Bydd cynnydd mawr yn y galw am annibyniaeth i Gymru dan arweinyddiaeth Liz Truss, yn ôl Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, Mabon ap Gwynfor.

Barn Mabon ap Gwynfor yw y bydd pobol yn gweld nad oes dyfodol i Gymru fel rhan o’r Deyrnas Gyfunol.

Cafodd canlyniad y ras rhyngddi hi a Rishi Sunak ei gadarnhau heddiw (Medi 5), a bydd Liz Truss yn dechrau ei rôl fel Prif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig fory.

“Mae hi wedi gwneud addewidion i’r blaid Geidwadol ac wedi gwneud datganiadau dros yr haf fydd yn profi i fod yn hynod o niweidiol i bobol yng Nghymru ac ar hyd Ynysoedd Prydain, ac yn sicr y Deyrnas Gyfunol,” meddai Mabon ap Gwynfor, llefarydd materion gwledig Plaid Cymru, wrth golwg360.

“Dw i’n gobeithio’n arw mai addewidion gwag i ennill etholiad oedden nhw ac na fydd hi’n cyflawni nhw.

“Os bydd hi yn, bydd mwy o bobol yn disgwyl gaeaf andros o anodd ac yn gweld dioddefaint dros y misoedd nesaf.”

Darogan diwedd y Deyrnas Unedig?

Mae un pol piniwn wedi dangos y byddai arweinyddiaeth Liz Truss yn arwain at gynnydd yn nifer y bobol sy’n cefnogi annibyniaeth, a “dyna’r unig olau” y mae Mabon ap Gwynfor yn ei weld drwy hyn.

Mae Mabon hefyd yn obeithiol y bydd yr Alban yn gweld annibyniaeth dan ei arweinyddiaeth.

“Mae annibyniaeth yn yr Alban yn bosibilrwydd yn yr ystyr fod y galw am annibyniaeth yn cynyddu, ond mae’n mynd i fod yn ddibynnol os ydy Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn caniatáu refferendwm ac yn gwrando ar bobol yr Alban.

“Mae cynsail wedi’i osod gyda David Cameron a fydd yn anodd iawn i unrhyw Brif Weinidog y wladwriaeth hon wrthwynebu hawl ddemocrataidd pobol yn yr Alban.

“Felly fyswn i’n disgwyl rhyw fath o refferendwm a dw i’n hyderus iawn y bydd o’n galluogi annibyniaeth i’r Alban.

“Ar yr un pryd, rydyn ni’n gweld y newid agweddau yn y chwe sir yng Ngogledd Iwerddon.

“Fyswn i’n disgwyl y byddai’r chwe sir yn ailuno â’r weriniaeth, fydd yn golygu bod Cymru’n rump yn sownd i Loegr.

“Mae’n gorfodi ni i feddwl yn sydyn iawn beth rydyn ni’n gweld ein dyfodol ni fel cenedl.

“Dw i’n meddwl gyda Liz Truss fel Prif Weinidog, fydd pobol yn gweld nad oes dyfodol i Gymru fel rhan o’r Deyrnas Gyfunol ac y byddwn ni’n gweld cynnydd mawr yn y galw am annibyniaeth.

“Dw i’n meddwl bydd o hefyd yn rhoi pwysau arnom ni fel plaid i ddatblygu cynllun realistig ar y fath o Gymru annibynnol rydyn ni eisiau.”

‘Mwy o anhrefn’

Gallwn ddisgwyl gweld mwy o anhrefn o dan arweinyddiaeth Liz Truss, medd Jane Dodds, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol.

“O fethu â delio gyda’r argyfwng costau byw, i adael i fusnesau bach a chanolig wynebu’r gaeaf ar eu pennau eu hunain, i fethu ag ymdopi â’r argyfwng hinsawdd, mae’r Ceidwadwyr wedi dangos nad ydyn nhw’n poeni, nad oes ganddyn nhw gynllun, a’u bod nhw wedi methu’r wlad.

“Efallai bod y Ceidwadwyr wedi newid arweinydd, ond ar ôl deuddeng mlynedd mewn grym yn San Steffan, mae’r Ceidwadwyr wedi dangos eu bod nhw wedi rhedeg allan o syniadau ac egni, ac wedi colli gafael ar bethau.

“I ddechrau, mae angen i’r Llywodraeth gael gwared ar y cynnydd mewn prisiau ynni fydd yn digwydd ym mis Hydref er mwyn osgoi trychineb i deuluoedd a phensiynwyr dros y gaeaf.

“Yna, rydyn ni angen etholiad cyffredinol, er mwyn tynnu’r grym o ddwylo’r Ceidwadwyr a chreu’r newid go iawn mae Cymru ei angen.”

‘Methu ymddiried ynddi’

Mae ôl Liz Truss dros fethiannau’r Torïaid ers y ddeuddeng mlynedd ddiwethaf, meddai Jo Stevens, Aelod Seneddol Llafur Canol Caerdydd.

“Mae hi wedi ail-adrodd celwyddau Boris Johnson yn ddi-ffael, ac wedi pleidleisio dros y 15 cynnydd mewn trethi sydd wedi cael eu cyflwyno gan y Torïaid dros y ddwy flynedd ddiwethaf,” meddai Jo Stevens.

“Mae hi wedi dangos i bobol, bob gafael, na ellir ymddiried ynddi.

“Roedd aelwydydd dros Gymru angen i’r Llywodraeth Geidwadol weithredu er mwyn mynd i’r afael â’u hargyfwng costau byw fisoedd yn ôl.

“Bron i naw wythnos ers dechrau’r ymgyrch arweinyddol, a does gan Truss ddim cynllun na syniadau ynghylch sut i fynd i’r afael â’r argyfwng sy’n wynebu pobol a busnesau.”

‘Amser i uno’

Yn y cyfamser, mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, wedi llongyfarch Liz Truss.

“Dw i wrth fy modd bod Liz wedi cael ei hethol fel arweinydd y blaid ac mai hi fydd ein Prif Weinidog nesaf, yn enwedig gan fy mod wedi’i chefnogi drwy gydol yr ymgyrch.

“Trwy gydol ei gyrfa wleidyddol a’r ymgyrch, rydyn ni wedi gweld rhywun gyda’r syniadau a’r cadernid sydd ei angen i arwain y Ceidwadwyr i’r etholiad nesaf ac arwain y wlad drwy gyfnod anodd.

“Mae yna lot o waith i’w wneud, yn enwedig wrth fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, a dw i’n edrych ymlaen at weld syniad Liz yn dod yn fyw er mwyn lleihau’r baich sy’n wynebu miliynau o bobol.

“Nawr yw’r amser i uno dan arweinydd newydd, ac adeiladu ar ein record o gyflawni ar gyfer Cymru a’r Deyrnas Unedig.”

Liz Truss fydd Prif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig

“Fe wnâi gyflwyno cynllun pendant i dorri trethi a thyfu ein heconomi, fe wnâi weithredu ar yr argyfwng ynni…”