Mae Leanne Wood a Ben Ferguson wedi cael eu penodi i arwain Ynni Cymunedol Cymru.
Gydag argyfwng ynni ar y gweill a’r hinsawdd yn dirywio o ddydd i ddydd, bydd y ddau yn arwain yr hyn maen nhw’n ei alw’n “dîm gwybodus ac ymroddedig… i wireddu’r weledigaeth o system ynni gwyrdd sy’n gosod pobol yn gyntaf”.
Mae’r ddau yn edrych ymlaen at adeiladu ar lwyddiannau Rob Proctor, arweinydd blaenorol Ynni Cymunedol Cymru, ac at ddechrau gweithio ar gyfleoedd newydd i gynyddu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy o dan berchnogaeth gymunedol, ynghyd â chynlluniau trafnidiaeth gwyrdd cymunedol.
Mae hyn yn cynnwys clybiau ceir YCC, a fydd yn galluogi cymunedau i rannu stoc o geir trydan yn lle rhedeg ceir preifat sy’n defnyddio tanwyddau ffosil.
Y gobaith yw y bydd y fenter yn lleihau allyriadau carbon ledled Cymru, yn darparu mwy o drafnidiaeth a chyfleoedd i gysylltu i reini heb geir, ac yn helpu teuluoedd ar incwm is i deithio’n rhad.
Mae ymchwil gan elusen cyd-deithio Collaborative Mobility UK (CoMoUK) yn dangos bod pob car sy’n rhan o glwb ceir yn arwain at gyfartaledd o 18.5 car preifat yn gadael yr heolydd.
Dim byd “yn fwy pwysig nag ymateb i’r argyfwng hinsawdd”
“Yn syml, nid oes unrhyw beth sy’n fwy pwysig nag ymateb i’r argyfwng hinsawdd,” meddai Leanne Wood.
“Mae’n rhaid i ni roi’r gorau i fod yn gaeth i danwyddau ffosil ac mae sicrhau bod cymunedau’n parhau i reoli’r ynni maent yn ei gynhyrchu yn rhan elfennol o’r datrysiad.
“Mae YCC yn dîm gwych, gydag ethos wedi’u seilio mewn gwerthoedd a digon o uchelgais. Alla i ddim aros i ddechrau arni!”
Yn ôl Ben Ferguson, “mae ynni cymunedol yn darparu cyfle gwych i ddemocrateiddio’r mynediad at ynni carbon isel gyda phrisiau sefydlog, yn ystod amser lle mae methiannau ein system bresennol yn glir”.
“Mewn ymateb i gefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru, mae’r syniadau hyn yn ffynnu – ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag ystod eang o bobol i ryddhau grym ynni lleol o fewn ein system ynni yng Nghymru,” meddai.