Mae cynlluniau i adeiladu rhagor o gabanau gwyliau ar barc carafanau sy’n daith gerdded fer o Lanidloes wedi cael eu cymeradwyo gan gynllunwyr ym Mhowys.

Bydd y teulu Onions, sy’n berchen ar y Red Kite Touring Park, bellach yn gallu adeiladu wyth caban ar y safle oddi ar ffordd B4518 sy’n mynd am Lyn Clywedog.

Mae Cyngor Tref Llanidloes hefyd wedi cymeradwyo’r cais, gan ddweud y byddai “o fudd i’r dref a’r cyffiniau”.

Bydd y cabanau 40 troedfedd wrth 20 troedfedd yn cynnwys lolfa, ystafell wely, ystafell ymolchi a chegin, a bydd lle parcio ger pob caban.

Rhywfaint o wrthwynebiad

Mae eglurhad yn y dogfennau gyda’r cais y bydd y cabanau’n cael eu hystyried yn “garafanau”, sy’n golygu bod modd eu symud nhw ac y byddan nhw’n cyrraedd yn eu cyfanrwydd ac yn cael eu hanghori wrth sylfeini concrid.

Dywed Kate Bowen, y swyddog cynllunio uwch, yn ei hadroddiad y bu rhai pryderon a gwrthwynebiadau i’r cynnig.

Mae’r gwrthwynebwyr yn credu bod digon o lety twristaidd yn yr ardal eisoes, ac y byddai’n rhoi mwy o “straen” ar gyfleusterau ac adnoddau’r gymuned.

“Gwerthfawrogir y pryderon o fewn ymateb y cyhoedd ac maen nhw wedi’u hystyried yn ofalus,” meddai.

“Fodd bynnag, caiff darpariaeth llety twristaidd ei chefnogi yn y polisi cynllunio drwyddi draw ac o gofio nad yw’n cael ei ystyried y byddai’r datblygiad yn cael effaith annerbyniol ar y dirwedd, cyfleusterau preswyl, ecoleg nac unrhyw fater cynllunio arall, y casgliad yw fod y datblygiad yn dderbyniol, yn unol â’r defnydd o amodau.

“Felly, yr argymhelliad yw caniatâd amodol.”

Amodau

Un o’r amodau yw mai at ddefnydd llety gwyliau yn unig y caiff y cabanau eu defnyddio, ac nid fel unig neu brif gartref person.

Cafodd y parc carafanau ganiatâd cynllunio yn wreiddiol yn 2014, ac mae 66 lle i garafanau yno, derbynfa, caban wardeiniaid a bloc o doiledau.

Mae’r teulu hefyd yn berchen ar Clywedog Riverside Park gerllaw ac yn ei redeg, ac mae gan hwnnw 108 o garafanau statig at ddefnydd perchnogion.