Mae angen strategaeth hirdymor i reoli pwysau staffio Llywodraeth Cymru a sicrhau gwydnwch, medd adroddiad newydd.
Yn ôl adroddiad newydd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, mae mesurau tymor byr wedi helpu i reoli Brexit a Covid-19.
Fodd bynnag, mae prinder staff wedi achosi oedi ar rai prosiectau a rhaglenni, meddai.
Canfyddiadau
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rheoli ei heriau staffio yn absenoldeb cynllun gweithlu strategol ffurfiol, meddai’r adroddiad.
Ers 2010, mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio cyfyngu ar gostau staffio yn sgil cyfnod o bwysau ariannol.
Roedd niferoedd staff cyfwerth â rhai llawn amser yn 2021-22 9% yn is nag yn 2009-10, er bod cynnydd cymharol fach ers 2017 i ymdopi â gofynion brys yn sgil Brexit a Covid.
Mae ymchwil yr Archwilydd Cyffredinol yn dangos bod pwysau’r gweithlu wedi’i gwneud hi’n anodd i Lywodraeth Cymru gyflawni rhai o’i huchelgeisiau polisi mewn rhai achosion, ac mae nifer o raglenni, prosiectau a pholisïau wedi cael eu gohirio yn sgil prinder staff.
Er mwyn rheoli’r heriau hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod defnyddio mesurau adweithiol tymor byr fel ailbennu staff i rolau blaenoriaeth, recriwtio dros dro, talu staff yn ychwanegol i ysgwyddo cyfrifoldebau uwch, a secondiadau mewnol.
Mae cyfnod hir o gyfyngu ar recriwtio allanol, ynghyd â throsiant isel, wedi golygu bod gan Lywodraeth Cymru weithlu sefydlog ond ei fod yn un sydd wedi heneiddio.
Er gwaethaf peth cynnydd, mae’r sefyllfa hon hefyd wedi ei gwneud hi’n anodd amrywio’r gweithlu fel ei bod yn gynrychioliadol o boblogaeth ehangach Cymru, neu ddod â thalent ffres, safbwyntiau newydd a sgiliau allweddol, meddai’r adroddiad.
Effaith ‘sylweddol’ Covid
Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn nodi argymhellion i’r llywodraeth ynghylch datblygu strategaeth gweithlu, gan gynnwys gwneud asesiad hirdymor o anghenion gweithlu, creu cynlluniau i fynd i’r afael ag unrhyw fylchau, a sefydlu proses gadarn ar gyfer blaenoriaethu llwyth gwaeth.
Meddai Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol: “Fel llawer o gyrff cyhoeddus eraill, mae pandemig COVID-19 wedi effeithio’n sylweddol ar weithlu Llywodraeth Cymru wrth i’w staff orfod addasu i ffyrdd newydd o weithio a newid blaenoriaethau’n gyflym.
“Fodd bynnag, mae’r angen am strategaeth gynhwysfawr i ddelio â heriau’r gweithlu hirdymor mewn ffordd gynaliadwy yn pwyso fwyfwy.
“Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu llwyth gwaith heriol i gyflawni ei rhaglen lywodraethu, tra’n delio ag effeithiau’r pandemig a chyfrifoldebau newydd yn sgil Brexit.”
‘Eithriadol o heriol’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r pedair blynedd diwethaf wedi bod yn eithriadol o heriol i sefydliadau’r sector cyhoeddus ac rydym wedi gwneud popeth posib i ymateb i’r cyfnod hwn o argyfwng cenedlaethol gyda phroffesiynoldeb a hyblygrwydd.
“Drwy gydol y broses o ymadael â’r Undeb Ewropeaidd a phandemig y coronafeirws, rydym wedi cydweithio ar draws y sefydliad a chyda’n partneriaid yn y sector cyhoeddus i ddiogelu pobl yng Nghymru, gan sicrhau bod ein hadnoddau yn cyd-fynd â’n blaenoriaethau mor effeithiol ag y gallem mewn amgylchiadau anodd iawn.
“Fel rhan o raglen datblygu sefydliadol yr Ysgrifennydd Parhaol, rydym yn datblygu cynllun gweithlu strategol gyda’r nod o sicrhau bod gennym bobl gyda’r sgiliau cywir yn y mannau cywir i gyflawni blaenoriaethau’r Cabinet dros y tair blynedd nesaf.”