Bydd aelodau o garfan ieuenctid CND Cymru yn gorymdeithio er mwyn protestio yn erbyn y penderfyniad i leoli adweithyddion niwclear bach yn Nhrawsfynydd a Wylfa.
Fis medi, bydd gorymdaith saith niwrnod yn dechrau o Orsaf Bŵer Niwclear Trawsfynydd ar Fedi 4 cyn dod i ben yn Wylfa ar Ynys Môn ar Fedi 10, lle bydd rali’n cael ei chynnal hefyd.
Mae’r grŵp yn protestio yn erbyn penderfyniad Llywodraeth San Steffan i leoli Adweithyddion Niwclear Modiwlaidd Bach (SMRs) ar safle’r hen atomfeydd “o ganlyniad i’r peryglon i’r amgylchedd ac i bobol”.
Yn ôl Dr Bethan Siân Jones, Ysgrifennydd Cenedlaethol CND Cymru, mae’n teimlo fel bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn defnyddio Cymru “fel ryw fath o arbrawf” gan fod SMRs yn dechnoleg newydd.
“Rydyn ni’n credu bod y llywodraeth yn San Steffan yn gwyrddgalchu (greenwash) ynni niwclear. Hynny yw, maen nhw’n gwerthu ynni niwclear fel ffyrdd o ynni glân, diogel, fel rhywbeth sydd wedi cael ei gynhyrchu yn y Deyrnas Unedig,” meddai wrth golwg360.
“Mae hyn i gyd yn digwydd yn ystod argyfwng yr hinsawdd. Dyw e ddim yn ynni glân, mae’n fudr ofnadwy. Dyw e ddim yn ddiogel chwaith, os ydyn ni’n edrych ar y risgiau o ynni niwclear yn y gorffennol, enghreifftiau fel Chernobyl a Fukushima, rydyn ni’n gwybod eu bod nhw’n beryglus.
“Mae’r ffaith eu bod nhw’n dweud bod yr SMRs yma am gael eu cynhyrchu yn y Deyrnas Unedig yn rwtsh llwyr, achos mae’n rhaid i wraniwm gael ei fwyngloddio ar diroedd pobol frodorol yn Awstralia, yn ogystal â pharthau deheuol y byd.
“Mae’n rhaid symud yr wraniwm fyny, ac mae hwnna’n cymryd carbon ac ati o’r llongau.
“Mae pobol yn Awstralia a pharthau deheuol y byd am gael eu tiroedd wedi’u hecsbloetio er mwyn benefitio ni yn y gorllewin, dyw hwnna ddim yn mynd i ddod â chyfiawnder hinsawdd.
“Be sy’n mynd i wneud cyfiawnder hinsawdd yw cael Cymru wirioneddol wyrdd sydd ddim yn mynd i adael i’r ecsbloetiaeth yma ddigwydd mewn rhannau eraill o’r byd.”
‘Arbrawf’
Un peth arall sy’n peri pryder yw fod SMRs yn dechnoleg newydd, yn ôl Bethan Siân Jones.
“Does dim SMRs yn y Deyrnas Unedig. Bron â bod, [mae e] fel bod y llywodraeth yn defnyddio Cymru fel rhyw fath o arbrawf,” meddai.
“Dw i’n cofio bod mewn cyfarfod efo gwyddonydd o Greenpeace ac roedd e’n dweud bod y ffaith bod yr SMRs yma am gael eu lleoli yn Nhrawsfynydd yn disturbing achos mae’r llyn yno wedi cael ei ddefnyddio efo’r pwerdy niwclear oedd yna cynt a does dim lle i ddŵr dianc o’r llyn yna. Maen nhw’n ailddefnyddio llyn sydd efo lefelau uchel o ymbelydredd yno’n barod.
“Be oedd y gwyddonydd yna ei ddweud hefyd: ‘Os yw’r llywodraeth yn San Steffan mor obsessed efo cynhyrchu ynni niwclear, pam smo nhw ddim yn lleoli SMR wrth San Steffan neu yn Llundain?’
“Dydyn nhw ddim achos eu bod nhw’n gwybod ei fod e’n risg, maen nhw’n gwybod mai arbrawf yw hyn.”
Cyfrifoldeb cenedlaethau’r dyfodol
Er mai carfan ifanc CND Cymru fydd yn arwain yr orymdaith, mae croeso i unrhyw un ymuno â’r daith.
Does dim rhaid i bobol gerdded dros y saith niwrnod, ac mae croeso iddyn nhw ymuno fel y maen nhw’n gweld orau.
“Rydyn ni wedi galw am yr orymdaith, fel pobol ifanc, achos ein bod ni wedi blino ar y gwyrddgalchu, a heb swnio’n ageist fan hyn, ond mae’r bobol sydd mewn pŵer a’r bobol sy’n gwneud y penderfyniad yma am leoli SMRs – dydyn nhw ddim yn mynd i fod fan hyn pan fydd angen glanhau’r gwastraff a delio efo hyn i gyd,” meddai Bethan Siân Jones wedyn.
“Mae e’n mynd tu hwnt i’n cenhedlaeth ni hefyd, rydyn ni’n sôn am blant ein plant, a’u plant nhw, bydd eu cenedlaethau nhw am fod yn gyfrifol am lanhau’r llanast hefyd.
“Rydyn ni eisiau creu linc cryf rhwng newid hinsawdd ac ynni niwclear. Mae yna gymaint o bobol ifanc sydd mor wybodus, sy’n ymgyrchwyr o fri yn y mudiad newid hinsawdd, ond dyw’r lincs yna rhwng ynni niwclear a newid hinsawdd ddim yn cael ei wneud o reidrwydd.”
Mae gofyn i unrhyw un sydd am gefnogi neu gofrestru ar gyfer yr orymdaith gysylltu â heddwch@cndcymru.org