Mae cynghorydd yng Ngwynedd oedd wedi siarad yn erbyn cynlluniau i ymestyn ail gartref yn Aberdaron yn dweud bod ei bryderon wedi arwain at ei “gyhuddo’n annheg o hiliaeth”.
Dywed y Cynghorydd Gareth Williams fod mater cynllunio a gafodd sylw yn y Daily Post fis Gorffennaf wedi arwain at “gyhuddiadau annheg” yn ei erbyn ar y cyfryngau cymdeithasol.
Roedd e wedi codi pryderon ynghylch ymestyn garej mewn tŷ o’r enw Pelydryn.
Roedd e’n dadlau, drwy dderbyn y cais, y gallai cynllunwyr “agor y llifddorau” i gynlluniau “diangen” tebyg a fyddai’n “andwyol” i gymeriad Aberdaron.
Roedd y cynlluniau’n cael eu trafod yng nghyfarfod diweddaraf pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd ddydd Llun (Medi 9).
Roedden nhw hefyd gerbron y pwyllgor ar Orffennaf 4, pan gafodd penderfyniad ei ohirio yn ddibynnol ar ymweliad safle, a gafodd ei gynnal yr wythnos ddiwethaf.
Y tro hwn, fe wnaeth y pwyllgor gymeradwyo’r cynnig gan Phillip Emm i godi estyniad un llawr ar flaen byngalo ger y B4413.
Roedd y Cynghorydd Williams wedi dadlau’n gryf fod yr estyniad o bosib am fod yn “ddolur llygaid”, yn ddiwydiannol o ran ei faint ac yn andwyol i gyfleusterau’r cymdogion ac i gymeriad cartrefi cyfagos.
Ond fe wnaeth swyddogion y cyngor wnaeth argymell cymeradwyo’r estyniad ddadlau ei fod yn “gais gan aelwyd” am “estyniad bach”.
‘Dim byd wedi newid’
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Williams wrth y cyfarfod ddydd Llun nad oes “dim byd wedi newid ers y cyfarfod diwethaf”, ac fe ddarllenodd yr un datganiad yn codi gwrthwynebiad.
“Fe wnaeth yr erthygl arwain at gyhuddiadau yn fy erbyn o fod yn hiliol ac o fod ag agenda bersonol fel y cynghorydd dros yr ardal,” meddai.
“Roedd yna nifer o gyhuddiadau eraill ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Roedd hyn yn gwbl annheg ac anghywir, y rheswm dw i’n cyfeirio at hyn fel ‘ail gartref’ sy’n wag ran fwya’r flwyddyn oedd i dynnu sylw at y ffaith nad oes gwir angen ymestyn y garej yma.
“Bydd yn cael cymaint o effaith ar gyfleusterau’r cymdogion sydd yno drwy gydol y flwyddyn.”
Y cynlluniau
Roedd y cynlluniau hyn yn cynnwys ymestyn y garej sydd yno eisoes ac a oedd yn rhan integredig o’r tŷ, 1.5m ymlaen.
Roedd hefyd yn golygu to ar oleddf 3.8m o uchder (1.2m yn is na goleddf y to ei hun), gyda drws garej ar y blaen, 2.6m o uchder a 3m ar draws.
Yn ôl swyddogion y Cyngor, roedd y dyluniad a’r deunyddiau arfaethedig yn “dderbyniol” a “fydden nhw ddim yn amharu ar gymeriad ac ymddangosiad yr ardal”.
Roedd y byngalo yn un o bedwar mewn rhes rhwng Capel Salem, tŷ sydd wedi cael ei drosi, ac Ysgol Crud Y Werin.
Dywedodd Kiara Ann Sweeny, fod sylw wedi’i dynnu yn ystod yr ymweliad at leoliad y ffenestri ar ochr y breswylfa gyfagos, yn ogystal â phatrwm datblygiadau’r ardal yn gyffredinol.
“Does dim byd wedi newid yn y cais ers iddo gael ei gyflwyno o’r blaen,” meddai.
“Dydy’r datblygiad ddim yn cael ei ystyried yn un a fyddai’n niweidiol i gyfleusterau trigolion cyfagos nac ar dirlun y stryd, felly mae’r argymehlliad i gymeradwyo ag amodau’n aros.”
Siarad yn erbyn
“Hoffwn ailadrodd yr araith wnes i ym mis Gorffennaf,” meddai’r Cynghorydd Gareth Wales.
“Gobeithio wir y byddwch chi’n mynd yn erbyn y cais hwn.
“Fel y gwyddoch chi, Mr Gareth Roberts oedd aelod lleol ward Aberdaron (cyn ad-drefnu) ac roedd yn dymuno galw’r cais hwn yn ôl i’r pwyllgor ym mis Mawrth.
