n gweithredu syniadaeth y farchnad rydd yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol fe fydd hi’n cyrraedd sefyllfa lle byddan nhw’n gofyn am daliadau i weld doctor ac yn y blaen.”

“Gwendidau”

Doedd dim lle i neb oedd wedi cefnogi Rishi Sunak yn y ras i olynu Boris Johnson yng nghabinet Liz Truss.

Ydy, mae o’n beth naturiol i Brif Weinidog amgylchynu ei hun â phobol y mae hi’n credu y gall ymddiried ynddynt.

Fodd bynnag, credai Gareth Hughes bod hyn yn “dangos ei gwendidau hi fel arweinydd”.

“Os wyt ti ddim ond yn cael pobol o dy gwmpas sydd yn ffrindiau i ti a gyda’r un meddylfryd â ti, dydy hynna ddim yn arwydd o gryfder,” meddai.

“Ydy, mae o’n dangos ei bod hi’n benderfynol o gael ei syniadau drosodd.

“Ond dydy hi ddim wedi estyn allan at y bobol sydd yng nghanol y blaid neu i’r chwith o’r blaid.

“Dydy hi ddim ond wedi cadw at y bobol sydd o’i chwmpas hi, pobol eithafol dde.

“Dw i ddim yn meddwl bod hynna’n beth iach i’r Blaid Geidwadol, ac yn sicr dydy o ddim yn mynd i fod o les i’r wlad.”

“Corddi’r dyfroedd”

Fydd mis mel Liz Truss fel Prif Weinidog ddim yn “un hir iawn”, medd Gareth Hughes.

Mae o’n rhagweld y bydd y cyn Brif Weinidog Boris Johnson, yn ogystal ag Aelodau Seneddol Ceidwadol sydd ddim wedi derbyn lle yn ei llywodraeth, yn “corddi’r dyfroedd”.

“Er bod Boris Johnson wedi dweud ei fod o’n mynd i’w chefnogi hi, dw i ddim yn gweld y bydd o,” meddai.

“Mae o wedi crybwyll eisoes y galla fo ddod yn ôl, a beth mae o’n mynd i drio ei wneud ydy ei thanseilio pan mae o’n ysgrifennu’r erthyglau yma i’r Telegraph a’r Daily Mail ac ati.

“Dyna pam maen nhw’n talu arian mawr i bobol fel fo ysgrifennu iddyn nhw, ddim er mwyn cael Boris Johnson yn dweud bod hi’n gwneud popeth yn iawn, ond i gorddi’r dyfroedd.

“A dw i hefyd yn meddwl y bydd gweddill y blaid, sydd ddim wedi cael lle yn ei llywodraeth hi, ac sydd heb unrhyw obaith o gael lle yn ei llywodraeth hi, yn mynd i gorddi’r dyfroedd hefyd.

“Mae pob Prif Weinidog yn cael mis mel, ond mae’n rhaid i mi ddweud, dw i ddim yn meddwl y bydd hwn yn un hir iawn.”

“Rhoi ein cefnogaeth i Liz Truss”

Fodd bynnag, mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd Cymru, yn rhagweld y bydd y blaid yn “sefyll yn gadarn y tu ôl i’r arweinydd”.

“Yr hyn sydd ei angen i ni wneud nawr yw rhoi ein cefnogaeth i Liz Truss a’i thîm wrth iddyn nhw fynd i’r afael â’r amryw o heriau sy’n ein hwynebu,” meddai wrth golwg360.

“Roeddwn i yn Llundain ddydd Llun a bues i’n siarad gyda chydweithwyr o ar draws y sbectrwm gwleidyddol yn y Blaid Geidwadol.

“Roedd yna rai wedi cefnogi Rishi Sunak ac eraill oedd wedi cefnogi ymgeiswyr eraill ar ddechrau’r ymgyrch arweinyddiaeth.

“A’r ymateb yr oeddwn i’n ei gael gan bawb oedd ein bod ni wedi troi’r dudalen, ein bod ni’n bwrw ymlaen gydag arweinydd newydd a’n bod ni’n sefyll yn gadarn y tu ôl i’r arweinydd honno a’i Llywodraeth.”