Mae aelodau o garfan ieuenctid CND Cymru wedi dechrau gorymdeithio o Drawsfynydd i Wylfa er mwyn ymgyrchu yn erbyn y penderfyniad i leoli adweithyddion niwclear bach ar y ddau safle.
Cafodd rali ei chynnal ger hen orsaf niwclear Trawsfynydd ddoe (Medi 4), cyn cymal cyntaf y daith o Drawsfynydd i Borthmadog.
Mae’r grŵp yn protestio yn erbyn penderfyniad Llywodraeth San Steffan i leoli Adweithyddion Niwclear Modiwlaidd Bach (SMRs) ar safle’r hen atomfeydd “o ganlyniad i’r peryglon i’r amgylchedd ac i bobol”.
Nid ynni niwclear yw’r ateb i’n “hanghenion ynni nag i fynd i’r afael â newid hinsawdd”, meddai’r cyn-aelod o’r Senedd Ewropeaidd a chadeirydd CND Cymru, Jill Evans, wrth annerch y dorf yn y rali.
Mae gan y grŵp bryderon am gysylltiad ynni niwclear ag arfau niwclear, hefyd.
Cafwyd areithiau gan Dr Bethan Siân Jones, Ysgrifennydd Cenedlaethol CND Cymru; Sam Bannon, cydlynydd Gorymdaith Traws-Wylfa; Deilwen Evans o CADNO; Sophie McKeand o XR Cymru; Jill Evans; Meleri Davies o Ynni Ogwen, ac araith wedi’i darllen ar ran yr Aelod o’r Senedd Mabon ap Gwynfor.
‘Dim cyfiawnder hinsawdd’
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi £200m i gwmni Rolls Royce gynllunio technoleg SMRs, sy’n “gambl”, meddai Dr Bethan Siân Jones.
“Maen nhw wedi gwneud hyn heb wybod yn union faint fydd yr SMRs hyn yn costio yn y pendraw. Gan rwbio’r halen mewn i’r briw, dim ond ar ôl 2030 fydd yr SMRs yma’n weithredol,” meddai.
“Fydda nhw methu, felly, chwarae unrhyw ran wrth gyflawni carbon net-sero cyn 2050
“Mae pob ceiniog sy’n cael ei wastraffu yn arian na sy’n cael ei wario ar opsiynau sydd wedi cael eu profi i weithio – opsiynau carbon isel, cynaliadwy megis ynni’r haul, gwynt, golau.
“Ni all ynni niwclear esgor ar gyfiawnder hinsawdd.
“Mae ofn arnom ni hefyd am y cysylltiadau rhwng pŵer niwclear, y fyddin ac arfau niwclear. Wrth edrych ar y sefyllfa yn Wcráin, mae hyn yn brawf bod gan orsafoedd pŵer niwclear y potensial i ddod yn offerynnau rhyfel.
“Ar olwg amgylcheddol, mae gorsafoedd ynni niwclear angen llawer iawn o goncrid i amgáu ei gwastraff niwclear.
“Mae concrid yn para 50 i 100 mlynedd os ydyn ni’n lwcus, mae ymbelydredd yn para miloedd o flynyddoedd. Felly, beth sy’n digwydd i’r gwastraff niwclear yma pan mae concrid yn methu?
“Mae damweiniau yn digwydd. Fukushima yn Japan yn 2011, Chernobyl yn Wcráin yn 1986. Mwy na 1,500 milltir i ffwrdd, fe wnaeth yr ymbelydredd o Chernobyl effeithio ffermio defaid yng ngogledd Cymru.
“Cafodd yr ymbelydredd ei ddal yn nhopograffeg y tir, roedd rhaid i ddefaid gael eu lladd i atal ymbelydredd rhag cyrraedd y gadwyn fwyd, ac roedd rhwystrau ar ffermwyr Cymru am 25 mlynedd wedyn.
“Mae ymbelydredd yn mynd uwchlaw’r syniad o ffiniau, mae’n dibynnu’n llwyr ar ba ffordd mae’r gwynt yn digwydd chwythu.”
Ynni cymunedol i bobol leol
Tua diwedd y 1980au, rhieni Meleri Davies oedd “y cwpwl mwyaf ymbelydrol ym Mhrydain”. Roedd arbenigwyr yn synnu nad oedd y ddau, oedd yn byw yng Nghwm Prysor yn Nhrawsfynydd, erioed wedi bwyta pysgodyn o Lyn Trawsfynydd.
Wyth oed oedd Meleri Davies, sy’n un o sefydlwyr Ynni Ogwen ym Methesda, yn ystod argyfwng Chernobyl, ac mae ofn effaith ymbelydredd yn un o’r amryw resymau dros ei gwrthwynebiad.
“Fel datblygwr cymunedol, ac fel rhywun sydd wedi ymgyrchu dros ynni cymunedol, ac fel rhywun sy’n tynnu gwallt fy mhen allan pan dw i’n gweld llywodraethau a gwleidyddion yn taflu miliynau tuag at ddiwydiant mor fudr,” meddai.
“£700m wedi’i addo i Sizewell C gan Boris, ar yr un pryd ag y mae o’n cynghori pobol sydd mewn tlodi tanwydd i brynu tegell newydd.
“Mae Ynni Ogwen yn gynllun 100 kilowat bychan, ond rydyn ni’n gwneud cyfraniad.
“Pobol leol bia Ynni Ogwen, pobol leol sy’n ei reoli fo a’i weithredu fo.
“Mae’r holl elw’n aros yn ein cymuned ni, yn cael ei roi i fanciau bwyd, ei ddosbarthu i fentrau sy’n atal tlodi tanwydd, mae’r pres yn aros yn lleol.
“Mae 75% o wariant yr holl sector ynni adnewyddadwy, cymunedol yng Nghymru yn aros mewn cymunedau, ydych chi’n gallu dweud yr un peth am Hitachi a Rolls Royce?”
‘Nid niwclear yw’r ateb’
Ymdrech i werthu’r syniad bod SMRs yn wahanol i orsafoedd niwclear traddodiadol yw eu galw nhw’n ‘fach’ neu ‘mini’, medd y cyn-Aelod o’r Senedd Ewropeaidd, Jill Evans.
“Dydyn nhw ddim [yn fach] a dydyn nhw ddim yn ddiogel,” meddai.
“Nid niwclear yw’r ateb i’n hanghenion ynni nag i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
“Ac mae yna gysylltiad uniongyrchol rhwng ynni niwclear sifil ac arfau niwclear.
“Mae dros 80 o wladwriaethau wedi arwyddo cytundeb y Cenhedloedd Unedig i wahardd arfau niwclear, hwnnw yw’r cytundeb sy’n rhoi sail gadarnhaol a realistig i ni er mwyn gwahardd arfau niwclear am byth.
“Mae gennym ni’r adnoddau naturiol a’r pŵer dynol i ddatblygu technoleg adnewyddadwy er mwyn ateb galw go iawn ein cymunedau lleol.
“Rydyn ni angen swyddi cynaliadwy er mwyn cael cymunedau cynaliadwy.”