Mae arbenigwr ar wenyn a warden Pen y Gogarth yn Llandudno yn poeni bod cynlluniau i gloddio twyni yn Ynys Môn am beryglu bywydau miloedd ar filoedd o wenyn.

Wrth ymweld â’r safle y mae o wedi’i hastudio yn Nhywyn Aberffraw’r wythnos ddiwethaf, daeth Siôn Dafis ar draws ardal a oedd wedi’i strimio a’i farcio fel petai gwaith ar fin dechrau yno.

Ar ôl sgwrsio gydag aelod o staff o Gyfoeth Naturiol Cymru a oedd yno, daeth Siôn i ddeall eu bod nhw’n bwriadu cloddio’r twyni fel rhan o gynllun i greu ardaloedd tywod moel.

Prosiect cadwraeth sy’n cael ei arwain gan Cyfoeth Naturiol Cymru yw Twyni Byw / Sands of LIFE sy’n rhedeg tan fis Rhagfyr 2022 a’i nod yw adfywio twyni tywod ledled Cymru.

“Bydd yn ail-greu symudiad naturiol yn y twyni ac yn adfywio cynefinoedd sy’n gartref i rai o’n bywyd gwyllt mwyaf prin,” yn ôl y prosiect.

Bydd y gwaith yn golygu tynnu’r llystyfiant, ond mae siawns o ladd miloedd o wenyn sy’n nythu yn y twyni, meddai Siôn Dafis.

‘Torri eu rheolau eu hunain’

Yn poeni am y gwaith, fe aeth Siôn Dafis ati i gysylltu gyda dau aelod o staff Cyfoeth Naturiol Cymru.

Arweiniodd hynny at Dr Mike Howe, Ecolegydd Infertebrat, yn mynd i’r lleoliad i gyfarfod gyda swyddog ar y cynllun.

Mae Dr Mike Howe a Siôn Dafis yn cytuno bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dewis y lleoliad anghywir i wneud y math yma o waith a bod perygl o ganlyniad i’r gwaith.

Mae’n rhaid gofyn am ganiatâd Cyfoeth Naturiol Cymru cyn gwneud rhai pethau mewn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, ac un ohonyn nhw yw lladd neu symud unrhyw bryfyn neu greadur di-asgwrn-cefn arall.

Felly, mae Siôn yn poeni bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn torri rheolau eu hunain drwy wneud y gwaith yma.

“Os tasen i’n gwneud y gwaith yma fel rhan o fy ngwaith yn rheoli tir, byddai Cyfoeth Naturiol Cymru wedi mynd â fi i’r llys am ddinistrio rhywogaeth neu gynefin sydd dan amddiffyniad cyfreithiol reit uchel.

“Mae’n rhyfedd iawn yn yr achos yma mai Cyfoeth Naturiol Cymru eu hunain sydd yn niweidio’r safle.

“Yn yr oes sydd ohoni, ble mae pawb yn pryderu am beth sy’n digwydd i drychfilod yn gyffredinol, dw i ddim yn gwybod sut fedrith Cyfoeth Naturiol Cymru gyfiawnhau bulldosio un o’r ardaloedd gorau yn Nhywyn Aberffraw – i feddwl mai nhw sydd fod yn gwarchod nhw.

“Maen nhw am ddinistrio un o’r ardaloedd cyfoethocaf o’r twyni i gyd.

“Fel dywedes i wrth Mike, dw i’n meddwl eu bod nhw am ddinistrio’r math o gynefin y maen nhw eisiau’i greu.”

‘Gallai edrychiad y gwaith fod yn sioc’

Dywedodd Kathryn Hewitt, Rheolwr Prosiect Twyni Byw – Sands of LIFE: “Mae’r prosiect Twyni Byw – Sands of LIFE (sef prosiect gan Gyfoeth Naturiol Cymru) yn cynnal gwaith adfer yn Nhywyn Aberffraw’r hydref hwn mewn partneriaeth â’r perchnogion Stad Bodorgan.

“Twyni tywod yw un o’n cynefinoedd mwyaf prin yma yng Nghymru.

“Mae twyni Aberffraw o bwysigrwydd rhyngwladol oherwydd eu bod wedi’u dynodi’n Ardal Cadwraeth Arbennig.

“Ond yn anffodus mae’r cynefin mewn cyflwr gwael, oherwydd dros y blynyddoedd mae’r tywod noeth wedi diflannu i raddau helaeth.

“Byddwn yn creu rhicyn, sef bwlch, ym mlaen y twyni er mwyn creu cynefin tywod noeth newydd a chaniatáu i dywod o’r traeth i chwythu ymhellach drwy’r twyni.

“Bydd y gwaith hwn yn creu cynefin llawer mwy amrywiol drwy wella’r amodau ar gyfer bywyd gwyllt prin sydd yn cynnwys ymlusgiaid, planhigion ac infertebratau.

“Bydd y gwaith adfer hwn yn digwydd dros ardal fechan o 0.2 hectar yn unig (mae arwynebedd y twyni yn 337 hectar).

“Mae gan Twyni Byw – Sands of LIFE ganiatâd llawn gan gynnwys Caniatâd Cynllunio a Thrwydded Rhywogaeth a Warchodir.

“Mae camau lliniaru ar y gweill er mwyn sicrhau bod cyn lleied o effaith â phosib tra bod y gwaith yn digwydd.

“Er y gallai edrychiad y gwaith fod yn sioc gyda’r peiriannau trwm yn cael eu defnyddio, cyn bo hir bydd yr ardal yn edrych yn hollol naturiol, a bydd rhywogaethau’r twyni tywod yn cartrefu’r cynefin newydd.”