Mae tri o arweinwyr yr ymgyrch tros annibyniaeth i Gatalwnia am droi at Lys Hawliau Dynol Ewrop yn y gobaith o gael dileu eu dedfrydau am annog gwrthryfel.
Cafodd Oriol Junqueras, Raül Romeva a Dolors Bassa eu dedfrydu i garchar am eu rhan yn yr ymgyrch yn 2017, pan gafodd refferendwm ei gynnal oedd yn cael ei ystyried yn anghyfansoddiadol gan Sbaen.
Gyda’r tri hyn, mae pob arweinydd fu’n rhan o’r ymgyrch bellach wedi mynd â’u hapêl i’r llys yn Strasbourg.
Y tri olaf
Ddoe (dydd Mercher, Gorffennaf 20), fe wnaeth y tri olaf o blith y rhai a gafodd eu carcharu gyflwyno’u hapêl yn erbyn eu dedfrydau yn 2019.
Cawson nhw ddedfrydau rhwng 12 a 13 o flynyddoedd o garchar.
Fis Mehefin y llynedd, fe gawson nhw bardwn gan Lywodraeth Sbaen, oedd yn eu galluogi nhw i adael eu celloedd yn y carchar.
Cafwyd Oriol Junqueras, Raül Romeva a Dolors Bassa yn euog o annog gwrthryfel a chamddefnyddio arian cyhoeddus, ac fe wnaethon nhw i gyd feirniadu Sbaen am dorri hawliau dynol megis yr hawl i achos llys teg, rhyddid barn ac i ymgynnull, yn ogystal â nifer o hawliau gwleidyddol eraill.
Dywed Oriol Junqueras fod y tri yn hyderus y gallai dyfarniad positif gan y llys yn Strasbourg helpu pobol eraill sydd yng nghanol achosion llys tebyg mewn perthynas â’r ymgyrch tros annibyniaeth, ond fod perygl y gallai’r hyn sydd wedi digwydd i’r tri ddigwydd i ragor o bobol “sy’n cwestiynu’r status quo” yn Sbaen.
Mae Jordi Sanchez, Jordi Cuixart, Josep Rull, Jordi Turull, Carme Forcadell a Quim Forn hefyd wedi cyflwyno’u hapêl, sy’n golygu bod Strasbourg wedi clywed gan y naw arweinydd a gafodd eu carcharu yn dilyn y refferendwm yn 2017.
Mae’r tri yn credu mai mewn undod mae nerth wrth gyflwyno’u hachos ar y cyd, ac mae lle i gredu y gallai’r sefyllfa gymryd hyd at dair blynedd i’w datrys.
Mae barn llysoedd Sbaen ar fater yr ymgyrch annibyniaeth wedi’i hollti i raddau helaeth, gyda rhai yn fwy llym na’i gilydd.
Er gwaetha’r apêl gan nifer o arweinwyr yn erbyn y ddedfryd am annog gwrthryfel, dydy’r rhai a gafwyd yn euog o anufudd-dod, Carles Mundó a Meritxell Borràs, ddim yn apelio yn Strasbourg.
Wnaeth Santi Vila ddim cyflwyno apêl i’r Llys Cyfansoddiadol hyd yn oed.
Cafodd y tri eu dedfrydu i flwyddyn ac wyth mis o garchar yr un.