Erbyn 2035, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i ddi-garboneiddio ein dulliau o gynhyrchu trydan er mwyn cyrraedd targedau i osgoi cynhesu byd eang.

Mae ganddynt gwmni newydd o’r enw “Great British Nuclear”, a bwriad Boris Johnson yw codi wyth adweithydd newydd erbyn 2050 (roedd gan Mrs Thatcher fwriad i godi deg ond un godwyd mewn 18 mlynedd, ac un gododd Tony Blair mewn 16 mlynedd). Bydd adeiladu rhain yn dechrau yn 2027. Wyth mlynedd i gyrraedd y targed felly.

Mae Cymru yn cynhyrchu dwywaith yr ynni y mae’n ei ddefnyddio a hi yw pumed allforiwr ynni mwya’r byd. Daw 25% o’i holl drydan o ynni adnewyddol. Nid yw Llywodraeth San Steffan wedi datganoli cynlluniau ynni dros 300Mw i Gymru.

Dywed CADNO y dylai Cwmni Egino yn Nhrawsfynydd ganolbwyntio ar ynni adnewyddadwy sydd yn ateb cynt a mwy hyblyg i’n gofynion, yn hytrach na gobeithio y bydd cyllid i arbrofi rhagor gyda diwydiant sydd yn ansicr ac yn llygru. Gwelwyd eisoes y llanast sy’n digwydd pan fydd cwmniau mawrion yn troi eu cefnau ar brosiectau, fel y gwelodd Alan Raymant, prif weithredwr Egino, gyda chwmni Horizon. Gellir dibynnu mwy ar nifer o brosiectau cymunedol sydd yn fwy cynaladwy.

SMNR, Adweithion Modular Niwcliar Bach

Sail y cynllun ar gyfer y rhain yw adweithyddion y llongau tanfor niwclear sef rhai Dŵr dan Bwysau fel Three Mile Island, America. Adweithyddion Magnox sydd yn Nhrawsfynydd a’r Wylfa. Camargraff yw eu galw’n fach gan y byddent yn cynhyrchu 450Mw sef tua’r un faint a’r gorsafoedd cynt.

Nid ydynt chwaith yn garbon isel.

Ar waelod hysbyseb deledu EDF, mewn print mân yn symud yn hynod o gyflym, dywedir mai yn ystod cynhyrchu yn unig mae hynny. Nid yw’r darlun llawn, o gloddio iwraniwm yn danwydd, hyd at ddelio efo’r gwastraff yn cael ei gyfrif.

Byddai’n rhaid i bob un adweithydd gynhyrchu am chwe mlynedd i ’dalu am’ eu ôl troed carbon.

A oes galw amdanynt?

Y ddadl yw fod yn rhaid eu cael oherwydd na ellir dibynnu ar ynni gwynt a haul; rhain fyddai’r llwyth sylfaenol (baseload) ’dibynadwy’ meddent.

Cynhyrchir 70% o ynni Ffrainc gan adweithyddion niwcliar ond ers diwedd Ebrill mae 28 o’u 56 adweithydd wedi cau, pump oherwydd bod cancro neu rydu yn achosi craciau, ac amheuaeth am chwech arall, ac felly mae’r Deyrnas Unedig yn gwerthu trydan iddynt.

Cynllun ‘Regulated Asset Base’

Bwriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw i ddefnyddwyr gyfrannu ymlaen llaw am y gorsafoedd newydd drwy roi tâl ychwanegol ar eu biliau trydan, ond byddant hefyd yn gorfod prynu y trydan y bydd y gorsafoedd niwclear yn ei gynhyrchu yn hytrach nag ynni adnewyddol rhatach.

Llongau tanfor niwclear

Nid oes yr un wedi ei datgymalu eto, ond maent yn cael eu storio yn Plymouth (13) a Rosyth (saith) ar gost o £30m y flwyddyn i’r trethdalwyr. Cyhoeddwyd yn Chwefror mai HMS Valiant fydd y gyntaf i’w datgymalu.

Gwastraff niwclear

Nid oes sôn am wastraff yn y lluniau delfrydol o orsaf SMNR. Ni chafwyd ateb i ddelio efo gwastraff y gorsafoedd Magnox ers nifer fawr o flynyddoedd.

Yn ol adroddiad o America, byddai’r adweithyddion newydd yn cynhyrchu mwy hyd yn oed o wastraff ymbelydrol.

Lluosogi arfau niwclear

Rhaid cael y diwydiant niwcliar sifil i gynnal sgiliau’r gweithwyr y diwydiant hwn yn ôl cofnodion Llywodraeth San Steffan. Dyna’r gwir reswm dros awydd y Llywodraeth yno i geisio atgyfodi’r diwydiant.

Barn gyhoeddus leol

Y dyddiau yma, mae pleidiau gwleidyddol yn dechrau sylweddoli mai ewyllys trigolion sy’n bwysig. Mynegodd etholaeth Dwyfor Meirionnydd eu barn drwy ethol yr unig ymgeisydd a oedd yn fodlon datgan ei fod yn wrth-niwcliar, i Senedd Cymru.

Strategaeth diogelwch ynni

Mae codi rhain yn ddibynnol ar “werth am arian a’r adolygiad gwariant” yn ôl y Trysorlys, ac mae’n bosibl iawn na ddônt i fodolaeth.

Gwarchod cenedlaethau’r dyfodol?

Dywed Gweinidog Amgylchedd yr Almaen, Dr. Barbara Hendricks, y bydd mwy na 30,000 cenhedlaeth yn cael eu heffeithio gan dechnoleg niwclear sydd ddim ond wedi ei defnyddio am 60 mlynedd.