“Fel cynghorydd lleol yr ardal, dw i’n cytuno efo’r cynghorydd blaenorol.
“Nid angen estyniad ydi hwn am fod teulu’n ehangu ac yn tyfu, ond dewis ydi hwn gan berchnogion ail gartref i’w addasu at ddibenion hamdden.
“Mae o eisiau cadw tractor a chwch yn y garej pan ddaw i’r tŷ i aros.
“Bydd yn golygu bod Pelydryn yn wahanol i’r tri byngalo arall, yn ddolur llygaid, yn hollol groes i gymeriad yn fy marn i, ac nid yn debyg i dai cyfagos.”
Mynegodd bryder hefyd am gyfleusterau’r cymdogion, gan ddweud ei fod “yn grac a rhwystredig” y gallai trigolion Capel Salem golli eu golygfeydd a’u golau.
Fe wnaeth e grybwyll hefyd y ffaith fod adeilad pren yn cael ei ddatblygu “heb ganiatâd cynllunio” yng nghefn yr eiddo.
Mae’r safle’n “cael ei droi’n fwy o uned ddiwydiannol na chartref preswyl”, meddai.
Wrth gau ei ddadleuon, dywedodd y Cynghorydd Gareth Williams, “Nid ffrae rhwng cymdogion ydi hyn”.
“Mae’r ffaith fod y cyn-gynghorydd wedi lleisio’i bryderon mor glir drwy alw hyn gerbron y pwyllgor a’r ffaith fod y Cyngor Cymuned yn Aberdaron hefyd wedi mynd yn groes iddo, yn dangos yn glir deimladau’r gymuned leol am y cais hwn.”
‘Polisi dros estyniadau’
O ran yr adeilad pren, dywedodd Kiara Sweeny fod cais cynllunio “bellach wedi’i dderbyn ar wahân ar gyfer yr adeilad hwnnw”, ac y byddai’n cael ei drafod mewn cyfarfod arall.
Roedd hi wedi annog aelodau’r pwyllgor, wrth wneud eu penderfyniad, i ystyried polisi dros estyniadau, nad yw’n gofyn am “gyfiawnhad ar gyfer y math hwn o ddatblygiad”, meddai.
“Yr hyn mae’n gofyn amdano ydi dyluniad safonol nad yw’n niweidiol i gyfleusterau ac ymddangosiad ardal,” meddai.
“Dydi’r ffaith fod hwn yn ddatblygiad sydd at ddant yr ymgeisydd ddim yn hanfodol wrth ystyried y cais.
“Mae angen i chi ystyried sut y bydd yn edrych yn nhirlun y stryd, ac a oes yna effaith ar y cymdogion.
“Mae angen i chi ystyried y cais fel y mae wedi’i gyflwyno, ei fod e’n gais deilydd tŷ.
“Nid at ddefnydd busnes ydi o, a dydi honiadau ynghylch yr hyn y gallai rywbeth fod maes o law ddim yn berthnasol.
“Does dim awgrym o ddefnydd busnes yma.”
Effaith ar harddwch
Fe wnaeth cynghorydd arall, Gruff Williams, gynnig pleidlais i wrthod y cais ynghylch ei “effaith ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol” ac fel “gor-ddatblygu”, a chafodd y cynnig ei eilio gan Louise Hughes.
Fe wnaeth y swyddog monitro Iwan Evans gamu i mewn i gynghori aelodau ynghylch y polisi.
Eglurodd Gareth Jones, y swyddog cynllunio, hefyd ei fod yn “estyniad bach i fyngalo, fydd o ddim yn cael effaith ar gymdogion a thirlun y stryd ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol”.
“Pe baech chi’n gwrthod hyn, byddai apêl yn cael ei derbyn yn fy marn i,” ychwanegodd.
Dywedodd y Cynghorydd Ann Lloyd Jones nad oedd hi’n credu y byddai’n cael effaith, ac na fyddai’n effeithio ar y capel.
“Doedd o ddim yn cyrraedd y ffenest na’r golau, rydym wedi cael yr achos ac wedi colli apêl, dw i’n ofni fod rhaid i ni fynd efo’r argymhelliad yn yr adroddiad,” meddai.
Roedd hi’n cynnig derbyn argymhellion y swyddogion, ac eiliodd y Cynghorydd Hugh Wyn Jones hynny.
Aeth wyth o blaid argymhellion y swyddogion a phump yn erbyn yn y bleidlais.
Cafodd yr estyniad ei gymeradwyo.
Ymateb y Cyngor
“Mewn cyfarfod o Bwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd, cafodd caniatâd ar gyfer estyniad un llaw yn Pelydryn, Aberdaron ei roi yn unol ag argymhellion y swyddogion,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd.