Mae YesCymru wedi cyhoeddi eu bod wedi penodi Prif Weithredwr newydd llawn amser.

Y Prif Weithredwr newydd, Gwern Gwynfil, fydd yn gyfrifol am redeg YesCymru o ddydd i ddydd ac am weithredu ei strategaeth ar gyfer sicrhau annibyniaeth i Gymru.

Mae Gwern, sy’n 48 oed, wedi ymrwymo’n gadarn i achos annibyniaeth i Gymru, yn ôl y mudiad.

Mae ganddo gefndir ym myd busnes, ac wedi bod yn Rheolwr Gyfarwyddwr y busnes gemwaith teuluol yn Nhregaron, Rhiannon Cyf, am 18 mlynedd.

Sefydlwyd y busnes gan ei fam, Rhiannon Ifans, dros 50 mlynedd yn ôl ac mae’n masnacha yn rhyngwladol

Graddiodd Gwern mewn hanes yn Rhydychen, gan ennill diploma i ôl-raddedig o Brifysgol Aberystwyth, a bu’n gweithio gyda sawl sefydliad cyn dychwelyd i’r busnes teuluol yn 2004.

‘Cam mawr ymlaen’

Dywed Gwern: “Rwy’n edrych ymlaen at chwarae rhan allweddol ym mhennod nesaf datblygiad YesCymru.

“Mae cyfrannu tuag at yr ymgyrch dros annibyniaeth i Gymru mewn rôl llawn amser yn gyfle cyffrous, bydd yn fy ngalluogi i wneud gwahaniaeth go iawn i ymgyrch sydd mor agos at fy nghalon”

Dywedodd Cadeirydd YesCymru, Elfed Williams: “Rydym yn croesawu Gwern yn fawr i’r rôl newydd gyffrous yma.

“Mae penodi Prif Weithredwr yn benderfyniad mor allweddol wrth ddatblygu YesCymru a’r ymgyrch dros annibyniaeth ymhellach.

“Mae’n amlwg, o’r hyn sy’n digwydd yn San Steffan, bod yr achos a’r awydd dros annibyniaeth yn cynyddu’n ddyddiol.

“Mae adeiladu tîm proffesiynol er mwyn arwain ein mudiad yn allweddol, ac mae penodi Gwern yn gam mawr ymlaen.”

Mae Gwern yn dechrau gweithio gyda YesCymru heddiw (dydd Llun, Medi 5), gyda llai na mis nes yr orymdaith dros annibyniaeth yng Nghaerdydd.