Ni ddylai cwmnïau mawrion fanteisio a thrio gwneud mwy o elw yn ystod yr argyfwng costau byw, medd ymgyrchwyr.
Bydd Cynulliad y Bobol Caerdydd yn ymgyrchu yn erbyn penderfyniad Tesco i newid Tesco Metro i Tesco Express yn y brifddinas dros y penwythnos (dydd Sadwrn, Medi 10).
Fe fydd y newid yn golygu prisiau uwch ar nifer o nwyddau.
Yn 2021, fe wnaeth y cwmni gyhoeddi y bydden nhw’n cyfnewid bron i 100 o siopau Tesco Metro am Tesco Express ar draws y Deyrnas Unedig.
Yn ôl Cynulliad y Bobol Caerdydd, mae gan brisiau bwyd uwch ganlyniadau cymdeithasol, yn enwedig yng nghanol yr argyfwng costau byw.
Herio a mynnu
Nod y brotest yw sicrhau prisiau is ar fwydydd a galw ar Tesco i ddod â’u cynnyrch mwy fforddiadwy, Tesco Value, yn ôl i’w siopau, meddai Adam Johannes, sylfaenydd a chydlynydd y grŵp.
“Mae gennym sefyllfa yng Nghymru lle bydd rhieni yn methu prydau bwyd fel y gall plant fwyta,” meddai Adam wrth golwg360.
“Mae’n teimlo fel bod lot o elwa.
“Rydyn ni’n clywed am yr argyfwng costau byw bob dydd, ond wedyn pryd bynnag rydyn ni’n edrych ar y cwmnïau yma, maen nhw’n gwneud elw anferthol ac yn cynyddu’r costau arnom ni.
“Felly rydyn ni eisiau lansio ymgyrch yn erbyn hyn, ond hefyd dechrau ymgyrch ymhlith y cyhoedd i ddweud y dylem ni ddim jest dderbyn hyn.
“Dylem herio hyn a mynnu rheolaethau prisiau.”
Trafodaethau tryloyw
Bwriad y brotest gychwynnol ydy ymgysylltu â siopwyr a phobol leol sydd methu fforddio cynnyrch drytach, ac egluro iddyn nhw pam y dylen nhw gefnogi’r protest a chymryd rhan.
“Gobeithiwn y bydd Cynulliad y Bobl yn ethol tîm o drafodwyr a fydd yn gyswllt rhwng yr ymgyrch a’r siop i drafod prisiau is,” meddai Adam.
“Byddwn hefyd yn ethol grŵp cyfathrebu.
“Bydd llythyr agored yn cael ei ddrafftio gan y grŵp cyfathrebu, a fydd yn sail i wleidyddiaeth yr ymgyrch, ac yn cael ei anfon at y South Wales Echo, Western Mail ac yn y blaen.
“Rydym am i drafodaethau fod yn dryloyw a chynnwys pobol, felly byddwn yn gwneud pwynt o roi cyhoeddusrwydd i ymatebion.
“Nid yw hwn yn stynt one-off, mae’n rhan o ymgyrch ehangach sy’n digwydd, a bydd yn cynyddu wrth i fwy a mwy o weithwyr streicio a gwrthryfela mewn cymunedau yn erbyn prisiau cynyddol.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Tesco am ymateb.