Dylai Llywodraeth Cymru wahardd compost mawn ar frys, meddai Cyfeillion y Ddaear Cymru.
Daw’r galwadau wedi i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ei wahardd yn Lloegr, ac mae ymgyrchwyr yn gobeithio y bydd Cymru’n dilyn “yn fuan”.
Mawndiroedd yw storiwr carbon mwyaf y Deyrnas Unedig ar y tir, ac wrth ei gloddio, caiff carbon ei ryddhau, sy’n cyfrannu tuag at yr argyfwng hinsawdd.
Dydy Llywodraeth Cymru ddim yn gwrthwynebu’r syniad, ac maen nhw wrthi’n ystyried ymatebion i ymgynghoriad y gwnaethon nhw ei gynnal ar y mater.
‘Ddegawdau yn hwyr’
Ond yn ôl Bleddyn Lake, Rheolwr Ymgyrchoedd a Datblygu Cyfeillion y Ddaear Cymru, roedd angen y gwaharddiad flynyddoedd yn ôl.
“Rydyn ni’n gobeithio bod cyhoeddiad [Llywodraeth y Deyrnas Unedig] yn rhagflaenu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am waharddiad tebyg,” meddai wrth golwg360.
“Gobeithio y bydd hwnnw’n dod yn fuan, yn amlwg – mae angen iddo.
“Rydyn ni mewn argyfwng hinsawdd, ac mae’r cyhoeddiad am y gwaharddiad yn Lloegr ddegawdau yn hwyr, mewn gwirionedd. Dylid fod wedi’i gyhoeddi sbel yn ôl.
“Mae’n beth da ei fod yn digwydd nawr, yn amlwg, ond rydyn ni angen i Lywodraeth Cymru ddilyn ar frys.
“Mae mawn yn dod o ddeunydd planhigion sydd wedi pydru, mae’n ffurfio dros filoedd o flynyddoedd ac yn storio lot o garbon.
“Mae mawndiroedd yn andros o bwysig ar gyfer bioamrywiaeth, helpu i leihau llifogydd, a phan maen nhw’n cael eu hail-ddyfrio maen nhw’n helpu i leihau peryglon tanau gwyllt yn yr haf.
“Does gennym ni ddim coedwigoedd glaw yn y Deyrnas Unedig nag Iwerddon. Mawndiroedd yw ein coedwigoedd glaw.
“Mae ganddyn nhw bwysigrwydd rhyngwladol fel cartref i natur a chypyrddau storio carbon. Ac fel y coedwigoedd glaw, rydyn ni’n prysur eu dinistrio nhw.
“Pan rydych chi’n ei gloddio a’i sychu, mae’n colli’r carbon hwnnw i’r amgylchedd, sydd yn cyfrannu dipyn, dweud y gwir, tuag at newid hinsawdd.”
‘Cam bach’
Dydy cynnwys mawn mewn compost ddim yn “rhywbeth angenrheidiol iawn”, a does dim o’i angen mewn gerddi, meddai Bleddyn Lake.
“Mae e jyst yn rhywbeth rydyn ni wedi dod i arfer â’i ddefnyddio dros y blynyddoedd.
“Felly, drwy ei wahardd mae’n gam bach arall i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
“Yn syml, allwn ni ddim parhau â’r mathau hyn o arferion dinistriol rhagor.”
Dydy’r gwaharddiad yn Lloegr ddim yn berthnasol i’r sector garddwriaeth broffesiynol nac i ganolfannau garddio.
“Gallai planhigion a’r blodau sydd wedi cael eu potio yn barod ac sydd ar werth mewn canolfannau garddio gynnwys pridd â mawn ynddo,” eglura Bleddyn Lake.
“Mae hynny’n beth bach ychwanegol y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud.
“Mae amryw ganolfan arddio wedi gweithredu’n ddiweddar, ond maen nhw wedi parhau i werthu compost mawn am flynyddoedd, degawdau.
“Dylid bod wedi gwneud hyn ddegawdau yn ôl, mae’n esiampl arall o ddiwydiant yn llusgo’u traed a sawl lefel o lywodraeth ddim eisiau mynd i’r afael â’r mater.
“Ond, mae’n un o’r materion hynny sydd wedi cyrraedd crescendo – bod digon o bobol yn gwybod am y broblem erbyn hyn i wneud digon o sŵn fel bod y llywodraeth, Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn yr achos hwn, yn gwrando.”
Adfer mawndiroedd
Yn eu cynllun, ‘Ffyniant i bawb: Cymru carbon isel’, mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod dros 70% o fawndiroedd Cymru “wedi cael eu newid neu mewn cyflwr diraddedig”.
Mae hynny, meddai, wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i ddarparu amrediad o wasanaethau ecosystem, yn bennaf eu gallu i amsugno a storio carbon”.
Mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru gynllun ar y gweill i adfer mawndiroedd, ac mae hwnnw yw groesawu, medd Bleddyn Lake.
“Y gwaharddiad nawr ar werthu mawn yw ochr arall y broblem, felly heb hwnnw fe fyddai’n anoddach mynd i’r afael ag adfer mawndiroedd,” eglura.
“Nawr bod gennym ni’r gwaharddiad yn Lloegr, a gobeithio y bydd yn dod i rym yn fuan yng Nghymru, bydd yn codi’r pwysau oddi ar diroedd mawn, mewn un ffordd.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym ar hyn o bryd yn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad a’n dull o weithio yng Nghymru.”