Mae NFU Cymru am i Brif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig sicrhau nad oes yna ddim i’w rhwystro rhag allforio cynnyrch i “farchnadoedd mawr”, fel yr Undeb Ewropeaidd
Yn dilyn y penodiad, mae NFU Cymru wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog newydd i danlinellu pum blaenoriaeth polisi’r undeb ar gyfer y llywodraeth newydd.
Dywedodd Llywydd NFU Cymru, Aled Jones: “Hoffwn groesawu Liz Truss fel y Prif Weinidog newydd.
“Rydym mewn cyfnod o newid a her sylweddol, ond mae NFU Cymru yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Prif Weinidog newydd a’i llywodraeth i fynd i’r afael â’r materion hyn, manteisio ar gyfleoedd ac i sicrhau dyfodol proffidiol, cynhyrchiol a blaengar i amaethyddiaeth Cymru.”
Polisi masnach
I ddechrau, mae NFU Cymru eisiau gweld y Prif Weinidog yn ymrwymo i ddarparu cytundeb ariannu aml-flwyddyn ar gyfer ffermio yng Nghymru.
“Dylai’r ymrwymiad hwn, o leiaf, anrhydeddu’r lefelau ariannu presennol,” meddai Aled Jones.
“O ystyried dibyniaeth y sector ar farchnadoedd allforio, nid yn unig ar gyfer ein Cig Eidion a Chig Oen Cymru o fri rhyngwladol, hoffem weld y Prif Weinidog yn sicrhau nad yw ein llwybrau i’n marchnadoedd allforio mawr, yr Undeb Ewropeaidd yn benodol, yn cael eu rhwystro gan unrhyw rwystrau i fasnachu.
“Mae pryderon y diwydiant ynghylch effaith mewnforion a ganiateir mewn bargeinion masnach yn y dyfodol – yn enwedig y rhai y cytunwyd arnynt eisoes gyda gwledydd fel Awstralia a Seland Newydd – yn hysbys.
“Rydym am weld Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn gosod cynllun yn amlinellu sut y bydd ei pholisi masnach yn cefnogi’r agenda ar gyfer tyfu ein sector.”
Ynni
Mae angen i Liz Truss sicrhau bod cyllid ar gael i gynyddu capasiti’r grid hefyd fel bod ffermwyr yn gallu “chwarae rhan flaenllaw” wrth ddarparu ynni adnewyddadwy.
“Mae ein ffermwyr yn gallu chwarae rhan flaenllaw wrth ddarparu’r ynni adnewyddadwy i bweru Prydain wyrddach, ond mae cyfyngiadau o fewn y seilwaith presennol yn eu hatal rhag gwireddu’r uchelgais hwnnw,” meddai Aled Jones.
“Rydym am weld addewid gan y Prif Weinidog nesaf i sicrhau bod cyllid ar gael i wneud gwelliannau angenrheidiol i seilwaith y grid er mwyn helpu i gyrraedd targedau sero net y diwydiant a’r llywodraeth.
“Mae effeithiau’r argyfwng ynni presennol yn taro pawb mewn cymdeithas ac mae busnesau hefyd yn cael eu taro’n galed.
“Mae busnesau ffermio’n cael eu heffeithio hefyd, ac rydym yn clywed am aelodau’n wynebu costau afresymol, costau sy’n debyg o godi’n uwch yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
“Mae’n hollbwysig bod y Prif Weinidog newydd yn cymryd camau cyflym i weithio gyda rheoleiddwyr a darparwyr ynni i fynd i’r afael â’r costau cynyddol sy’n effeithio ar aelwydydd a busnesau’r Deyrnas Unedig hefyd.”