Fe wnaeth Boris Johnson ei araith olaf fel prif weinidog fore heddiw (Medi 6), gan ei defnyddio i gwyno bod y Blaid Geidwadol wedi “newid y rheolau” i’w orfodi o’r rôl.

Yn dilyn y cyhoeddiad ddoe (Medi 5), bydd Liz Truss yn dod yn Brif Weinidog ar y Deyrnas Unedig heddiw.

Mae disgwyl iddi hi wneud araith arall yn nes ymlaen heddiw.

Wrth ymateb i araith Boris Johnson, dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan bod yr araith yn “rhithdybiaethol” (delusional).

“Mae disgwyl i Brif Weinidog olaf y Deyrnas Unedig, Truss, gadw at yr un rhithdybiaethau,” meddai’r Aelod Seneddol Liz Saville Roberts.

“Duw a’n gwaredo. Rhaid i ni ddianc rhag hyn.”

Dywedodd Mabon ap Gwynfor, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru, wrth golwg360 ei fod yn disgwyl i gefnogaeth tuag at annibyniaeth i Gymru gynyddu dan arweinyddiaeth Liz Truss.

‘Newid y rheolau’

Yn ei araith wrth adael Rhif 10, dywedodd Boris Johnson ei fod yn pasio’r baton ymlaen mewn “ras gyfnewid annisgwyl”.

“Fe wnaethon nhw newid y rheolau hanner ffordd drwodd, ond dim bwys am hynny nawr,” meddai.

“A thrwy’r drws du hwn, bydd prif weinidog newydd yn mynd i gyfarfod grŵp ardderchog o weision sifil – y bobol wnaeth gwblhau Brexit, y bobol wnaeth ddarparu’r rhaglen frechu gyflymaf yn Ewrop, a pheidiwch fyth ag anghofio, cafodd 70% o’r holl boblogaeth ddos o fewn chwe mis, yn gynt nag unrhyw wlad gymaradwy.

“Dyma Lywodraeth i chi. Dyna yw’r Llywodraeth Geidwadol hon.”

Aeth yn ei flaen i ganmol yr ymdrechion i fynd i’r afael â’r argyfwng ynni a gwella gwasanaethau cyhoeddus, a’r ymateb i’r rhyfel yn Wcráin.

“Fel Cincinnatus [arweinydd Rhufeinig], dw i’n dychwelyd at fy aradr. A byddaf yn cynnig dim byd oni bai am fy nghefnogaeth frwd i’r Llywodraeth hon.

“A dyma pam: Mae hon yn adeg anodd i’r economi. Mae hi’n adeg anodd i deuluoedd ar hyd a lled y wlad.

“Gallwn, ac mi fyddan ni, yn dod drwy hyn a byddan ni’n gryfach o ganlyniad i hynny.

“Ond meddaf wrth fy nghyd-Geidwadwyr, mae hi’n amser rhoi gorau i wleidyddiaeth, bobol.

“Mae hi’n amser cefnogi Liz Truss a’i thîm a’i rhaglen a chyflawni dros y wlad hon.”

‘Byth am lwyddo i chwalu’r undeb’

Ychwanegodd hefyd: “A gyda llaw, wrth i fi adael, dw i’n credu bod yr undeb mor gryf fel y gall y rhai sydd eisiau ei thorri barhau i drio, ond wnawn nhw fyth, fyth lwyddo.”

“Diolch i bawb tu ôl i mi yn yr adeilad hwn. Diolch i chi gyd yn y llywodraeth.

“Diolch i bawb sydd wedi helpu i edrych ar fy ôl i a’r teulu dros y tair blynedd ddiwethaf, gan gynnwys Dilyn y ci.

“A dywedaf wrth fy mhlaid, os gall Dilyn a Larry [y gath] anghofio am eu hanghytundebau, yna gall y Blaid Geidwadol hefyd.”

Mae disgwyl i Liz Truss gyhoeddi enwau aelodau o’i chabinet, ac yn ôl y sôn fe fydd hi’n cyhoeddi cynllun i fynd i’r afael â chostau byw a rhewi biliau ddydd Iau (Medi 8).