Liz Truss fydd Prif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig, ac arweinydd y Blaid Geidwadol.

Cafodd canlyniad y ras rhyngddi hi a Rishi Sunak ei gadarnhau heddiw (Medi 5), a bydd Liz Truss yn dechrau’r rôl fory.

Derbyniodd Rishi Sunak 60,399 o bleidleisiau gan aelodau’r blaid, ond cafodd Liz Truss 81,326 o bleidleisiau.

Yn ôl y sôn, mae Liz Truss, sy’n Ysgrifennydd Tramor ar hyn o bryd, yn ystyried rhewi biliau ynni, ac mae’n bosib y bydd cyhoeddiad ddydd Iau (Medi 8).

“Mae hi’n anrhydedd cael fy ethol fel arweinydd y Blaid Geidwadol. Hoffwn ddiolch i Bwyllgor 1922, Cadeirydd y Blaid a’r Blaid Geidwadol am drefnu un o’r cyfweliadau swydd hiraf mewn hanes,” meddai Liz Truss wrth roi araith wedi’r canlyniad.

“Hoffwn ddiolch i fy nheulu, fy ffrindiau, fy nghydweithwyr gwleidyddol, a phawb sydd wedi helpu gyda’r ymgyrch. Dw i’n ddiolchgar iawn am eich holl gefnogaeth.

“Hoffwn roi teyrnged i fy nghyd-ymgeiswyr, Rishi Sunak yn arbennig. Mae hi wedi bod yn ymgyrch galed, dw i’n meddwl ein bod ni wedi dangos dyfnder ac amrywiaeth y dalent yn ein Plaid Geidwadol.

“Dw i hefyd eisiau diolch i’n harweinydd ymadawol, fy ffrind, Boris Johnson.

“Boris, fe wnes di gwblhau Brexit, fe wnes di chwalu Jeremy Corbyn, fe wnes di ddarparu’r rhaglen frechu, a herio Vladimir Putin. Roedd pobol yn dy edmygu o Kyiv i Carlisle.”

‘Rheoli fel Ceidwadwr’

Aeth Liz Truss yn ei blaen i ddiolch i’w ffrindiau a chydweithwyr am roi’r ffydd ynddi i arwain y blaid.

“Dw i’n gwybod bod ein credoau ni’n taro tant gyda phobol Prydain, ein cred mewn rhyddid, y gallu i reoli eich bywydau eich hunain, trethi isel, cyfrifoldeb personol,” meddai.

“Dw i’n gwybod mai dyna pam y gwnaeth gymaint o bobol bleidleisio drosom ni yn 2019.

“Fel arweinydd eich plaid, dw i’n bwriadu gweithredu ar yr hyn wnaethom ni addo i bleidleiswyr dros ein gwlad wych.

“Yn ystod yr ymgyrch arweinyddol hon, fe wnes i ymgyrchu fel Ceidwadwr ac fe wnâi reoli fel Ceidwadwr.

“Fy ffrindiau, rydyn ni angen dangos ein bod ni am weithredu dros y ddwy flynedd nesaf.

“Fe wnâi gyflwyno cynllun pendant i dorri trethi a thyfu ein heconomi, fe wnâi weithredu ar yr argyfwng ynni, gan fynd i’r afael â biliau pobol a’r problemau hirdymor sydd gennym ni o ran cyflenwad ynni.

“Ac fe wnâi gyflawni o ran y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Fe wnawn ni i gyd weithredu dros ein gwlad anhygoel, ac fe wnâi sicrhau ein bod ni’n defnyddio holl dalentau gwych y Blaid Geidwadol – ein Haelodau Seneddol arbennig ac Arglwyddi, ein cynghorwyr, ein Haelodau o’r Senedd, Aelodau o Senedd yr Alban, ein hymgyrchwyr, ein haelodau dros y wlad.

“Oherwydd, fy ffrindiau, dw i’n gwybod y gwnawn ni gyflawni, cyflawni, cyflawni.”

Pwy ydy Liz Truss?

Ganwyd Mary Elizabeth Truss yn Rhydychen, ac ar ôl derbyn ei haddysg ger Glasgow, aeth i Brifysgol Rhydychen. Yno, bu’n weithgar gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol, cyn troi at y blaid Geidwadol.

Fe aeth hi ymlaen i weithio fel cyfrifydd i Shell, a Cable & Wireless, cyn sefyll fel ymgeisydd y Torïaid dros Hemsworth, Gorllewin Swydd Efrog, yn etholiad cyffredinol 2001, ond collodd.

Dioddefodd golled arall yn Calder Valley, hefyd yng Ngorllewin Swydd Efrog, yn 2005.

Ond cafodd ei hethol yn gynghorydd yn Greenwich, de-ddwyrain Llundain, yn 2006, cyn cael ei hethol fel Aelod Seneddol dros Dde Orllewin Norfolk yn 2010.

Yn 2012, ychydig dros ddwy flynedd ar ôl dod yn Aelod Seneddol, ymunodd â’r llywodraeth fel gweinidog addysg ac yn 2014 fe’i dyrchafwyd yn ysgrifennydd yr amgylchedd.

Bwriad gwleidyddol

  • Brexit

Bu Liz Truss yn ymgyrchu dros Remain, gan ysgrifennu ym mhapur newydd y Sun y byddai Brexit yn “drasiedi driphlyg – mwy o reolau, mwy o ffurflenni a mwy o oedi wrth werthu i’r Undeb Ewropeaidd”.

Fodd bynnag, ar ôl i’w hochr golli, fe newidiodd ei meddwl, gan ddadlau bod Brexit yn gyfle i “ysgwyd y ffordd y mae pethau’n gweithio”.

O dan Theresa May, bu’n gwasanaethu fel ysgrifennydd cyfiawnder cyn symud ymlaen i fod yn brif ysgrifennydd i’r Trysorlys.

Pan ddaeth Boris Johnson yn brif weinidog yn 2019, symudwyd Liz Truss i fod yn ysgrifennydd masnach ryngwladol.

Ond yn 2021, symudodd i un o swyddi uchaf y llywodraeth, sef yr ysgrifennydd tramor.

  • Argyfwng costau byw

Mae Liz Truss wedi bod o dan y lach yn ystod yr ymgyrch dros arweinyddiaeth y blaid, a hynny’n aml am sut y byddai hi’n delio â’r argyfwng costau byw.

Dywedodd ei bod hi am ganolbwyntio ar “leihau baich treth, peidio â dosbarthu handouts,” ac roedd y cyfeiriad tuag at “gyfrifoldeb personol” yn ei haraith heddiw’n rhoi’r un awgrym.