Yr argyfwng ynni yw blaenoriaeth Liz Truss, medd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies.

Ar ôl iddi guro Rishi Sunak yn y ras arweinyddol ddoe (Medi 5), bydd Liz Truss yn dod yn Brif Weinidog newydd ar y Deyrnas Unedig yn nes ymlaen heddiw.

Wrth roi araith ar ôl cael ei hethol ddoe, dywedodd y Prif Weinidog newydd y bydd hi’n cyflwyno cynllun “pendant” i weithredu ar yr argyfwng ynni.

Yr awgrym yw y bydd hi’n rhewi biliau ynni, ac mae’n bosib y bydd cyhoeddiad ar hynny ddydd Iau (Medi 8).

Meddai Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig: “Dw i’n gwybod mai’r argyfwng ynni yw’r flaenoriaeth gyntaf i’r Prif Weinidog newydd a dw i’n edrych ymlaen at weld syniadau Liz yn cael eu gweithredu er mwyn lleihau’r baich ar filiynau.

“Mae hi’n amlwg bod angen gweithredu ar raddfa fawr gan y llywodraeth er mwyn helpu aelwydydd i ddod drwy’r cyfnod hwn o brisiau ynni uchel, a helpu busnesau gyda chymorth i ddiogelu swyddi a chynnal cyflogau er mwyn talu biliau’r cartref.”

‘Diolch Boris Johnson’

Rhoddodd Andrew RT Davies deyrnged i Boris Johson hefyd, gan ddiolch iddo “am bopeth”.

“Mae Boris Johnson yn wleidydd unwaith-mewn-cenhedlaeth a oedd gan allu unigryw i gysylltu â phleidleiswyr – rhywbeth y gwelsom ni dro ar ôl tro gydag ein perfformiad gorau yn etholiad y Senedd a phan lwyddwyd i ethol y nifer uchaf o Aelodau Seneddol y Ceidwadwyr Cymreig ers y 1980au.

“Dw i’n credu bod gan y wlad le i ddiolch fod ei arweinyddiaeth wedi atal Corbyn rhag dod yn Brif Weinidog, ei fod wedi cwblhau Brexit, arfogi Wcráin yn erbyn Putin, a chaffael a chyflenwi’r rhaglen frechu Covid gyflymaf yn Ewrop.

“Wrth edrych yn ôl ar ei etifeddiaeth, byddan yn gweld lle y bu cynnydd gwirioneddol, ac er fy mod i’n drist o’i weld yn gafael, mae’n ddealladwy hefyd, a dw i’n ymuno â’i neges gan ddweud y dylai’r Blaid a’r wlad uno tu cefn i Liz Truss nawr er mwyn lleihau costau byw.”

‘Annerbyniol’

Mae Plaid Cymru wedi galw ar Liz Truss i gwtogi biliau ynni drwy fynd â’r cap ar brisiau ynni yn ôl i’w hen lefelau.

“Mae hi’n annerbyniol nad ydy pobol yn gwybod sut y byddan nhw’n talu eu biliau mewn ychydig wythnosau,” meddai Liz Saville Roberts, arweinydd y blaid yn San Steffan, ac Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru.

“Tra bod San Steffan wedi cael eu parlysu gan ffraeo pitw’r Ceidwadwyr, yng Nghymru rydyn ni’n gwneud pethau’n wahanol.

“Tra bod ein Prif Weinidog newydd yn rhoi arian i’r rhai cyfoethocaf ac yn gwrthwynebu ailddosbarthu cyfoeth, mae Plaid Cymru’n dechrau darparu prydau ysgol am ddim i bawb.

“O’r wythnos hon, bydd y plant ieuengaf yn dechrau derbyn prydau ysgol am ddim, gan leddfu’r argyfwng costau byw i deuluoedd dros Gymru.”

Boris Johnson yn cwyno bod y Blaid Geidwadol wedi “newid y rheolau” i’w orfodi o’i rôl

Ond roedd araith olaf Boris Johnson fel Prif Weinidog yn “rhithdybiaethol”, medd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan