Cafodd £200,000 ei godi i Apêl Llifogydd Pacistan DEC Cymru o fewn 24 awr wrth iddi ddod i’r amlwg bod traean o’r wlad dan ddŵr.
Mae tua 33 miliwn o bobol wedi cael eu heffeithio, tua 16 miliwn ohonyn nhw’n blant, ac mae o leiaf 1,200 o bobol wedi cael eu lladd.
Wrth ddiolch am y cyfraniadau hyd yn hyn, dywedodd DEC Cymru eu bod nhw’n “angen arian pellach ar frys i ddarparu cymorth ar unwaith i’r bobol fwyaf agored i niwed”.
Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae 900 o gyfleusterau iechyd wedi’u difrodi yn wael, ac mae gweithwyr dyngarol wedi rhybuddio nad yw’r gwaethaf drosodd i’r bobol yn yr ardaloedd sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd.
‘Colli eiddo ac anifeiliaid’
Dywedodd George Inayat, nyrs mewn cartref gofal yng Nghasnewydd, ei fod yn teimlo rheidrwydd i ddychwelyd i Bacistan i fod gyda’i deulu.
“Mae fy holl deulu ac eithrio fy ngwraig a’r plant yn byw ym Mhacistan ac maent wedi eu heffeithio yn fawr gan y llifogydd,” meddai.
“Maent wedi colli eiddo ac anifeiliaid. Mae gen i deulu ym mhob rhan o Bacistan, ond rwyf yn gobeithio ymweld â’r rhai yn ardal Chārsadda, Punjab a Frontier.
“Tra allan yna, y peth mwyaf ydw i yn gobeithio ei wneud ydy bod yn gefn i fy nheulu a’u cynghori a rhannu gwybodaeth am afiechydon.
“Mae’n bwysig iawn i mi fy mod i yn gallu dangos cydymdeimlad a’u cefnogi mewn unrhyw ffordd sydd o gymorth i’m teulu.”
‘Angen arian pellach’
Dros y Deyrnas Unedig, mae £8m wedi cael ei godi tuag at Apêl Llifogydd Pacistan DEC.
“Rhoi drwy’r DEC yw’r ffordd fwyaf effeithiol o gael cymorth pellgyrhaeddol a chyd-gysylltiedig at y rhai sydd â’r angen mwyaf ym Mhacistan, a hynny cyn gynted â phosibl,” meddai Sarah Rees, Cadeirydd DEC Cymru.
“Mae ein helusennau eisoes ar lawr gwlad yn dosbarthu gofal meddygol brys a chyflenwadau gan gynnwys pebyll, citiau bwyd a hylendid i’r rhai sy’n dioddef effeithiau enbyd yr argyfwng hwn.
“Rydym yn hynod ddiolchgar am y swm a godwyd ar ddiwrnod cyntaf yr apêl hon, fodd bynnag mae arnom angen arian pellach ar frys i gynyddu gweithrediadau elusennau DEC ar draws y rhanbarthau yr effeithir arnynt, a darparu cymorth ar unwaith i’r bobl fwyaf agored i niwed.
“Rydyn ni wrth gwrs yn gwerthfawrogi ei bod hi’n gyfnod anodd yma yng Nghymru, ond mae maint y trychineb hwn yn golygu bod angen cymorth brys ar bobl ym Mhacistan i oroesi – plîs cyfrannwch os gallwch chi.”
- Gellir rhoi rhoddion drwy fynd i www.dec.org.uk neu drwy ffonio 0330 678 1000.